Llanbabo
Pentref bychan yng nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn, yw Llanbabo[1][2] ( ynganiad ). Saif yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, 4 milltir i'r de o Fae Cemaes ar ymyl Cors y Bol ger Llyn Alaw. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Talybolion. Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu'n gryf fod Sefnyn, un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14g, yn frodor o blwyf Llanbabo.
Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3503°N 4.4428°W |
Cod OS | SH375865 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Eglwys Pabo Sant
golyguMae'r eglwys yn gysegredig i Sant Pabo (5g). Eglwys un siambr ydyw, a godwyd yn y 12g yn ystod teyrnasiad Owain Gwynedd ond a newidiwyd yn sylweddol yn y 19g. Ynddi ceir maen cerfiedig ac arni delwedd bas-relief o'r sant, oedd yn aelod o deulu brenhinol Gwynedd yn yr Oesoedd Canol cynnar, yn gwisgo coron ac yn dwyn teyrnwialen. Mae'r maen yn dyddio o ddiwedd y 14g. Tybir i gerflun arall ar yr ynys, yn Eglwys Sant Iestyn, yn Llaniestyn, gael ei gerfio gan yr un crefftwr.
Hefyd o ddiddordeb arbennig yw'r tri phen cerfiedig canoloesol sydd wedi'u gosod yn y bwa uwchben porth yr eglwys; tybir eu bod yn cynrychioli'r Drindod (ceir pennau cyffelyb ym Mhriordy Penmon ac yn eglwys Llan-faes).
Mae muriau'r llan o gwmpas yr eglwys ar ffurf crwn, arwydd o hynafrwydd y safle.
Hynafiaethau eraill
golyguFilltir i'r de o'r pentref ceir maen hir ac yn agos i hwnnw mae safle Bedd Branwen ar lan Afon Alaw.
Llyfryddiaeth
golygu- Peter Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003). Gweler t. 76 am luniau o bennau'r bwa, a t. 216 a lun o'r maen cerfiedig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 14 Rhagfyr 2021
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele