Baner Madagasgar
Gwedd
Baner ddeuliw lorweddol gyda stribed uwch coch a stribed is gwyrdd gyda stribed fertigol gwyn yn yr hoist yw baner Madagasgar. Coch a gwyn oedd lliwiau Teyrnas Merina, ac mae gwyrdd yn cynrychioli'r Hova, cyn-ddosbarth y gwerinwyr. Mabwysiadwyd ar 14 Hydref, 1958 yn sgîl hunanlywodraeth ac fe'i chedwir fel y faner genedlaethol pan ddaeth Madagasgar yn annibynnol ar Ffrainc yn 1960.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)