Cymdeithas Ffederasiynau Pêl-droed Aserbaijan
UEFA | |
---|---|
Sefydlwyd | 1992 |
Aelod cywllt o FIFA | 1994 |
Aelod cywllt o UEFA | 1994 |
Llywydd | Rovnag Abdullayev |
Gwefan | affa.az |
Cymdeithas Ffederasiynau Pêl-droed Aserbaijan (Asereg: Azərbaycan Futbol Federasiyaları Assosiasiyası, AFFA) yw corff llywodraethol pêl-droed gweriniaeth Aserbaijan. Ffurfiwyd yr AFFA yn 1992 ac mae'n gyfrifol am oruchwilio pob agwedd o'r gêm amatur a phroseiynol yn y wlad. Mae AFFA yn gyfrifol am dîm cenedlaethol Aserbaijan a'r holl dimau eraill gan gynnwys menywod ac ieuenctid, cynghreiriau, cwpan a tîm menywod. Lleolir y pencadlys yn y brifddinas, Baku.
Er bod Aserbaijan yn wlad ar lan y Môr Caspian, i'r dwyrain o Dwrci (sy'n siarad chwaer-iaith) ac i'r de o Rwsia a'r gogledd o Iran, mae'n rhan o UEFA, ffederasiwn cymdeithasau pêl-droed Ewrop yn ogystal â FIFA (y corff byd-eang).
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r Aseriaid yn bobl Twrceg o ran iaith a Mwslim o ran crefydd, ond bu'r wlad o dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia ac yna'r Undeb Sofietaidd hyn nes cwymp yr Undeb yn 1991. Tan y flwyddyn honno, roedd Aserbaijan yn weriniaeth o fewn yr Undeb Sofietaidd ond heb statws gwlad annibynnol na thîm pêl-droed annibynnol - fel holl wledydd eraill megis Estonia, Iwcrain ac Armenia, sydd nawr yn wledydd annibynnol.
Yn dilyn cwymp yr Undeb Sofietaidd ffurfiwyd yr AFFA ar 26 Mawrth 1992, wedi i Aserbaijan ennill ei hannibyniaeth.[1] Ar 23 Chwefror 2009, datgelodd yr AFFA, ynghŷd ag Is-lywydd UEFA, Şenes Erzik, Academi Bêl-droed Azerbaijan.[2][3]
Logo Newydd
[golygu | golygu cod]Yn 2010, mabwysidodd yr AFFA arwyddlun newydd.[4] Yn ystod yr 1990au newidiodd y wlad yn raddol ac yn dameidiog oddi ar defnyddio'r wyddor Gyrilig (fel wyddor Rwsieg) i ddefnyddio'r wyddor Ladin tebyg i orgraff yr iaith Twrceg. Sylwir felly y ceir defnydd o'r ddau wyddor yn ystod dyddiau cynnar yr AFFA. Noder bod y lythyren ə unigryw yn dynodi'r sŵn 'schwa' sy'n cyfateb i'r 'y' Gymraeg.
Anghydfod gyda FIFA
[golygu | golygu cod]Derbyniodd yr AFFA ergyd gan FIFA ym mis Ebrill 2002 pan ddododd FIFA waharddiad dwy flynedd ar yr AFFA yn dilyn anghydfod rhwng y Gymdeithas a'r mwyafrif o glybiau Uwch Gynghrair Aserbaijan.[5] Bu'n rhaid dod â'r gystadleuaeth ddomestig i ben oherwydd yr anghydfod a gwrthododd y timau eu chwraewyr rhag chwarae i'r tîm cenedlaethol, gyda'r swyddogion treth yn ymchwilio i gyhuddiadau o dwyll o fewn yr AFFA.[6]
Yn 2012 etholwyd Rovnag Abdullayev fel Llywydd i'r Gymdeithas er mai ef oedd yr unig enwebiad.[7]
Cwpan Pêl-droed Menywod y Byd d-17, 2012
[golygu | golygu cod]Yn 2012 cynhaldwyd Cwpan Pêl-droed Menywod o dan 17 oed FIFA yn Aserbaijan.[8] Cynhaliwyd y gemau rhwng 22 Medi - 13 Hydref 2012. Enillwyd y gystadleuaeth gan Ffrainc. Cynhaliwyd yr holl gemau mewn tair stadiwm gwahanol - dau yn ninas Baku ac un yn ninas Lankaran, ger y ffin ag Iran. Ni lwyddodd i dîm Azerbaijan fynd drwy ei rownd gyntaf. Nid oedd tîm gan Gymru yn cystadlu yn y bencampwriaeth.
Cystadlaethau
[golygu | golygu cod]Mae'r AFFA yn gyfrifol am y twrnamentiau canlynol:
- Pêl-droed Dynion
- UWch Gynghrair Aserbaijan (Azeri: Topaz Premyer Liqası)
- Adran Gyntaf Aserbaijan (Birinci Divizion); yr ail adran
- Cwpan Aserbaijan
- Supercup Aserbaijan
- Cynghrair Futsal Azerbaijan
- Cynghrair Amatur AFFA
- Pêl-droed Menywod
Timau Cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Yr AFFA sy'n gyfrifol am dimau cenedlaethol y wlad:
- Dynion
- Tîm pêl-droed cenedlaethol Aserbaijan (rheolwr cyfredol, Robert Prosinečki)
- Ceir hefyd timau cenedlaethol dynion dan-21; dan-19; dan-17; dan-16 a dan-15.
- Ceir hefyd tîm Futsal cenedlethol a thîm Pêl-droed traeth.
- Menywod
- Tîm pêl-droed cenedlaethol menywod Aserbaijan (rheolwr cyfredol, Shamil Heydarov)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "AFFA-nın 20 İLLİK FƏALİYYƏTİNƏ "2" VERİLDİ". www.musavat.com (yn Azerbaijani). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 August 2014. Cyrchwyd 26 June 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link) - ↑ Opening of Football Academy
- ↑ Opening ceremony of Azerbaijan Football Academy to take place early 2009[dolen farw]
- ↑ https://web.archive.org/web/20140819090833/http://www.1news.az/sport/football/20100305034304010.html
- ↑ "İbrahimoviç Qurbanova çatdı". futbolplusqol.com (yn Azerbaijani). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 October 2011. Cyrchwyd 1 September 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link) - ↑ Walker, Paul. "Relief for Wales as Uefa lifts ban on Azerbaijan". Independent.co.uk. The Independent. Cyrchwyd 1 Medi 2011.[dolen farw]
- ↑ "Rovnag Abdullayev re-elected AFFA president". www.uefa.com. UEFA. Cyrchwyd 26 Mehefin 2014.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Medi 2018. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2018.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Association of Football Federations of Azerbaijan Gwefan Swyddogol yr AFFA
- Aserbaijan ar wefan UEFA
- Aserbaijan Archifwyd 2018-06-21 yn y Peiriant Wayback ar wefan FIFA
- Twitter @affa_official