Caws Parmigiano-Reggiano
Math o gyfrwng | type of cheese |
---|---|
Math | Grana Cheese, cynnyrch llaeth |
Deunydd | llaeth, calf rennet |
Label brodorol | Parmigiano Reggiano |
Enw brodorol | Parmigiano Reggiano |
Gwefan | https://www.parmigianoreggiano.com/en/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o gaws o'r Eidal yw caws Parmesan (Eidaleg: Parmigiano; yn fwy penodol, Parmigiano reggiano (
[ˌparmiˈdʒaːno redˈdʒaːno]). Mae'n gaws caled, cryf a ddefnyddir gan amlaf gyda bwydydd pasta. Mae'r enw "Parmesan", sef y Rhanbarth "Parma", yn cael ei ddefnyddio fel term cyffredinol am yr holl amrywiadau lleol; ond erbyn hyn (2017), ni chaniateir ei ddefnyddio wrth farchnata'r caws oherwydd deddfau Ewropeaidd.[1] Fel rheol mae'r caws yn cael ei grafu dros y bwyd.
Prif ardal cynhyrchu caws Parmesan yw rhanbarth Emilia-Romagna yng ngogledd canolbarth yr Eidal. Fe'i henwir ar ôl dinas hynafol Parma yn y rhanbarth honno, ond mae'r ardal cynhyrchu yn ymestyn ar draws Emilia-Romagna.
Cyfeiria ail ran yr enw at Ranbarth Reggiano, neu o leiaf at y tir i'r dwyrain o afon Reno a chaiff hefyd ei gynhyrchu yn rhanbarthau Parma, Modena, Emilia-Romagna a Mantova yn Lombardia. Dim ond cawsiau yn yr ardaloedd hyn gaiff eu galw'n gawsiau Parmigiano-Reggiano a'r cyfieithiad "Parmesan".
Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]Caiff caws Parmigiano-Reggiano ei greu o laeth buwch. Cymysgir llaeth llawn hufen wedi'r godro fin nos gyda llaeth hanner hufen a gasglwyd y noson cynt; felly llaeth rhannol a ddefnyddir, o ran hufen. Yna, mae'r llaeth yma'n cael ei bwmpio i gynhwysyddion copr.
-
Casgenni gydag arwyneb mewnol copr
-
Cracio olwyn parmesan
-
Ystafell aeddfedu mewn ffatri Parmigiano-Reggiano
-
Adroddiad ar fideo
Blas
[golygu | golygu cod]Mae caws Parmesan yn gryf mewn umami.[2] Oherwydd hyn, fe'i defnydir i'w ychwanegu at brydau eraill yn hytrach nag ar ben ei hun.
Un o'r cynhyrchwyr mwyaf, ers 1945 yw Kraft Foods.[3][4] Fel ychwanegiad ar gyfer pasta a pitsa, caiff ei gynnig, fel arfer, am ddim.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Case C-132/05 Commission v Germany Archifwyd 2016-02-21 yn y Peiriant Wayback European Commission Legal Service, Gorffennaf 2008
- ↑ Taste: Surprising Stories and Science about Why Food Tastes Good – Barb Stuckey – Google Books. Books.google.com. 2013-03-26. Cyrchwyd 2014-05-30.
- ↑ Justin M. Waggoner (12 Hydref 2007). "Acquiring a European Taste for Geographical Indications" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-12-06. Cyrchwyd 2014-09-22.
- ↑ Brodsy, Alyson. "U.S. cheese maker says it can produce Parmesan faster | Business | Indiana Daily Student". Idsnews.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-31. Cyrchwyd 2014-05-30.