Neidio i'r cynnwys

Chickasaw

Oddi ar Wicipedia
Chickasaw
Math o gyfrwnggrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathBrodorion Gwreiddiol America yn UDA Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hen diriogaeth llwythol Chickasaw a'r neilltuad cyntaf (1838), Llwybr y Dagrau (Trail of Tears) a rhyfeloedd Indiaidd yn ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau 1811-1847

Poblogaeth Brodorol America yw'r Chickasaw (sy'n galw eu hunain yn Chikasha). Yn wreiddiol roedden nhw'n byw yng ngogledd Mississippi a gorllewin Tennessee.[1] Cawsant eu trawsosod i Diriogaeth Indiaidd, yn ddiweddarach Oklahoma, ar Y Llwybr Dagrau ('Trail of Tears') ym 1838 a 1839 ynghyd â'r Cherokee, Siocto, Muscogee (Creek) a Seminole, yr hyn a elwir y Pum Llwyth Gwâr.[2]

Maen nhw'n siarad ieithoedd Muskogeaidd. Mae eu hiaith ysgrifenedig bron yr un fath ag iaith cenedl y Siocto; mae eu hiaith yn debyg iawn, ond mae gwahaniaethau tafodiaith. Ar un adeg roedd yr iaith Chickasaw yn gyfrwng cyfathrach fasnachol a llwythol i holl lwythau Mississippi isaf, a oedd bron yn cael ei rheoli gan genedl bwerus a rhyfelgar Chickasaw yn ystod yr 17 ac 18g.

Mae "Oklahoma" yn enw chickasaw sy'n golygu "daear goch".

Ceir sawl tref yn yr UDA a enwir wedi'r bobl frodorol yma.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gibson, Karen Bush (26 Ionawr 2017). The Chickasaw Nation (yn Saesneg). Capstone. ISBN 9780736813655.
  2. Swanton, John (1931). Source Material for the Social and Ceremonial Life of the Choctaw Indians. The University of Alabama Press. t. 29. ISBN 0-8173-1109-2.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]