Carnedd gellog
Gwedd
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Heneb a godwyd yn Oes y Cerrig i gladdu'r meirw ydy carnedd gellog neu garnedd siambr (Saesneg: chambered cairn). Fe'u ceir ym Mhrydain ac Iwerddon a rhannau o gyfandir Ewrop. Ymhlith y mwyaf trawiadol yng Nghymru y mae Siambr gladdu Capel Garmon a Siambr gladdu Maen y Bardd.
Rhestr Cadw o garneddi cellog yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Carneddau cellog hir (chambered long cairns)
[golygu | golygu cod]Mae Cadw'n rhestru 18 ohonynt:
- Siambr gladdu Din Dryfol, Aberffraw
- Carnedd gellog hir Pen y Wyrlod, Talgarth
- Siambr gladdu Llety'r Filiast, Llandudno
- Siambr gladdu Bachwen, Clynnog
- Siambr gladdu Rhiw, Aberdaron
- Siambr gladdu Maen y Bardd, Caerhun
- Siambr gladdu Ystum-Cegid, Llanystumdwy
- Siambr gladdu Caer-Dynni, Cricieth
- Siambr gladdu Capel Garmon, Bro Garmon,Conwy
- Siambr gladdu Tyddyn Bleiddyn, Cefn Meiriadog
- Siambr gladdu Hendre-Waelod, Llansanffraid Glan Conwy
- Siambr gladdu Parc le Breos, Llanilltud Gŵyr
- Siambr gladdu Cefn Bryn, Llanilltud Gŵyr
- Siambr gladdu Dyffryn, Dyffryn Ardudwy
- Siambr gladdu Carneddau Hengwm, Dyffryn Ardudwy
- Siambr gladdu Cors-y-Gedol, Dyffryn Ardudwy
- Siambr gladdu Tan-y-Coed, Llandrillo
- Siambr gladdu Gorllewin Bron-y-Foel, Dyffryn Ardudwy[1]
Carneddau cellog crynion (chambered round cairns)
[golygu | golygu cod]Ceir 4 siambr ar gofrestr Cadw:
- Siambr gladdu Bryn yr Hen Bobl, Llanddaniel Fab, Môn
- Siambr gladdu Gelli, Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin
- Siambr gladdu Cefnamwlch, Tudweiliog, Gwynedd
- Siambr gladdu Afon y Dolau Gwynion, uwch ben Llyn Llanwddyn, Llanwddyn, Powys