Edwina Hart
Gwedd
Edwina Hart | |
---|---|
Ganwyd | 26 Ebrill 1957 Tre-gŵyr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, banciwr, undebwr llafur |
Swydd | Minister for Business, Enterprise, Technology and Science, Gweinidog dros Iechyd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Minister for Finance, Secretary for Finance, Y Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1af, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 3ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelodau 4ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Minister for Social Justice and Regeneration |
Plaid Wleidyddol | Llafur Cymru, y Blaid Lafur |
Gwobr/au | MBE |
Gwleidydd Cymreig yw Edwina Hart (ganwyd 26 Ebrill 1957). Roedd hi'n Aelod Cynulliad Gŵyr dros y Blaid Lafur rhwng 1999 a 2016.
Bu'n weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn Llywodraeth Cymru rhwng 2000 a 2003. Yna aeth yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol rhwng 2007 a 2011. Ei swydd olaf yn y Cynulliad oedd Gweinidog dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, rhwng 2011 a 2016. Ni gystadlodd yn etholiad Cynulliad 2016.
Cyn cael ei hethol i'r Cynulliad bu'n gweithio ym myd bancio ac yn llywydd undeb y BIFU, sy'n awr yn rhan o undeb Amicus. Priod Edwina yw Bob Hart.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2004-04-07 yn y Peiriant Wayback
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ŵyr 1999 – 2016 |
Olynydd: Rebecca Evans |
Categorïau:
- Egin Cymry
- Aelodau Llywodraeth Cymru
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999–2003
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2016
- Genedigaethau 1957
- Gwleidyddion Cymreig yr 20fed ganrif
- Gwleidyddion Cymreig yr 21ain ganrif
- Gwleidyddion y Blaid Lafur (DU)
- Pobl o Sir Abertawe
- Merched yr 20fed ganrif
- Merched yr 21ain ganrif