Confensiwn Rotterdam
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb amlochrog, United Nations treaty |
---|---|
Dyddiad | 10 Medi 1998 |
Lleoliad | Rotterdam |
Gwefan | https://pic.int |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Confensiwn Rotterdam yn gytundeb amlochrog i hyrwyddo cyfrifoldebau a rennir mewn perthynas â mewnforio cemegau peryglus. Mae'r confensiwn yn hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth yn agored ac yn galw ar allforwyr cemegau peryglus i ddefnyddio labelau cywir, cynnwys cyfarwyddiadau sut i'w trin yn ddiogel, a hysbysu darpar brynwyr o unrhyw gyfyngiadau neu waharddiadau hysbys. Gall gwledydd llofnodol benderfynu a ddylid caniatáu neu wahardd mewnforio cemegau a restrir yn y cytundeb, ac mae'n ofynnol i wledydd allforio sicrhau bod cynhyrchwyr o fewn eu hawdurdodaeth yn cydymffurfio.
Yn 2012, unodd Ysgrifenyddiaethau confensiynau Basel a Stockholm, yn ogystal ag UNEP - rhan o Ysgrifenyddiaeth Confensiwn Rotterdam, i greu un Ysgrifenyddiaeth yn gwasanaethu'r tri chonfensiwn.[1] Mae'r tri chonfensiwn bellach yn dal Cynadleddau'r Partion gefn wrth gefn fel rhan o'u penderfyniadau i gydweithio.
Cynhaliwyd nawfed cyfarfod Cynhadledd Rotterdam[2] rhwng 29 Ebrill a 10 Mai 2019 yn Genefa, y Swistir.
Sylweddau a gwmpesir o dan y Confensiwn
[golygu | golygu cod]- Gofal: nid yw'r sillafiadau isod yn rhai wedi'u safoni.
- 2,4,5-T a'i halwynau a'i esterau
- Alachlor
- Aldicarb
- Aldrin
- Asbestos - Actinolite, Anthophyllite, Amosite, Crocidolite, a Tremolite yn unig
- Benomyl (rhai fformwleiddiadau)
- Binapacryl
- Captafol
- Carbofuran (rhai fformwleiddiadau)
- Clordan
- Ffurf clordymor
- Clorobenzilate
- DDT
- Dieldrin
- Dinitro-ortho-cresol (DNOC) a'i halwynau
- Deinoseb a'i halwynau a'i esterau
- 1,2-dibromoethan (EDB)
- Endosulfan
- Deuclorid ethylene
- Ethylene ocsid
- Fflworoacetamid
- Hexachlorocyclohexane (isomers cymysg)
- Heptachlor
- Hecsachlorobensen
- Lindane
- Cyfansoddion mercwri gan gynnwys cyfansoddion mercwri anorganig ac organometalig
- Methamidoffos (rhai fformwleiddiadau)
- Methyl parathion (rhai fformwleiddiadau)
- Monocrotoffos
- Parathion
- Pentachlorophenol a'i halwynau a'i esterau
- Phosphamidon (rhai fformwleiddiadau)
- Deuffenylau wedi'u polybromineiddio (PBB)
- Deuffenylau polyclorinedig (PCB)
- terphenyls polyclorinedig (PCT)
- Tetraethyl plwm
- Plwm tetramethyl
- Thiram (rhai fformwleiddiadau)
- Toxaphene
- Cyfansoddion tributyltin
- Tris (2,3-dibromopropyl) ffosffad (TRIS) [3]
Sylweddau y bwriedir eu hychwanegu at y Confensiwn
[golygu | golygu cod]Penderfynodd Pwyllgor Adolygu Cemegol Confensiwn Rotterdam[4] argymell i seithfed Gynhadledd cyfarfod y pleidiau yn 2015 ei fod yn ystyried rhestru'r cemegau canlynol yn Atodiad III i'r confensiwn:
- asbestos Chrysotile (trafodaeth wedi ei gohirio o gyfarfod blaenorol Cynhadledd y Pleidiau).
- Ffenthion (fformiwleiddiadau cyfaint isel iawn (ULV) ar neu'n uwch na 640 g cynhwysyn gweithredol / L)
- Fformwleiddiadau hylif sy'n cynnwys paraquat dichloride ar neu'n uwch na 276 g/L, sy'n cyfateb i ïon paraquat ar neu'n uwch na 200 g/L
- Trichlorfon
Gwladwriaethau
[golygu | golygu cod]Yn Hydref 2018, mae gan y confensiwn 161 o bartïon, sy'n cynnwys 158 o aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig, Ynysoedd Cook, Gwladwriaeth Palesteina, a'r Undeb Ewropeaidd . Un wladwriaeth nad yw'n aelod yw'r Unol Daleithiau.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Confensiwn Basel
- Confensiwn Stockholm
- Planed Ddiogel
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Joint Portal of the Basel, Rotterdam and Stockholm Conventions > Secretariat > Overview". brsmeas.org. Cyrchwyd 2016-06-17.
- ↑ "Meetings of the conferences of the Parties to the Basel, Rotterdam and Stockholm conventions".
- ↑ "Annex III Chemicals". pic.int. Cyrchwyd 31 July 2020.
- ↑ Chemicals recommended for listing in Annex III.