Neidio i'r cynnwys

Y cyfryngau torfol

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Y cyfryngau torfol a ddiwygiwyd gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau) am 06:47, 26 Chwefror 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Cyfryngau sydd wedi'u hanelu at gynulleidfa enfawr yw'r cyfryngau torfol, er enghraifft teledu, radio, ffilm, papurau newydd neu'r rhyngrwyd. Mae'r cysyniad yn dyddio'n ôl i'r dauddegau, gyda dyfodiad rhwydweithiau radio cenedlaethol a phapurau newydd eang eu cylchrediad, er bod rhai cyfryngau (llyfrau a llawysgrifau) a chanddynt gynulleidfa fawr yn bodoli ganrifoedd ynghynt.

Mae'r term hefyd yn cwmpasu'r cyrff hynny sy'n rheoli'r dechnoleg yma, megis gorsafoedd teledu neu gwmniau cyhoeddi.[1] Mae'r rhyngrwyd yn cyrraedd statws cyfryngau torfol oherwydd y gwasanaethau mae'n ei gynnig e.e. ebost, gwefanau, blogio, y we a theledu.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Mass media", Oxford English Dictionary, fersiwn ar-lein, Tachwedd 2010


Eginyn erthygl sydd uchod am gymdeithaseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.