Gwleidydd o'r Alban yw Mike Weir (ganwyd 24 Mawrth 1957) a oedd yn Aelod Seneddol dros Angus rhwng 2015 a 2017; mae'r etholaeth yn Angus a Dundee, yr Alban. Mae Mike Weir yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Ef yw Prif Chwil yr SNP yn San Steffan.

Mike Weir

Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017

Geni (1957-03-24) 24 Mawrth 1957 (67 oed)
Arbroath, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Angus
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Plant Dwy ferch
Alma mater Prifysgol Aberdeen
Galwedigaeth Prif Chwip
Cyfreithiwr
Gwefan http://www.snp.org/

2001-2010

golygu

Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol yn gyntaf yn 2001 ac ef oedd Llefarydd yr SNP dros Ddiwydiant. Yn 2005 daliodd ei afael yn ei sedd. Ychwanegwyd 'Ynni a'r Amgylchedd' at ei bortffolio, a gweithiodd yn ddiwyd ar faterion a oedd yn ymwneud a'r Swyddfa Bost.

Etholiad 2015

golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Mike Weir 24130 o bleidleisiau, sef 54.2% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +14.7 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 11230 pleidlais.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu