Darlene Hard
Gwedd
Darlene Hard | |
---|---|
Ganwyd | Darlene Ruth Hard 6 Ionawr 1936 Los Angeles |
Bu farw | 2 Rhagfyr 2021 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr tenis |
Taldra | 170 centimetr |
Gwobr/au | 'Neuadd Anfarwolion' Tennis Rhyngwladol, Women's Collegiate Tennis Hall of Fame |
Chwaraeon | |
Tîm/au | United States Wightman Cup team, United States Billie Jean King Cup team |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Chwaraewr tenis proffesiynol Americanaidd oedd Darlene Ruth Hard (6 Ionawr 1936 – 2 Rhagfyr 2021) Roedd hi'n adnabyddus am ei gallu foli a'i weini cryf. Cipiodd deitlau senglau ym Mhencampwriaethau Ffrainc ym 1960 a Phencampwriaethau'r UD ym 1960 a 1961.
Cafodd Hard ei geni yn Los Angeles, Califfornia, lle dysgodd ei mam Ruth iddi chwarae tenis.[1] Gweithiodd ym Mhrifysgol De Califfornia am nifer o flynyddoedd. Bu farw yn Ysbyty Northridge, yn 85 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Darlene Hard, three-time tennis major champion from L.A., dies at 85". Los Angeles Times (yn Saesneg). 3 Rhagfyr 2021. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2021.