Baner enfys (mudiad LHDT)
Mae'r faner enfys, a adweinir weithiau fel baner balchder hoyw a baner balchder LHDT, yn arwyddlun o falchder mudiadau cymdeithasol lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsrywdd (LHDT). Gall ddefnyddiau eraill baneri enfys gynnwys bod yn arwyddlun o heddwch. Mae'r lliwiau yn enghreifftio amrywiaeth y gymuned LHDT, a defnyddir y faner yn aml yn arwyddlun o falchder hoyw pan ddigwydd orymdeithiau hawliau pobl LHDT. Mae â'i tharddiad yng Ngogledd Califfornia, ond bellach defnyddir hi yn fyd eang.
Darluniwyd y faner gan Gilbert Baker o San Francisco ym 1976 ac ers hynny bu sawl newidiad iddi, megis tynnu ac ail-ychwanegu lliwiau yn ôl y ffabrigau sydd ar gael.[1][2] Ers 2008, mae'r faner mwyaf cyffredin yn cynnwys chwe streipen o goch, oren, melyn, gwyrdd, glas, a fioled. Fel arfer, y streipen goch sydd flaenaf fel mewn enfys naturiol.
Y lliwiau
[golygu | golygu cod]Y faner wreiddiol ag wyth streipen gan Gilbert Baker (1978)
Fersiwn â'r pinc poeth wedi;i dynnu oherwydd anargaeledd y ffabrig (1978–79)
Y faner boblogaidd â chwe streipen ers 1979. Newidiwyd indigo a gwyrddlas i las brenhinol.Roedd gan y faner wreiddiol wyth streipen ac arnynt ystyron penodol:
Pinc poeth | Rhywioldeb | |
Coch | Bywyd | |
Oren | Iacháu | |
Melyn | Heulwen | |
Gwyrdd | Natur | |
Gwyrddlas | Hud/celfyddydau | |
Indigo/glas | Sirioldeb/cytgord | |
Fioled | Ysbryd |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Rainbow Flag. http://www.cs.cmu.edu/afs/cs.cmu.edu/user/scotts/bulgarians/rainbow-flag.html. Adalwyd 2007-08-21.
- ↑ Gilbert Baker (18 October 2007). "Pride-Flyin' Flag: Rainbow-flag founder marks 30-years anniversary". Metro Weekly. Cyrchwyd 2008-03-13.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- The National Museum & Archive of Lesbian and Gay History, The Gay Almanac (Efrog Newydd: Berkeley Books, 1996)
- Lynn Witt, Sherry Thomas ac Eric Marcus, Out in All Directions: The Almanac of Gay and Lesbian America (Efrog Newydd: Warner Books, 1995)