Neidio i'r cynnwys

Alergedd

Oddi ar Wicipedia
Alergedd
Dosbarthiad ac adnoddau allanol
ICD-10 T78.4
ICD-9 995.3
DiseasesDB 33481
MedlinePlus 000812
eMedicine med/1101
MeSH [1]

Adwaith anffafriol gan y corff i sylwedd penodol (a elwir yn alergen) yw alergedd. Astudiaeth alergeddau yw alergeddeg.

Mae gan rai pobl atopedd, sef rhagdueddiad i gael alergeddau.

Achosion

[golygu | golygu cod]

Achosir alergeddau gan system imiwnedd y corff yn adweithio i alergenau fel petaent yn niweidiol, drwy wneud i'r gwrthgorff Imiwnoglobwlin E (IgE) frwydro yn erbyn yr alergen. Mae IgE yn achosi i gelloedd gwaed eraill ryddhau cemegau, megis histamin, sydd, gyda'i gilydd, yn achosi symptomau adwaith alergaidd. Histamin sy'n achosi'r rhan fwyaf o symptomau nodweddiadol sy’n digwydd mewn adwaith alergaidd, sef cyfangu'r cyhyrau, gan gynnwys y rheiny ym muriau tiwbiau aer yr ysgyfaint; cynyddu faint o hylif sy'n cael ei ryddhau o wythiennau bychain, fel bod pilennau'n chwyddo; a chynyddu faint o fwcws sy'n cael ei gynhyrchu yn leinin y trwyn ac achosi cosi a llosgi lleol.[1]

Symptomau

[golygu | golygu cod]

Nid yw adweithiau alergaidd yn digwydd y tro cyntaf y daw'r corff i gyswllt â'r alergen, ond adeg cyswllt diweddaraf. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i'r corff ddatblygu sensitifrwydd i rywbeth cyn y gall ddatblygu alergedd iddo.[2]

Mae symptomau mwyaf cyffredin adweithiau alergaidd yn cynnwys tisian; gwichian ar y frest; poen sinws; trwyn yn rhedeg; peswch; brech y danadl a llosg danadl; chwyddo; llygaid, clustiau, gwefusau, llwnc a thaflod sy'n cosi; diffyg anadl; a chwydu a dolur rhydd.[2]

Cymhlethdodau

[golygu | golygu cod]

Mewn achosion prin gall sioc anaffylactig digwydd o ganlyniad i adwaith alergaidd, fel rheol ymhen rhai munudau o ddod i gyswllt ag alergen. Mae'n effeithio ar y systemau resbiradu a chylchredol, ac mae'r symptomau'n cynnwys pwysedd gwaed uchel, chwyddo, ac anawsterau anadlu. Mae angen triniaeth frys, fel rheol gyda phigiad o adrenalin.[3]

Diagnosis

[golygu | golygu cod]

Wrth wneud diagnosis o alergedd bydd meddyg yn ystyried tystiolaeth y claf o hanes teuluol a thybiaeth y claf o unrhyw sbardunau sy'n ymddangos fel petaent yn achosi adwaith, e.e. a yw'n digwydd mewn man neu ar adeg benodol, ond yn aml cynhelir profion yn ogystal i gael gwybod beth yw'r union alergen. Yn aml y prawf cyntaf sy'n cael ei gynnal wrth edrych am alergen yw prawf pigo'r croen, lle bigir y croen gyda sampl fach iawn o'r alergen posib i weld a oes adwaith cadarnhaol (h.y. mae'r croen yn cosi, yn mynd yn goch, ac yn chwyddo). Cynhelir prawf gwaed i fesur faint o'r gwrthgorff IgE sydd yn y gwaed. Os yw ecsema neu ddermatitis cyswllt yn symptom fe gynhelir prawf croen i ddod o hyd i'r achos gan daenu sampl fach o'r alergen posib ar ddisgiau metal arbennig sydd yna'n cael eu tapio ar y croen, am 48 awr fel rheol, i arsylwi ar ymateb y croen. Gellir hefyd cynnal prawf alergedd cartref, lle mae'r claf yn defnyddio pecynnau arbennig i geisio wneud diagnosis gartref o'r tri alergen mwyaf cyffredin: gwiddon llwch tŷ, paill, a chathod. Mae'r pecyn yn cynnwys priciwr bys diheintiedig y mae'r claf yn ei ddefnyddio i gymryd sampl gwaed fach ac anfon y sampl hon mewn tiwb i labordy sy'n cynnal profion ac yna danfon y canlyniadau i'r claf.[4]

Triniaeth

[golygu | golygu cod]

Yn syml, y dull mwyaf effeithiol o drin alergeddau yw osgoi pob cyswllt â'r alergen sy'n achosi'r adwaith. Fe ellir drin symptomau cyffredin alergeddau, megis ceg sy'n cosi a thisian, gan ddefnyddio cyffuriau, y mwyafrif ohonynt dros y cownter.[5]

Mae cyffuriau sy'n trin alergeddau yn cynnwys:

  • gwrth-histaminau, sydd yn atal gweithredu gan histamin. Gallent gael eu cymryd ar ffurf tabledi, eli, hylif, diferion i'r llygaid, neu ddiferion trwynol.
  • cyffuriau llacio, sydd yn helpu i leddfu symptomau fel trwyn wedi'i flocio, a achosir yn aml gan glefyd y gwair, llwch, ac alergeddau i anifeiliaid. Gallent gael eu cymryd ar ffurf tabledi, capsiwlau, chwistrelliadau trwynol, neu hylif.
  • chwistrelliadau trwynol, sydd yn lleihau chwyddo a chosi yn y trwyn.
  • diferion i'r llygaid, sydd yn lleddfu llygaid dolurus, sy’n cosi.
  • cyffuriau fel sodiwm cromoglicat a corticosteroidau, a ddefnyddir yn rheolaidd i atal symptomau rhag datblygu. Mae'r rhain ar gael yn helaeth fel chwistrelliadau trwynol a diferion i'r llygaid.[5]

Ffurf arall ar driniaeth yw hyposensiteiddio, lle mae'r unigolyn yn cael ei gyflwyno'n raddol i fwy a mwy o'r alergen i annog i'r corff greu gwrthgyrff a fydd yn atal adweithiau yn y dyfodol. Gall hyn helpu pobl sydd ag alergedd penodol i rywbeth fel pigiad gan wenynen.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Alergeddau: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  2. 2.0 2.1  Alergeddau: Symptomau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  3.  Alergeddau: Cymhlethdodau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  4.  Alergeddau: Diagnosis. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  5. 5.0 5.1 5.2  Alergeddau: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.