Neidio i'r cynnwys

Phobos (lloeren)

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Phobos (lloeren) a ddiwygiwyd gan Kwamikagami (sgwrs | cyfraniadau) am 04:44, 1 Medi 2022. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Phobos (Mars Global Surveyor, Mehefin 1, 2003)
Phobos: Crater Stickney (llun cyfansawdd, Viking 1, Hydref 19, 1978)

Mae Phobos (Groeg: Φόβος, "ofn") yn un o ddwy loeren y blaned Mawrth, a enwir ar ôl y duw Groeg o'r un enw. Yn 15 milltir ar draws, mae'n fwy ei maint na'i chwaer Deimos. Lloeren fach siâp eliptig afreolaidd sy'n dyllog iawn ydyw. Credir fod eu craterau wedi eu achosi gan dyllau chwythu neu gan wrthdrawiad awyrfeini; y mwyaf ohonynt yw Crater Stickney.

Symuda Phobos mewn cylchdro ar gylch bron, rhwng 5,924 a 5,726 milltir oddi wrth canol Mawrth, sef llai na 3,700 milltir o wyneb y blaned. Mae'n cymryd 7.5 awr i fynd o amgylch y blaned. Pe medrid ei gweld o wyneb y blaned Mawrth byddai'n ymddangos fel pe bai'n codi yn y gorllewin, yn croesi'r awyr, ac yna'n mynd i lawr yn y dwyrain 4.5 awr yn ddiweddarach. Fel yn achos ei chwaer loeren mae'n debyg mai asteroid wedi ei dal ydyw yn hytrach na lleuad go iawn.

Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.