Doreen Carwithen
Doreen Carwithen | |
---|---|
Ganwyd | 15 Tachwedd 1922 Haddenham |
Bu farw | 5 Ionawr 2003 Forncett |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm |
Priod | William Alwyn |
Roedd Doreen Mary Carwithen (15 Tachwedd 1922 – 5 Ionawr 2003) yn gyfansoddwraig Seisnig, sy'n fwyaf adnabyddus am ei cherddoriaeth glasurol a ffilm. Roedd hi'n ail wraig i'r cerddor Saesneg William Alwyn, ac roedd hi'n cael ei hadnabod hefyd fel Mary Alwyn.
Cafodd Doreen Carwithen ei geni yn Haddenham, Swydd Buckingham, yn ferch i athrawes gerdd. Yn 16 oed dechreuodd gyfansoddi.
Yn 1941 aeth Carwithen i'r Academi Gerdd Frenhinol. Roedd hi'n aelod o ddosbarth cytgord y cyfansoddwr enwog William Alwyn, a ddechreuodd ddysgu ei chyfansoddiad. Ysgrifennodd yr agorawd ODTAA (One Damn Thing After Another), a berfformiwyd am y tro cyntaf yn Covent Garden gan Adrian Boult ym 1947. Daeth yn ysgrifenyddes Alwyn ym 1961. Priododd a Alwyn ym 1975.[1]
Cafodd Mary Alwyn fel ei henw priod; Mary oedd ei henw canol. Gweithiodd fel Is-Athro Cyfansoddi yn yr RAM. Ar ôl marwolaeth ei gŵr ym 1985, sefydlodd Archif William Alwyn a Sefydliad William Alwyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Burton-Page, Piers (2004). "Alwyn, William (1905–1985)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. Online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/55919. Cyrchwyd 2015-01-05.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)