Anne Penny
Anne Penny | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ionawr 1729 Bangor |
Bedyddiwyd | 6 Ionawr 1729 (yn y Calendr Iwliaidd) |
Bu farw | 17 Mawrth 1784 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd |
Blodeuodd | 1729 |
Tad | Owen Hughes |
Priod | Thomas Christian |
Plant | Hugh Cloberry Christian |
Bardd o Gymru oedd Anne Penny (ganwyd Hughes; 6 Ionawr 1729 - 17 Mawrth 1784). Fe'i ganwyd ym Mangor i ficer a'i wraig. Priododd â phrifatîr a oedd yn berchen ar ystad yn Rhydychen ond cafodd ei gadael yn weddw yn 22 oed gyda mab, Hugh Cloberry Christian, a dechreuodd ysgrifennu barddoniaeth. Priododd swyddog tollau yn Ffrainc, unwaith eto gyda hanes morwrol a symudodd y cwpl i Lundain. Yno cyhoeddodd nifer o weithiau, gan gynnwys ei cherdd fwyaf arwyddocaol, An Invocation to the Genius of Britain, darn gwladgarol a ysgrifennwyd ar ddechrau'r Rhyfel Eingl-Ffrengig. Cyhoeddodd hefyd nifer o gyfieithiadau o gerddi Cymraeg.
Bu farw Thomas Christian ym 1751, gan adael Penny yn weddw yn ddwy ar hugain oed.[1] Trodd at ysgrifennu a chyhoeddi ei gwaith cyntaf, Cambridge: a poem yn 1756, a gyhoeddodd o dan yr enw Ann Christian.[2] Priododd Peter Penny (neu Penné), swyddog tollau Ffrengig a oedd wedi colli ei goes pan oedd yn y llynges. Symudodd y cwpl i dŷ yn Bloomsbury Square, lle parhaodd Anne Penny i ysgrifennu a chyfieithu barddoniaeth. Dysgodd y Gymraeg yn blentyn ac mae'n bosib mai dyma oedd ei hiaith gyntaf.[3] Bu farw Peter Penny tua 1779, felly cyhoeddodd Anne ei gwaith er mwyn codi arian.[4] Bu farw Anne Penny ar 17 Mawrth 1784 yn Bagshot.[5] Yn 1747 ganwyd mab i'r cwpl, Hugh Cloberry Christian, a aeth ymlaen i ddilyn diddordebau morol ei dad, a daeth yn ôl-lyngesydd yn y llynges.[4]
Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]Cerdd bwysicaf Anne Penny oedd ei gwaith yn 1778, An Invocation to the Genius of Britain, a ysgrifennwyd mewn cwpledi odledig. Fe'i cyfansoddwyd i Dduges Dyfnaint,[6] ar ddechrau'r Rhyfel Eingl-Ffrengig ac roedd yn cynnwys themâu megis imperialaeth a gogoniant y llynges.[7]
Ysgrifennodd Penny nifer o gerddi Cymraeg cenedlaetholgar hefyd a chadwodd ddiddordeb yng ngwaith Celtaidd Thomas Gray. Roedd ei llyfr Poems, with a Dramatic Entertainment a gyhoeddwyd yn 1771, yn cynnwys y rhain, yn ogystal â chyfieithiadau o gerddi Cerdd Taliesin i Dywysog Elphin a Marwnad Nest o lyfr Evan Evans.[8]
Er i waith Anne Penny gael ei feirniadu oherwydd gramadeg gwael ac i hyn gael ei gysylltu â'i statws cymdeithasol,[9] tanysgrifwyd iddo gan Samuel Johnson, Duges Bedford, Dug a Duges Marlborough a Horace Walpole. Fe'i comisiynwyd i ysgrifennu cerddi gan y Gymdeithas Forol hefyd.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mae’r Oxford Dictionary of National Biography (1887) yn crybwyll bod gor-wyres Thomas Christian wedi ysgrifennu adroddiad anghywir amdano, lle mae’n honni ei fod yn Gapten yn y Llynges, ond y mae’n debyg mai preifatwr ydoedd. Laughton, J. K. (1887). ‘Christian, SIR Hugh Cloberry (1747–1798),)’. Oxford University Press.
- ↑ Rogers, Paul Baines, Julian Ferraro, Pat (2011). The Wiley-Blackwell encyclopedia of eighteenth-century writers and writing, 1660–1789 (arg. 1. publ.). Chichester, West Sussex, U.K.: Wiley-Blackwell. ISBN 9781405156691. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-01. Cyrchwyd 25 March 2016.
- ↑ Summit, Jennifer; Bicks, Caroline, gol. (2010). The history of British women's writing, 1750–1830 (arg. illustrated). Basingstoke: Palgrave Macmillan. t. 115. ISBN 9780230550711. Cyrchwyd 3 April 2016.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. Missing or empty
|title=
(help)CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl) - ↑ "Deaths". St. James's Chronicle or the British Evening Post (3598). London, England. 27 March 1784. t. 4.
- ↑ Guest, Harriet (2000). "Chapter 4". Small Change: Women, Learning, Patriotism, 1750–1810 (arg. Illustrated). University of Chicago Press. tt. 102–103. ISBN 9780226310527. Cyrchwyd 17 April 2016.
- ↑ Aaron, Jane (2010). "Writing Ancient Britain". Nineteenth-Century Women's Writing in Wales: Nation, Gender and Identity (arg. Revised). University of Wales Press. tt. 48–49. ISBN 9780708322871. Cyrchwyd 3 April 2016.
- ↑ Prescott, Sarah (2015). "Place and Publication". In Ingrassia, Catherine (gol.). The Cambridge Companion to Women's Writing in Britain, 1660–1789. Cambridge University Press. tt. 65–66. ISBN 9781107013162. Cyrchwyd 25 March 2016.
- ↑ Tieken-Boon van Ostade, Ingrid; van der Wurff, Wim (2009). "Periodical reviews and the rise of prescriptivism". Current issues in late modern English (arg. illustrated). Bern: Peter Lang. t. 129. ISBN 9783039116607. Cyrchwyd 3 April 2016.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Poems: Anne Penny, Taliesin, Ossian [1] (Llundain, 1780)