Neidio i'r cynnwys

Cynllun Dalet

Oddi ar Wicipedia
Cynllun Dalet
Enghraifft o'r canlynolcynllun gweithrediad milwrol Edit this on Wikidata
Rhan o1947–1948 Civil War in Mandatory Palestine Edit this on Wikidata

Cynllun milwrol Seionaidd oedd Cynllun Dalet (Hebraeg: 'תוכנית ד, Tochnit dalet " Cynllun D") a weithredwyd yn ystod rhyfel Palesteina 1948 er mwyn goresgyn tir ym Mhalesteina dan Fandad wrth baratoi i sefydlu gwladwriaeth Iddewig. Y cynllun oedd y glasbrint ar gyfer ymgyrchoedd milwrol lluoedd arfog y gymuned Iddewig (yr Yishuv) gan ddechrau ym mis Mawrth 1948 hyd at ddiwedd y rhyfel yn gynnar ym 1949, ac felly chwaraeodd ran ganolog yn y broses o yrru'r Palesteiniaid o'u tir ym 1948 a elwir yn Nakba.[1]

Daw enw'r cynllun o'r llythyren Dalet (ד), sef pedwaredd lythyren yr wyddor Hebraeg, ar ôl i gynlluniau o'r enw Aleph (א), Bet (ב), a Gimel (ג) gael eu diwygio.

Gofynnodd David Ben-Gurion, arweinydd yr Asiantaeth Iddewig a ddaeth brif weinidog cyntaf Israel yn ddiweddarach, am y cynllun. Cafodd ei ddatblygu gan yr Haganah a'i gwblhau ar Fawrth 10, 1948. Mae rhai haneswyr yn disgrifio'r gwaith o roi Cynllun Dalet ar waith, pan symudodd y lluoedd arfog Seionaidd at strategaeth ymosodol, fel dechrau cyfnod newydd yn rhyfel Palesteina 1948.[2][3] Mae eraill, fel Ilan Pappé, wedi dangos sut roedd y lluoedd arfog Seionaidd eisoes wedi bod yn ymladd rhyfel ymosodol ac wedi bod wrthi'n carthu pentrefi a chymunedau Palesteinaidd o'u trigolion ers mis Rhagfyr 1947.[4]

Set o ganllawiau i gymryd meddiant o Balesteina dan Fandad, datgan gwladwriaeth Iddewig, ac amddiffyn ei ffiniau a'i phobl, gan gynnwys y boblogaeth Iddewig y tu allan i'r ffiniau a bennwyd gan y Cenhedloedd Unedig, "cyn, ac wrth aros" goresgyniad gan fyddinoedd o wledydd Arabaidd oedd y Cynllun yn ffurfiol.[5][6][7][8][9] Roedd Cynllun Dalet yn cynnwys yn benodol ennill rheolaeth ar ardaloedd lle bynnag yr oedd poblogaethau'r Yishuv yn bodoli, gan gynnwys y rhai y tu allan i ffiniau'r wladwriaeth Iddewig arfaethedig a bennwyd gan y Cenhedloedd Unedig.[10]

Ymhlith tactegau’r cynllun roedd gosod gwarchae ar bentrefi Arabaidd Palesteina, bomio cymdogaethau dinasoedd, gorfodi eu trigolion i adael a symud i'r tu hwnt i ffiniau'r wladwriaeth Iddewig arfaethedig, rhoi caeau a thai ar dân a thanio TNT yn y rwbel i atal unrhyw un rhag dychwelyd.[11] Roedd gan unedau milwrol Seionaidd restrau manwl o gymdogaethau a phentrefi i'w dinistrio a gyrru eu trigolion Arabaidd i ffwrdd y tu hwnt i ffiniau'r wladwriaeth Iddewig arfaethedig.[11]

Mae’r strategaeth hon yn destun dadlau, yn enwedig o safbwynt bwriad y cynllun, gyda rhai haneswyr yn ei disgrifio fel un amddiffynnol, tra bod eraill yn ei weld yn un ymosodol a haeru ei fod yn rhan annatod o strategaeth gynlluniedig gan arweinyddiaeth yr Yishuv i yrru trigolion brodorol y wlad o'u tir, a elwir weithiau yn garthu ethnig.[12]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Khalidi, Walid (1988-10-01). "Plan Dalet: Master Plan for the Conquest of Palestine" (yn en). Journal of Palestine Studies 18 (1): 4–19. doi:10.2307/2537591. ISSN 0377-919X. JSTOR 2537591. https://www.tandfonline.com/doi/full/10.2307/2537591.
  2. Morris, 2008, p. 116
  3. Khalidi, Walid (2008). "The Fall of Haifa Revisited". Journal of Palestine Studies 37 (3): 30–58. doi:10.1525/jps.2008.37.3.30. ISSN 0377-919X. JSTOR 10.1525/jps.2008.37.3.30. https://www.jstor.org/stable/10.1525/jps.2008.37.3.30.
  4. Pappe, Ilan (2006). The Ethnic Cleansing of Palestine. London: Oneworld. tt. 55–60. ISBN 978-1-85168-555-4.
  5. David Tal (2004). War in Palestine, 1948: strategy and diplomacy. Psychology Press. tt. 165–. ISBN 9780203499542.
  6. Benny Morris. The Birth of the Palestinian Refugee Problem Revisited, Benny Morris, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, t. 155.
  7. MidEast Web, Plan Daleth (Plan D)
  8. Yoav Gelber (Ionawr 2006). Palestine, 1948: war, escape and the emergence of the Palestinian refugee problem. Sussex Academic Press. tt. 98–. ISBN 978-1-84519-075-0. Cyrchwyd 14 Ebrill 2011.
  9. Ten years of research into the 1947-49 war - The expulsion of the Palestinians re-examined. By Dominique Vidal. Le Monde diplomatique. Rhagfyr 1997.
  10. Robbie Sabel, [’https://www.google.com/books/edition/International_Law_and_the_Arab_Israeli_C/f_xpEAAAQBAJ?hl=en&gbp International Law and the Arab-Israeli Conflict,] Gwasg Prifysgol Caergrawnt ISBN 978-1-108-80798-2 2022 p.131:'The objective of this plan is to gain control of the areas of the Hebrew state and defend its borders. It also aims at gaining control of the areas of Jewish settlement and concentration which are located outside the borders (of the Jewish state in the Partition Plan) against regular, semi-regular, and small forces operating from bases outside or inside the state.’ .'
  11. 11.0 11.1 Pappé 2017.
  12. Morris 2008

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]