Dadfathiad
Gwedd
Math o gyfnewidiad seinegol hanesyddol lle mae seiniau â nodweddion tebyg yn datblygu i fod yn llai tebyg i'w gilydd yw dadfathiad. Mae'n cyferbynnu â chymathiad, lle mae seiniau yn newid i ddod yn fwy tebyg i'w gilydd.
Yn y Gymraeg mae dadfathiad yn arbennig o gyffredin yn y llythrennau l, ll ac r. Enghreifftiau o ddadfathiad ar lafar yn y Gymraeg yw Chwefrol (Chwefror), arfedd (arfer) a cylleth (cyllell).