Cholet
Math | cymuned, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 53,936 |
Pennaeth llywodraeth | Gilles Bourdouleix |
Gefeilldref/i | Dorohoi, Oldenburg, Dénia, Solihull, Araya |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 87.47 km² |
Uwch y môr | 124 metr, 63 metr, 184 metr |
Yn ffinio gyda | Maulévrier, Le May-sur-Èvre, Mazières-en-Mauges, Nuaillé, Saint-Christophe-du-Bois, Saint-Léger-sous-Cholet, La Séguinière, La Tessoualle, Trémentines, Mauléon, Mortagne-sur-Sèvre |
Cyfesurynnau | 47.0589°N 0.8797°W |
Cod post | 49300 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Cholet |
Pennaeth y Llywodraeth | Gilles Bourdouleix |
Mae Cholet yn gymuned yn Département Maine-et-Loire yn Rhanbarth Pays de la Loire, Ffrainc. Mae'n ffinio gyda Maulévrier, Le May-sur-Èvre, Mazières-en-Mauges, Nuaillé, Saint-Christophe-du-Bois, Saint-Léger-sous-Cholet, La Séguinière, La Tessoualle, Trémentines, Mauléon, Mortagne-sur-Sèvre ac mae ganddi boblogaeth o tua 53,936 (1 Ionawr 2021).
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae Cholet wedi ei leoli yn ne-orllewin eithafol département de Maine-et-Loire yn rhanbarth Mauges.[1]
Mae'r ddinas yn gorwedd wrth derfynau tair département Dyffryn Loire (Maine-et-Loire, Vendée, Liger-Atlantel) a département yn rhanbarth Aquitaine-Limousin-Poitou-Charentes (Deux-Sèvres). Fel hed y deryn mae'r dref wedi ei leoli 53.4 km i'r de-ddwyrain o Naoned, 60.2 km gogledd-ddwyrain o La Roche-sur-Yon, 51.6 km i'r de-orllewin o Angers a 106.7 km i'r gogledd-orllewin o Poitiers.
Henebion a llefydd o ddiddordeb
[golygu | golygu cod]Olion Cynhanesyddol a Hynafiaethol
[golygu | golygu cod]Mae llawer o ddarganfyddiadau archeolegol yn profi presenoldeb poblogaeth cyn hanesyddol yn nhiriogaeth y gymuned, gan gynnwys nifer o lathryddion a 33 bwyell cerrig caboledig. Mae yna 13 maen hir yn dal i sefyll yn yr ardal, ac mae yna dystiolaeth bod o leiaf pump arall wedi diflannu[2] . Canfuwyd mynwent o gyfnod oes y cerrig yn Montruonde gyda thystiolaeth o gladdu ac amlosgi.
-
Menhir de la Pochetière
-
Menhir de la Pochetière
-
Menhir de la Garde
-
Petit menhir du Champ de la Garde
Bu ffordd Rufeinig yn cysylltu Naoned â Poitiers yn croesi'r gymuned ger yr orsaf drenau presennol. Canfuwyd cynefin Galaidd yn ardal Natteries ac adeilad pedwar ochrog yn perthyn i ddiwylliant Celtaidd La Tene yn cwmpasu tua 128 m2.[3]
Adeiladau crefyddol
[golygu | golygu cod]- L'église du Sacré-Cœur (Eglwys y Galon Sanctaidd) adeiladwyd rhwng 1937 a 1942 gan y pensaer Maurice Cholet Laurentin, yn yr arddull Rhufeinig - Bysantaidd.
- Eglwys Notre-Dame, priordy a sefydlwyd gan fynachod Saint-Michel-en-l'Herm. Yn ystod y Chwyldro Ffrenig fe'i defnyddiwyd fel carchar. Ailadeiladwyd ac addaswyd yr eglwys yn y 18g
- Adeiladwyd Eglwys Saint-Pierre yn gyntaf yn y 7g, cafodd ei fandaleiddio a'i ddinistrio gan y Normaniaid yn y 15g. Ailadeiladwyd yr eglwys ym 1752
- Agorwyd Eglwys Sant Bernadette ym 1963 gan yr Esgob Mazerat.
- Cafodd Eglwys St Louis Marie Grignon de Montfort ei hadeiladu gan wirfoddolwyr rhwng 1957 a 1958
- Cafodd Capel St Louis, hen gapel yr ysbyty, ei hadfer yn ddiweddar, a bellach yn cael ei ddefnyddio fel awditoriwm.
- Mae cwfaint St. Francois Assisi a sefydlwyd yn 2002, yn defnyddio adeilad a sefydlwyd fel lleiandy Ffransisgaidd ym 1885
- Agorwyd Chapelle du Bon-Pasteur (Capel y Bugail Da) ym 1865
- Grande mosquée de Cholet, Mosg ar gyfer dilynwyr crefydd Islam.
- Mosg Twrcig a adeiladwyd yn 2010 [4]
-
Église Notre-Dame.
-
Église Saint-Pierre.
-
Chapelle Saint-Louis.
-
Chapelle du Bon-Pasteur.
Adeiladau sifil
[golygu | golygu cod]- Neuadd y ddinas
- Y Tŵr Halen
- Y Theatr Fwrdeistrefol, agorwyd 5 Hydref 1887 cyn cael ei ddifrodi yn rhannol gan dân 23 Ebrill 1949 cyn cael ei gau yn 2011.[5]
- Y llys barn a adeiladwyd ar safle hen château.
- Castell Tremblaye
-
Y tŵr halen
-
Yr hen theatr
-
Y llys barn
Cofebion
[golygu | golygu cod]- Cofgolofn Brwydr Cholet ar 17 Hydref 1793 (llun 1)
- Cofadail Henri de la Rochejaquelein (llun 2)
- Cofeb 2il Leng Maine-et-Loire (llun 3)
- Cofgolofn rhyfel 1870 (llun 4)
- Cofgolofn y Rhyfel Byd Cyntaf (gydag enwau milwyr a bu farw mewn brwydrau diweddarach wedi eu hatodi) (llun 5)
- Cofgolofn y Resistance yn yr Ail Ryfel Byd (llun 6)
-
1 -
2 -
3 -
4 -
5 -
6
Enwogion
[golygu | golygu cod]- François Morellet, arlunydd (1926–2016)
Cysylltiadau Rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Cholet wedi'i gefeillio â:
- Oldenburg, Almaen, ers 1985
- Denia, Sbaen ers 1996
- Solihull, Lloegr, ers 1999
- Boussé, Burkina Faso, ers 2010
- Araya, Libanus, ers 2010
- Dorohoi, Romania, ers 2013
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "lion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2017-01-16. Unknown parameter
|consulté le=
ignored (|access-date=
suggested) (help); Unknown parameter|titre=
ignored (|title=
suggested) (help); Unknown parameter|site=
ignored (help). - ↑ Christophe Belser, Cholet il y a cent ans en cartes postales anciennes, Prahec, Patrimoines et médias, 2009, 139 p. (ISBN 978-2-916757-00-1, notice BnF no FRBNF40953217)
- ↑ De l'habitation rurale à la naissance de l'urbanisme en Gaule protohistorique, l'exemple du midi mediterranéen[dolen farw]
- ↑ "Une nouvelle mosquée turque en construction". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-28. Cyrchwyd 2017-01-16.
- ↑ Agence pour la promotion du Choletais, « Dans un coin du musée … un plafond haut en couleurs », Synergences hebdo, l'hebdomadaire de la Communauté d'Agglomération du Choletais, no 272, 12 au 18 septembre 2012, p. 3