Neidio i'r cynnwys

Celf

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Celfyddyd)
Celf
Math o gyfrwngpwnc gradd, cysyniad amheus, gan rai, disgyblaeth academaidd, maes gwaith, sector economaidd, topic Edit this on Wikidata
Rhan odiwylliant, y celfyddydau Edit this on Wikidata
Cynnyrchgwaith celf Edit this on Wikidata
Y cerflun Dafydd gan Michelangelo (15011504)

Campweithiau gweledol sydd yn gynnyrch medr dynol yw celf, yn llawn celfyddyd. Fel rheol, defnyddir y talfyriad "celf", neu weithiau celfyddydau cain, i gyfeirio at y celfyddydau gweledol, hynny yw paentio, darlunio, cerfluniaeth, ffotograffiaeth, a phensaernïaeth. Mae'r rhain yn gangen o'r ystod eang o weithgareddau a elwir y celfyddydau, sydd hefyd yn crybwyll y celfyddydau perfformio, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns a'r theatr, a llenyddiaeth, gan gynnwys rhyddiaith a barddoniaeth.

Yn ogystal â'r amryw brosesau, technegau, a ffurfiau ar greu celf, mae celf yn bwnc testun disgyblaethau megis beirniadaeth celf ac hanes celfyddyd. Estheteg yw'r maes athronyddol sydd yn archwilio natur a diffiniad celf a chysyniadau tebyg, megis gallu creadigol a dehongli celfyddydweithiau.

Diffiniad

[golygu | golygu cod]

Nid hawdd mae diffinio unrhyw un agwedd o gelf. Dichon gellir rhannu ymagweddau tuag at gelf yn ddau gategori: ei heffaith esthetig, a'i hystyr draethiadol (sef ei chyd-destun a bwriad yr artist). Ymhlith yr ymgeision cyffredinol i ddiffinio'r gair mae sôn am adlewyrchiad o ddawn, medr a gallu creadigol yr artist, cyd-destun yr unigol a'r diwylliant, a'r celfyddydwaith yn ffynhonnell harddwch, yn her ddeallusol, yn arwydd o newid a datblygiad, ac yn ganfyddiad dadansoddol.

Mae dehongliadau athronyddol o natur celf yn dyddio'n ôl i'r Henfyd. Creu delw neu ddynwarediad yw pwrpas celf yn ôl Platon, tra'r oedd Aristoteles yn canolbwyntio ar ffurf y gwaith wrth ei ystyried. Pwysleisiodd athronwyr yr Oleuedigaeth, megis Kant a Hegel, y gwrthrych, gan weld sgwrs rhwng yr artist a'r arsyllydd. Mynegiant a phroses y grefft yw celf i nifer o arlunwyr: y daith o olygfa neu ddychmyg i greadigaeth oedd arfer Kokoschka a Matisse. Gwelir celf o safbwynt esblygiadol gan anthropolegwyr modern sy'n ei hastudio fel gweithgaredd dynol, gan geisio llunio diffiniad diduedd ohoni.

Datblygodd ddiffiniadau llaw yn llaw â hanes gwyllt celf yn yr 20g. Heriodd haniaeth y syniadau traddodiadol am ffurf a chelfel ffiguraidd. Daeth gysyniadau'r gwaith a dymuniadau'r artist yn fwy pwysig na'r wedd orffenedig. Nododd y hanesydd a beirniad Leo Steinberg taw pryfociad neu heriad yw celf yn ogystal â chreadigaeth, gan ddiffinio celf drwy ein hymateb iddi. Yn y traddodiad yma ceir syniadaeth neu label celf Avant-garde.