Neidio i'r cynnwys

Culhwch ac Olwen

Oddi ar Wicipedia
Culhwch ac Olwen
Llinellau agoriadol Culhwch ac Olwen o fewn Llyfr Coch Hergest (Llyfrgell y Bodley)
Math o gyfrwngllenyddiaeth Gymraeg, gwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
Rhan oLlyfr Coch Hergest, Llyfr Gwyn Rhydderch Edit this on Wikidata
IaithCymraeg, Cymraeg Canol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1382 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Chwedl Gymraeg Canol sy'n adrodd hynt a helynt yr arwr Culhwch yn ei ymgais i ennill llaw y forwyn Olwen yw Culhwch ac Olwen. Dyma'r chwedl Gymraeg gynharaf am lys y brenin Arthur sydd ar glawr heddiw. Mae'n chwedl drwyadl Gymreig a Cheltaidd heb arlliw o'r Arthur diweddarach a gafodd ei ramanteiddio a'i droi'n ffigwr Cristnogol sifalriaidd yn nwylo'r Ffrancod a'r Saeson.

Llawysgrifau

[golygu | golygu cod]

Ceir yr unig destun cyfan o'r chwedl yn Llyfr Coch Hergest (tua diwedd y 14g. Ceir copi anghyflawn yn Llyfr Gwyn Rhydderch (tua chanol y 14g) hefyd. Mae peth amrywiaeth rhwng y ddau destun sy'n brawf o fodolaeth fersiwn neu fersiynau cynharach.

Dyddiad

[golygu | golygu cod]

Mae nodweddion ieithyddol y chwedl yn gosod ei chyfansoddi yng nghyfnod Canu'r Bwlch neu'r Gogynfeirdd cynnar. Mae 'na gryn fwlch felly rhwng Culhwch ac Olwen a gweddill y chwedlau Cymraeg Canol. Ceir nifer o gyfatebiaethau rhwng iaith y chwedl ac iaith cerddi Llywarch Hen a rhai o destunau Llyfr Du Caerfyrddin. Awgryma'r dystiolaeth iddi gael ei chyfansoddi dim hwyrach na tua 1100 ac mae hyn yn amcangyfrif ceidwadol. Mae ei deunydd yn hŷn o lawer.

Crynodeb o'r chwedl

[golygu | golygu cod]
Culhwch ac Olwen yn llys Ysbaddaden

Yn y chwedl mae Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr. Am fod ei lysfam wedi tynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - y forwyn decaf erioed - mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder y Brenin Arthur yng Nghelliwig yng Nghernyw i gael ei gymorth a'i gyngor.

Mae Arthur a'i wŷr, gan gynnwys Cai a Bedwyr, yn penderfynu mynd gyda Chulhwch i lys Ysbaddaden i'w gynorthwyo. Mae'r cawr yn cytuno i roi Olwen i Gulhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgau (anoethau) anodd os nad amhosibl. Ni ddisgrifir pob un o'r ddeugain antur yn y chwedl sydd gennym ni heddiw, ond o blith y rhai a ddisgrifir mae ceisio Mabon fab Modron a hela'r Twrch Trwyth yn haeddiannol enwog. Mae'r chwedl yn gorffen gyda marwolaeth Ysbaddaden a phriodas Culhwch ac Olwen.

Ceir nifer fawr iawn o gymeriadau yn y chwedl. Cymeriadau bwrlesg sy'n cael eu rhestru yn unig yw llawer ohonyn nhw. Ymhlith y cymeriadau pwysicaf y mae Glewlwyd Gafaelfawr (porthor llys Arthur), Custennin Heusor, Gwalchmai, Menw fab Teirgwaedd, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd, Y Widdon Orddu, Gwyn ap Nudd, Gwrnach Gawr a'r Anifeiliaid Hynaf.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Y testun

[golygu | golygu cod]
  • Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1988)

Ceir testun diplomatig yn yr orgraff wreiddiol yn nwy gyfrol J. Gwenogvryn Evans,

  • The Text of the Mabinogion ... from the Red Book of Hergest (Rhydychen, 1887)
  • The White Book Mabinogion (Pwllheli, 1907); argraffiad newydd, Llyfr Gwyn Rhydderch, gol. R. M. Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1973)

Astudiaethau

[golygu | golygu cod]
  • Idris Foster, "Culhwch ac Olwen", yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol, gol. Geraint Bowen (Caerdydd, 1974)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]