Baner Gweriniaeth Dominica
Math o gyfrwng | baner cenedlaethol |
---|---|
Crëwr | Luis Abinader |
Lliw/iau | gwyn, glas, coch |
Dechrau/Sefydlu | 6 Tachwedd 1862 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae baner Gweriniaeth Dominica yn cynrychioli Gweriniaeth Dominica ac, ynghyd â'r arfbais a'r anthem genedlaethol, mae ganddo statws symbol genedlaethol. Gweriniaeth Dominica yw rhan ddwyreiniol ynys Hispanola, gyda gweriniaeth Haiti ar yr hanner orllewinnol. Ni ddylid drysu â Dominica, a baner Dominica sydd yn ynys arall arwahân yn y Caribi
Dyluniad y Faner
[golygu | golygu cod]Dyluniwyd y faner gan Juan Pablo Duarte. [1] Fel y disgrifir gan Erthygl 21 o'r Cyfansoddiad Dominicaidd, mae gan y faner groes gwyn hyd at yr ymylon gan rhannu'r faner yn bedwar petryal; mae'r rhai uchaf yn las (ochr y mast) ac yn goch (ochr chwifio) ac mae'r rhai gwaelod yn goch (ochr y mast) a glas (ochr chwifio).
Lleolir yr arfbais genedlaethol, sy'n cynnwys tarian gyda dyluniad y faner ac yn cael ei gefnogi gan gangen llawfryf (chwith) a dail palmwydden (i'r dde), yng nghanol y groes. Uwchlaw'r tarian, ceir rhuban las yn arddangos yr arwyddair cenedlaethol Dios, Patria, Libertad ("Duw, Mamwland, Rhyddid"). Islaw'r tarian, mae'r geiriau República Dominicana yn ymddangos ar ruban goch (mae'r rhuban coch hwn mewn fersiynau mwy diweddar yn pwyntio am i fyny). Yng nghanol y darian, wedi eu fframio gan tair gwaywffon (dau ohonynt yn dal baneri Dominicaidd) ar y naill ochr, ceir y Beibl gyda chroes fechan uwchben sy'n agor i arddangos Efengyl Ioan, pennod 8, llinell 32, a yn darllen, Y la verdad os hará libres ("A bydd y gwirionedd hwnnw'n rhoi rhyddid i chi")[1]
Mae baner Gweriniaeth Dominicaidd yn debyg i faner Perm Krai, pwnc ffederal Rwsia
Symboliaeth
[golygu | golygu cod]Ceir symboliaeth i'r lliwiau:
- Glas - yn sefyll am ryddid
- Gwyn - ar gyfer iachawdwriaeth
- Coch - ar gyfer gwaed yr arwyr.
Mae'r 'ensign' sifil yn dilyn yr un dyluniad, ond heb yr bathodyn yn y canol.
Hanes y Faner
[golygu | golygu cod]Mae gwreiddiau baner Gweriniaeth Dominica yn estyn nôl i fudiad chwyldroadol gyfrinachol La Trinitaria. Yn 1838 o dan ei harweindydd a sefydlydd, Juan Pablo Duarte, rhyddhawyd Dominica o reolaeth Haiti, y cyn-drefedigaeth Ffrengig oedd wedi ennill anninbyniaeth rhai blynyddoed ynghynt. Er gwaethaf y rhyfel gyda Haiti, penderfynodd Duarte ddefnyddio'r lliwiau coch a glas baner Haiti (a daeth eu hunain o liwiau gweriniaethol baner Ffrainc fel sail baner y wladwriaeth newydd.
Mabwysiadwyd y faner yn swyddogol ar 6 Tachwedd 1844.[2].
Yr Ystondord Arlywyddol
[golygu | golygu cod]
|
Baneri eraill
[golygu | golygu cod]
|
Baneri hanesyddol
[golygu | golygu cod]Rheolau defnydd y faner
[golygu | golygu cod]Diwrnod y Faner yn ôl Cofnod Swyddogol rhif 5231 Mai 1938, datganwyd mai 24 Hydref oedd Diwrnod y Faner gan mai ar y diwrnod hwnnw y ganwyd y Cadfridog ("Generalissimo") Trujillo.
Gyda diwedd Cyfnod Trujillo, gorchmynydd Cyfraith rhif 6085 ar 22 Hydref 1962 mai 27 Chwefror byddai Diwrnod y Faner, sef diwrnod Annibyniaeth Gweriniaeth Dominica.
Ceir rheolaethau ar gyfer codi, arddangos a rhoi gadw'r faner:
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]
|