Dyfed Edwards
Awdur a dramodydd o Ynys Môn yw Dyfed Edwards (ganwyd Tachwedd 1966).[1]
Dyfed Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 1966 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | dramodydd |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Edwards ym Mangor a'i fagu yn Rhosmeirch, Ynys Môn, ond mae bellach yn byw yn Whistable, Caint. Dechreuodd ei yrfa gyda phapurau'r Herald yng Ngogledd Cymru, cyn mynd ymlaen i weithio i'r Daily Post, y Journal yn Newcastle a'r Daily Mail.[2]
Mae wedi ennill Y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy waith, y tro cyntaf yn 2008 yng Nghaerdydd am y ddrama Cors Oer,[3] ac yna flwyddyn yn ddiweddarach yn Y Bala am Tân Mewn Drain.[4] Bu'n newyddiadurwr am dros 20 mlynedd, ac mae wedi cyhoeddi nofelau a llyfrau ffeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cyhoeddwyd ei nofel Iddew, a disgrifwyd gan feirniad Gwobr Goffa Daniel Owen Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015[5] fel "gwaith o athrylith", yn Mawrth 2016.
Mae ei lyfrau Saesneg wedi cyhoeddi dan y ffugenw Thomas Emson.[6]
Gwaith
golyguFfuglen
golygu- Dant at Waed (Y Lolfa, 1996)
- Cnawd a Storïau Eraill (Y Lolfa, 1997)
- Y Syrcas (Y Lolfa, 1998)
- Llwybrau Tywyll (Y Lolfa, 1990)
- Hen Friwiau (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)
- Y Moch a Straeon Eraill (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
- Iddew (Gwasg y Bwthyn, 2016)
- Apostol (Gwasg y Bwthyn, 2019)
- Bedydd Tân (Gwasg y Bwthyn, 2021)
Ffeithiol
golygu- Dynion Dieflig (Y Lolfa, 2008)
- Peter Moore: Y Gwaethaf o'r Gwaethaf, Stori Sydyn (Y Lolfa, 2009)
Llwyfan
golygu- Tân Mewn Drain (Sherman Cymru, Mehefin 2011)
- Llwch O'r Pileri (Trwy'r Ddinas Hon, Sherman Cymru, Mehefin 2013)
Radio
golygu- Cors Oer (BBC Radio Cymru, 2010)
- Anfonwch Fil (BBC Radio Cymru, 2011)
- Goleuni yn yr Hwyr (BBC Radio Cymru, Medi 2012)
- Aderyn y Ddrycin (BBC Radio Cymru, Mawrth 2015)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Dyfed Edwards"; Y Lolfa
- ↑ Gwales - Bywgraffiad Awdur. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
- ↑ "Medal ddrama i Dyfed"; BBC Newyddion
- ↑ "Winning drama medal ‘feels just as good the second time’"; Wales Online
- ↑ http://golwg360.cymru/celfyddydau/eisteddfodau/195419-mari-lisa-yn-ennill-gwobr-goffa-daniel-owen
- ↑ Edwards, Dyfed (2020-05-21). "Fi sy'n cadw i hynny, cofia. Awduron yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Nesh i ddyfeisio'r "Grid" pan o'n i'n gorfod sgwennu dwy nofel y flwyddyn yn Saesneg o dan fy ffugenw, Thomas Emson. Faswn i byth wedi llwyddo oni bai 'mod i'n creu targedi i fi fy hun". @dyfededwards. Cyrchwyd 2020-05-21.