Neidio i'r cynnwys

El Lissitzky

Oddi ar Wicipedia
El Lissitzky
Ganwyd10 Tachwedd 1890 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Pochinok Edit this on Wikidata
Bu farw30 Rhagfyr 1941 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Riga Technical University
  • Technische Universität Darmstadt Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, pensaer, dylunydd graffig, ffotograffydd, dylunydd math, athro, cynllunydd, teipograffydd, drafftsmon, artist Edit this on Wikidata
ArddullSwprematiaeth, Adeileddiaeth Edit this on Wikidata
MudiadAdeileddiaeth, Swprematiaeth Edit this on Wikidata
PriodSophie Lissitzky-Küppers Edit this on Wikidata
PlantJen Lissitzky Edit this on Wikidata

Roedd Lazar Markovich Lissitzky (Rwsieg: Ла́зарь Ма́ркович Лиси́цкий), (23 Tachwedd 189030 Rhagfyr 1941), El Lissitzky (Rwsieg: Эль Лиси́цкий) yn ffotograffydd, teipograffwr, dylunydd a phensaer Rwsiaidd ac yn ffigwr pwysig mewn celfyddyd avant-garde Rwsia.

Gwaith

[golygu | golygu cod]

Fe ddatblygodd yr arddull Suprematism gyda Kazimir Malevich ac fe ddyluniodd nifer fawr o bosteri propaganda ac arddangosfeydd ar gyfer yr Undeb Sofietaidd.

Mae Suprematism yn symudiad celf, o ddechrau’r 20g oedd yn canolbwyntio ar ffurfiau geometrig sylfaenol, fel cylchoedd, sgwariau a llinellau, wedi'u paentio mewn ystod gyfyngedig o liwiau. Fe'i sefydlwyd gan Kazimir Malevich yn Rwsia, tua 1913, ac chynhaliwyd arddangosfa yn St. Petersburg ym 1915, lle dangoswyd gwaith Malevich ac 13 o artistiaid eraill gyda gwaith mewn arddull debyg. Mae'r term Suprematism yn cyfeirio at gelfyddyd haniaethol yn seiliedig ar "oruchafiaeth deimlad artiffisial pur" yn hytrach nag ar ddarluniau gweledol o wrthrychau.

Roedd gwaith El Lissitsky yn ddylanwad mawr ar y Bauhaus a'r mudiad celfyddydol lluniadaethol (constructivist) a dylunio graffig yr 20g yn gyffredinol. Ymhlith enwau mawr a fu'n cyd-weithio oedd yr arlunwyr Marc Chagall, Kurt Schwitters, Wassily Kandinsky, László Moholy-Nagy, Theo van Doesburg, Alexander Rodchenko a'r bardd Vladimir Mayakovsky.

Fe gredai Lissitzky fod celfyddyd yn gallu newid a gwella bywyd, fel y gyhoeddodd yn "das zielbewußte Schaffen". (creu pwrpasol) [1].

O dras Iddewig, fe ddechreuodd ei yrfa yn darlunio llyfrau plant Iddew-Almaeneg (Yidish), fel rhan o ymdrechion i hyrwyddo diwylliant Iddewig yn Rwsia, gwlad oedd wedi dioddef hanes o wrth-Semitiaeth ond oedd newydd gael gwared â chyfreithiau yn erbyn Iddewon.

Fe ddechreuodd Lissitzky ddysgu fel athro celf yn 15 oed ac fe barodd yn athro hyd ei oes, yn dysgu mewn amryw o ysgolion a cholegau celf a swyddi. Gweithiodd gyda Malevich yn arwain y grŵp celfyddydol suprematist UNOVIS, a datblygodd steil suprematist ei hun, sef Proun.

Yn dilyn Chwyldro Rwsia cymerodd swydd yn 1921 fel llysgennad diwylliannol i Weriniaeth Weimar, Yr Almaen, yn gweithio gyda'r mudiadau Bauhaus a De Stijl.

Dychwelodd i'r Undeb Sofietaidd a fu'n arloeswr ym maes dylunio graffig yn torri tiroedd newydd mewn teipograffiaeth, photomontage a dylunio arddangosfeydd gan ddenu edmygedd mawr trwy'r byd celf rhyngwladol. Hyd yn oed ar ei wely angau yn 1941 fe gynlluniodd boster popaganda Sofietaidd yn annog gweithwyr i adeiladu rhagor o danciau yn y rhyfel yn erbyn Natsïaeth.[2] '

Er i lywodraeth Stalin wahardd gwaith haniaethol ac hyd yn oed erlid llawer o'r arlunwyr haniaethol fe lwyddodd El Lissitzky i gadw ar ochr iawn y gyfundrefn [3].

Y Lletem Goch

[golygu | golygu cod]
El Lissitzky, Curwch y Gwynion gyda'r Lletem Goch 1919

Un o bosteri enwocaf Lissitzky yw Curwch y Gwynion gyda'r Lletem Goch (Клином красным бей белых!), 1919, poster propaganda comiwnyddol sydd yn defnyddio elfennau a syniadaeth suprematism. Mae'r cynllun yn cyfleu'i neges yn bennaf gyda ffurfiau haniaethol yn hytrach na geiriau gan roedd lefel uchel o anllythrennedd ymhlith pobl yr Undeb Sofietaidd ar y pryd.

Yn y poster mae'r siâp miniog coch yn cynrychioli'r lluoedd 'cochion' Bolsieficaidd a oedd yn ymladd yn erbyn y lluoedd 'gwynion' brenhinol yn Rhyfel Cartref Rwsia. Mae'r siâp coch caled yn torri mewn a thyllu trwy'r siâp gwyn crwn i gyfleu ymosodiad a buddugoliaeth y cochion.[4]

Nodiadau

[golygu | golygu cod]
  1. A Dictionary of Architecture and Landscape Architecture (Oxford Paperback Reference), James Stevens Curl (May 1, 2007)
  2. Self-Portrait: Constructor. Victoria & Albert Museum, 2013. Retrieved 8 July 2013.
  3. Tupitsyn
  4. George Heard Hamilton. Painting and sculpture in Europe, 1880–1940. p. 317

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  • Curl, James Stevens (2006). A Dictionary of Architecture and Landscape Architecture (Paperback) (arg. Second). Oxford University Press. t. 880 pages. ISBN 0-19-860678-8.
  • Albrecht, Wilma Ruth: (1993). EL - wie Lissitzky. Das Künstlerporträt. Liberal, 35 (1993) 4, pp. 50-60. ISSN 0459-1992.CS1 maint: extra punctuation (link)
  • Balandin, S. N. (1968). "Arkhitekturnaya teoriya El Lisitskogo (Архитектурная теория Эль Лисицкого)" (yn Russian). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-10. Cyrchwyd 2008-10-01.CS1 maint: unrecognized language (link)
  • Burgos, Francisco; Garrido, Gines (2004). El Lissitzky. Wolkenbugel 1924-1925. Absent Architecture (Rueda, Spain). ISBN 978-84-7207-158-2.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  • Curl, James Stevens (2006). A Dictionary of Architecture and Landscape Architecture (Paperback) (arg. Second). Oxford University Press. t. 880 pages. ISBN 0-19-860678-8.
  • Ilyicheva, Anna (2008). "Avangard na samoteke (Авангард "на cамотеке")" (yn Russian). lenta.ru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-23. Cyrchwyd 2014-07-09.CS1 maint: unrecognized language (link)
  • Glazova, Anna (2003). "El Lissitzky in Weimar Germany". Speaking in Tongues. The Magazine of Literary Tran slation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-30. Cyrchwyd 2008-10-01.
  • Lissizky, El; Schwitters, Kurt (1924). "Merz (magazine) no. 8-9". Cyrchwyd 2008-10-01.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  • Lissitzky-Kuppers, Sophie (1980). El Lissitzky, life, letters, texts. Thames and Hudson. ISBN 0-500-23090-0.
  • Mallgrave, Harry Francis (2005). Modern Architectural Theory: A Historical Survey, 1673-1968. Cambridge. ISBN 0-521-79306-8.
  • Margolin, Victor (1997). The struggle for utopia: Rodchenko, Lissitzky, Moholy-Nagy : 1917–1946. University of Chicago Press. ISBN 0-226-50516-2.
  • Margolin, Victor (2000). "El Lissitzky's Had Gadya, 1919" (PDF). Yeshiva University, New York. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-10-03. Cyrchwyd 2008-10-02.
  • Mayakovsky, Vladimir; El Lissitzky (2000). For the Voice (Dlia golosa). The MIT Press. ISBN 0-262-13377-6.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  • Perloff, Nancy (2005). "Design by El Lissitzky". Getty Research Institute. Cyrchwyd 2008-10-01.
  • Perloff, Nancy; Reed, Brian (2003). Situating El Lissitzky: Vitebsk, Berlin, Moscow. Getty Research Institute. ISBN 0-89236-677-X.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  • Spencer, Herbert; Poynor, Rick (2004). Pioneers of modern typography. MIT Press. ISBN 978-0-262-69303-5.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  • Shatskikh, Alexandra (2007). Vitebsk: The Life of Art. Yale University Press. ISBN 978-0-300-10108-9.
  • Tupitsyn, Margarita (1999). El Lissitzky: Beyond the Abstract Cabinet. Yale University Press. ISBN 978-0-300-08170-1.
  • El Lissitzky. Wolkenbügel 1924-1925. Publisher= Editorial Rueda, Madrid, 2005 ISBN 84-7207-158-8

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Rhestr catalog arwerthiant Swann Galleries yn cynnwys gwaith El Lissitzky.