Douglas Adams
Llenor, dramodydd a cherddor o Loegr oedd Douglas Noel Adams (11 Mawrth 1952 – 11 Mai 2001). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur The Hitchhiker's Guide to the Galaxy, a ddechreuodd ym 1978 fel comedi radio BBC cyn cael ei ddatblygu'n "driawd" o bum llyfr a werthodd dros 15 miliwn copi yn ystod ei oes, yn ogystal â chyfres deledu, sawl drama llwyfan, comics, a gêm gyfrifiadur, ac yn 2005, ffilm.
Douglas Adams | |
---|---|
Ffugenw | David Agnew |
Ganwyd | Douglas Noël Adams 11 Mawrth 1952 Caergrawnt |
Bu farw | 11 Mai 2001 o trawiad ar y galon Santa Barbara |
Man preswyl | Santa Barbara, Llundain, Brentwood, Caergrawnt |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | dramodydd, sgriptiwr, nofelydd, awdur plant, awdur ffuglen wyddonol, digrifwr, llenor, cerddor |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Hitchhiker's Guide to the Galaxy pentalogy, Dirk Gently series, The Private Life of Genghis Khan |
Arddull | gwyddonias, comedi, dychan |
Taldra | 1.96 metr |
Tad | Christopher Douglas Adams |
Mam | Janet Adams |
Priod | Jane Belson |
Plant | Polly Jane Rocket Adams |
Gwobr/au | Gwobr Inkpot, Gwobr Ditmar |
Gwefan | https://douglasadams.com |
llofnod | |
Ysgrifennodd hefyd Dirk Gently's Holistic Detective Agency (1987) a The Long Dark Tea-Time of the Soul (1988), a chyd-ysgrifennodd The Meaning of Liff (1983), Last Chance to See (1990), a thair stori yng nghyfres deledu Doctor Who. Cyhoeddwyd casgliad o'i waith wedi ei farwolaeth, gan gynnwys nofel di-orffenedig The Salmon of Doubt yn 2002.
Adnabyddir Adams gan ei ddilynwyr fel "Bop Ad" oherwydd ei lofnod annarllenadwy,[1] Daeth Adams yn adnabyddus fel eiriolwr dros anifeiliaid a'r amgylchedd, roedd yn hoff o geir cyflym, cameráu, a'r Apple Mac, ac yn anffyddiwr pybyr, gan ddychmygu'r "sentient puddle" sy'n deffro bob bore ac yn meddwl iddo'i hun "Dyma fyd diddorol a ganfyddaf fy hun ynddi—twll diddorol a ganfyddaf fy hun ynddi—mae'n fy ffitio'n weddol dda, yntydi? Yn wir, mae'n fy ffitio'n syfrdanol o dda, mae'n rhaid y crewyd ef i mi fod ynddi!".[2] Cysegrodd y gwyddonydd Richard Dawkins ei lyfr, The God Delusion, i Adams, gan ysgrifennu wedi ei farwolaeth bod "gwyddoniaeth wedi colli cyfaill, llenyddiaeth wedi colli seren ddisglair, a gorila'r mynydd a'r rhino du wedi colli amddiffynnwr gwrol.[3]
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Adams yn fab i Christopher Douglas Adams a'i wraig Janet (née Donovan) yng Nghaergrawnt, Lloegr. Ganwyd ei chwaer, Susan, tair blynedd yn ddiweddarach, cyn i'w rieni ysgaru ym 1957. Symudodd Douglas, Susan, a Janet i fyw gyda rhieni Janet, a oedd yn byw yn lloches anifeiliaid yr RSPCA yn Brentwood, Essex, dywed i hyn gael yr effaith o waethygu asthma a chlefyd y gwair Douglas.[4]
Ail-briododd ei dad â Mary Judith Stewart (ganwyd Judith Robertson) ym mis Gorffennaf 1960, a chawson ferch, hanner-chwaer i Adams, Heather; ail-briododd mam Adams ym 1964, i filfeddyg, Ron Thrift, gan roi hanner-chwaer arall a hanner-brawd iddo, sef Jane a James Thrift.
Addysg
golyguMynychodd Adams Ysgol Gynradd Primrose Hill yn Brentwood. Pasiodd yr arholiad mynedfa ar gyfer Ysgol Brentwood pan oedd yn chwech oed, ysgol lletya sydd yn brolio cyn-ddisgyblion megis Robin Day, Jack Straw, Noel Edmunds, a David Irving. Roedd Griff Rhys Jones flwyddyn yn iau nag ef yn yr ysgol, ac yn yr un dosbarth a'r arlunydd Stuckist Charles Thomson. Mynychodd ysgol baratoadol o 1959 hyd 1964, ac yna'r brif ysgol o 1970. Dywedodd ei bennaeth blwyddyn, Frank Halford: "Mae cannoedd o fechgyn wedi mynd trwy'r ysgol, ond safodd Douglas Adams allan o'r dorf—yn llythrennol. Roedd yn anarferol o dal ac roedd ei drowsus byr yn gwneud iddo edrych mymryn yn hunan-ymwybodol. On ei allu i ysgrifennu straeon dosbarth cyntaf a wnaeth iddo gleinio go iawn."[5] Roedd Adams yn chwe throedfedd o daldra (1.83 m) erbyn iddo droi'n 12 a stopiodd dyfu o'r diwedd pan oedd yn 6 ' 5 " (1.96 m): Ef oedd yr unig ddisgybl erioed i dderbyn marciau o 10 allan o 10 gan Halford, rhywbeth a fu'n atgoffa ei hun yn enwedig pan fu'n diodde o floc y llenor.[6]
Cyhoeddwyd ychydig o ysgrifeniadau cynnar Adams yn yr ysgol, megis adroddiad am glwb ffotograffaeth yr ysgol, The Brentwoodian, ym 1962, ac adolygiadau ffug yng nghylchgrawn yr ysgol, Broadsheet, a olygwyd gan Paul Neil Milne Johnstone. Yn ddiweddarach daeth Johnstone yn gymeriad yn The Hitchhiker's Guide. Dyluniodd Adams hefyd un o gloriau'r Broadsheet, a chafodd llythyr a stori fer ganddo eu cyhoeddi yn genedlaethol, yng nghomig bechgyn The Eagle, ym 1965. Gwobrwywyd lle iddo yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt ar sail traethawd gorchestwaith ar farddoniaeth crefyddol, ynddi trafododd y Beatles a William Blake, yno astudiodd Saesneg o 1971. Er, yr unig reswm iddo ymgeisio i fynd i Gaergrawnt oedd er mwyn ymuno gyda'r Footlights, clwb gomedi ar wahoddiad yn unig a oedd yn cynnwys rhai o'r talentau mwyaf yng nghomedi yn Lloegr. Ni etholwyd ef yn syth fel y gobeithiodd, felly dechreuodd ysgrifennu a pherfformio mewn rifiwiau gya Will Adams (dim perthynas) a Martin Smith, gan ffurfio grŵp o'r enw "Adams-Smith-Adams", a thrwy dyfalbarhad daeth yn aelod o'r Footlights erbyn 1973.[7] Er iddo gyfaddef na gwblhaodd fawr o waith, cofiodd mai tair traethawd gwblhaodd mewn tair mlynedd, graddiodd ym 1974 gyda B.A. mewn llenyddiaeth Saesneg.[8]
Gyrfa
golyguYsgrifennu
golyguYmddangosodd ychydig o'i waith cynnar ar y teledu ar BBC2 ym 1974, mewn fersiwn o'r Footlights Revue a oedd wedi ei olygu y flwyddyn honno. Perfformiwyd fersiwn o'r rifíw yn fyw yn West End Llundain gan arwain at canfyddiad Adams gan Graham Chapman o Monty Python. Ffurfiodd y ddau bartneriaeth ysgrifennu am gyfnod byr, a cafodd Adams gredyd ysgrifennu mewn un pennod (pennod 45: "Party Political Broadcast on Behalf of the Liberal Party") o Monty Python's Flying Circus ar gyfer sgetsh "Patient Abuse". Yn y sgetsh, roedd dyn a oedd wedi cael ei wanu gan nyrs yn cyrraedd swyddfa ei feddyg yn gwaedu o'r stumog. Mae'r meddyg yn gofyn iddo lenwi nifer o ffurflenni di-synnwyr cyn rhoi triniaeth (jôc a ddefnyddiwyd yn y Hitchhikers's Guide ar ffurf obsesiwn y Vogons gyda gwaith papur). Cyfranodd Adams hefyd at sgetsh ar albwm ar gyfer Monty Python and the Holy Grail.
Gwnaeth Douglas ddau ymddangosiad byr ym mhedwrydd cyfres Monty Python's Flying Circus. Ac ar ddechrau pennod 42, "The Light Entertainment War", mae Adams yn gwisgo masg llawfeddyg (yn chwarae Dr. Emile Koning), gan dynnu menig gwyn ymlaen, tra bod Michael Palin yn adrodd y sgetsh sy'n cyflwyno un cymeriad ar ôl y llall, ond dydy'r sgetsh byth yn cychwyn yn iawn. Ar ddechrau pennod 44, "Mr. Neutron", mae Adams wedi ei wisgo fel "pot pupur" ac mae'n llwytho taflegryn ar gert sy'n cael ei yrru gan Terry Jones, sy'n casglu metel sgrap ("Any old iron..."). Darlledwyd y ddwy bennod ym mis Tachwedd 1974. Gweithiodd Adams a Chapman hefyd ar brosiectau eraill heblaw rhai Monty Python, gan gynnwys Out of the Trees.
Roedd gwaith cynnar Adams ar gyfer y radio yn cynnwys sgetshis ar gyfer The Burkiss Way ym 1977 a The News Huddlines. Ysgrifennodd hefyd, gyda Graham Chapman, bennod o gyfres teledu Doctor on the Go, dilyniant i Doctor in the House a ddarlledwyd ar 20 Chwefror 1977.
Cafodd Adams drafferth wrth geisio gwerthu jôcs a straeon, a chymerodd gyfres o swyddi amrywiol, gan gynnwys gweithio fel porthor mewn ysbyty, adeiladwr ysguboriau, a glanhawr sied ieir. Cyflogwyd ef fel bodyguard gan deulu o Qatar, a oedd wedi gwneud eu ffortiwn allan o olew. Roedd hanesion ynglŷn â'r swydd yn cynnwys hanes y teulu yn archebu popeth ar fwydlen gwesty un tro, blasu pob pryd cyn archebu byrgyrs cig moch i fewn. Mae stori arall yn adrodd hanes putain a gafodd ei hanfon i'r llawr lle roedd Adams yn gwarchod un prynhawn, cydnabyddont ei gilydd fel aeth hi i fewn, a pan gadawodd hi dywedodd, "O leiaf allet ti ddarllen tra ti wrth dy waith."[9]
Ym 1979, ysgrifennodd Adams a John Lloyd sgriptiau ar gyfer dau bennod hanner awr o Doctor Snuggles: "The Remarkable Fidgety River" a "The Great Disappearing Mystery" (penodau 7 a 12). Roedd John Lloyd hefyd yn gyd-awdur cyfres radio gwreiddiol "Hitchhiker" (Fit the Fifth and Fit the Sixth a adnabyddwyd hefyd fel penodau 5 a 6), yn ogystal â The Meaning of Liff a The Deeper Meaning of Liff. Cydweithiodd Lloyd ac Adams hefyd ar brosiect comedi ffilm ffuglen wyddonol yn seiliedig ar The Guinness Book of World Records, a serennodd John Cleese fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ag oedd â tras o estronwyr yn curo dynion mewn cystadlaethau athletaidd, ond gyda'r dynion yn ennill pob un ond y categoriau "absẃrd".
Wedi'r cyfres gyntaf o The Hitchhiker's Guide ddod yn llwyddiant, cyflogwyd Adams fel cynhyrchydd radio gan y BBC, gweithiodd ar Week Ending a phantomeim Black Cinderella Two Goes East. Gadawodd y swydd wedi chwe mis i ddod yn olygydd sgript Doctor Who.
The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
golyguCafodd y syniad o gyfres radio comedi ffuglen wyddonol The Hitchhiker's Guide to the Galaxy ei gynnig gan Adams a'r cynhyrchydd radio Simon Brett i BBC Radio 4 ym 1977. Ysgrifennodd Adams amlinell ar gyfer y bennod beilot, yn ogystal â chwpl o straeon eraill (a ailargraffwyd yn llyfr Neil Gaiman, Don't Panic: The Official Hitchhiker's Guide to the Galaxy Companion) y gallent ddefnyddio ar gyfer y gyfres.
Yn ôl Adams, daeth y syniad o'r teitl The Hitchhiker's Guide to the Galaxy iddo tra roedd yn gorwedd yn feddw mewn cae yn Innsbruck, Awstria, yn syllu ar y sêr, er bu'n jocian y bu'r BBC yn honni mai yn Sbaen ydoedd "budd debyg gan ei fod yn haws iw sillafu".[10][11] Bu Adams yn crwydro cefn gwlad gyda llyfr o'r enw Hitch-hiker's Guide to Europe pan gyrrhaeddodd dref, fel y disgrifiodd yn ddigri, roedd pawb yn "fyddar" ac yn "fud" neu ond yn siarad ieithoedd nad oedd yn eu deallt. Wedi crwydro ogwmpas ac yfed ychydig, aeth i gysgu yng nghanol cae ac ysbrydolwyd ef gal ei anallu i gyfarthrebu gyda phobl y dref. Dywedodd yn ddiweddarach ei fod wedi ailadrodd yr hanes mor aml nad oedd yn cofio'r foment wreiddiol, dim ond atgofion o ailadrodd yr hanes. Mae ôl-nodyn ym mywgraffiad M. J. Simpson o Adams, Hitchhiker: A Biography of Douglas Adams, yn cynnig tystiolaeth mai anwiredd oeddi ac mewn gwirionedd ni gafodd Adams y syniad hyd ar ôl ei daith ogwmpas Ewrop.
Er iddo greu amlinell plot yn wreiddiol, dywedir i Adams ddychmygu straeon newydd fel yr oedd wrthi'n ysgrifennu. Trodd tuag at John Lloyd am gymorth gyda'r ddwy bennod olaf y gyfres gyntaf. Cyfranodd Lloyd rhannau o lyfr ffuglen wyddonol ei hun nad oedd wedi ei gyhoeddi hyd hynnu, GiGax.[12] Serch hynnu, ychydig iawn o ddeunydd Lloyd a oroesodd mewn addasiadau diweddarach o Hitchhiker's, megis y nofelau a'r gyfres deledu. Roedd y gyfres deledu ei hun yn seiliedig ar chwe pennod cyntaf o'r gyfres radio ac ail-ysgrifennwyd y rhan helaeth o beth gyfrannodd Lloyd.
Darlledodd BBC Radio 4 y gyfres gyntaf yn wythnosol yn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth ac Erbill 1978. Yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf, recordiwyd a darlledwyd pennod arall, a adnabyddir yn gyffredin fel y "Christmas Episode". Darlledwyd ail gyfres o bum pennod, un pob nos yn ystod yr wythnos o 21 – 25 Ionawr 1980.
Tra'n gweithio ar y gyfres radio (a phrosiectau eraill cydamserol megis The Pirate Planet) datblygodd Adams broblemau'n cadw at ddyddiadau cwblhau a waethygodd pan aeth ati i gyhoeddi nofelau. Nid oedd Adams erioed yn llenor prolific iawn, a bu'n raid i eraill ei orfodi i ysgrifennu fel rheol. Roedd hyn yn cynnwys cael ei gloi mewn ystafell westy gyda'i olygydd am dri wythnos er mwyn cadarnhau y bu So Long, and Thanks For All the Fish yn cael ei gwblhau.[13] Mae wedi cael ei ddyfynnu yn dweud, "Dwi'n caru dyddiadau cwblhau. Dwi'n caru'r sŵn ŵsio mae nhw'n gwneud wrth iddynt fynd heibio".[14] Er ei anhwylder gyda dyddiadau cwblhau, ysgrifennodd Adams bum nofel yn y gyfres erbyn y diwedd, a gyhoeddwyd ym 1979, 1980, 1982, 1984 ac 1992.
Daeth y llyfrau'n sail ar gyfer addasiadau eraill, megis llyfr comig tair rha ar gyfer y tri llyfr cyntaf, gêm gyfrifiadur antur-destun rhyngweithiol, ac argraffiad wedi ei ddarlunio â ffotograffau a gyhoeddwyd ym 1994. Roedd yr olaf yn cynnwys 42 Puzzle a gynlluniwyd gan Adams, a gafodd ei gyfuno yng nghloriau clawr meddal y pedwar nofel cyntaf "Hitchhiker's" (ail-ddefnyddiodd clawr meddal y pumed nofel y darlunwaith o'r argraffiad clawr caled).[15]
Ym 1980, dechreuodd Adams geisio troi nofel gyntaf Hitchhiker's yn ffilm, gan deithio i Los Angeles, Califfornia sawl gwaith, a gweithio gyda nifer o stiwdios Hollywood a chynhyrchwyr posibl. Y flwyddyn canlynol, 1981, daeth y gyfres radio yn sail ar gyfer cyfres deledu fer y BBC, "The Hitch Hikers Guide to the Galaxy",[16] a ddarlledwyd mewn chwe rhan. Pan fu farw yng Nghaliffornia yn 2001, roedd wedi bod yn ceisio cychwyn y prosiect ffilm unwaith eto gyda Disney, a oedd wedi prynu'r hawliau ym 1998. Ailysgrifennwyd y ddrama-sgrîn yn y diwedd gan Karey Kirkpatrick, a caffod ei oleuo'n wyrdd ym mis Medi 2003, rhyddhawyd y ffilm yn 2005.
Roedd y cynhyrchydd radio Dirk Maggs wedi ymgynghori gyda Adams, y tro cyntaf ym 1993, ac yn ddiweddarach ym 1997 a 2000 ynglŷn â chreu trydydd cyfres yn seiliedig ar cyfres o nofelau Hitchhiker's.[17] Trafodont yn fras bosibiliadau ar gyfer addiasiadau radio o'r ddwy nofel olaf, ond fel y bu'r achos gyda'r ffilm, ni ddigwyddodd hyn hyd ar ôl marwolaeth Adams. Darlledwyd y trydydd gyfres, The Tertiary Phase, ar BBC Radio 4 ym mis Medi 2004 a cafodd ei ryddhau ar grynoddisg yn ddiweddarch. Gyda cymorth recordiad o Adams yn darllen Life, the Universe and Everything a golygu, gellir clywed Douglas Adams ei hun, ar ôl ei farwolaeth, yn chwarae rhan Agrajag. Crewyd pedwerydd a phumed cyfres radio yn seiliedig ar So Long, and Thanks For All the Fish a Mostly Harmless (ar y radio dan y teitlau The Quandary Phase a The Quintessential Phase) a darlledwyd rhain ym mis Mai a Mehefin 2005, a'u rhyddhau ar grynoddisg yn ddiweddarch. Mae'r bennod olaf yn y gyfres olaf yn dod i ben gyda'r geiriau "The very final episode of The Hitchhiker's Guide to the Galaxy by Douglas Adams is affectionately dedicated to its author.", gyda diweddglo mwy llawen wedi ei ailysgrifennu.[18]
Yn fwy diweddar, mae gwneuthurwyr ffilmiau Smoov Filmz wedi addasu anecdote, lle mae Arthur Dent yn adrodd am fisgedi yn So Long, and Thanks for All the Fish, i ffilm fer "Cookies".[19] Trafododd Adams hefyd digwyddiad wir a ysbrydolodd yr anecdote mewn araith yn 2001, a ail-argraffwyd yn y casgliad The Salmon of Doubt ar ôl ei farwolaeth. Adrddodd y stori ar y rhaglen radio It Makes Me Laugh ar 19 Gorffennaf 1981.
Cyfres Dirk Gently
golyguRhwng taith cyntaf Adams i Madagasgar gyda Mark Carwardine ym 1985, a'u cyfres o deithiau a ffurfiodd y sail ar gyfer cyfres radio a llyfr feithiol Last Chance to See, ysgrifennodd Adams ddwy nofel arall gyda chast newydd o gymeriadau. Cyhoeddwyd Dirk Gently's Holistic Detective Agency gyntaf ym 1987, a disgrifwyd ef gan Adams fel "math o gomedi-rhamantus-epig-arswyd-ysbrydion-dditectif-teithio-amser"[20] Derbyniodd sawl adolygiad cynddeiriog gan papurau newydd Americanaidd pan gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau. Benthycodd Adams gwpl o syniadau o'r straeon Doctor Who roedd wedi gweithio arnynt gynt: City of Death a Shada.
Cyhoeddwyd dilyniant, The Long Dark Tea-Time of the Soul blwyddyn yn ddiweddarach. Roedd y gwaith hwn yn gwbl wreiddiol a cyntaf Adams ers So Long, and Thanks for All the Fish. Nid oedd yr adolygwyr gryn mor hael gyda praise am yr ail lyfr ag yr oeddent gyda'r cyntaf. Wedi'r teithiau gyda'r llyfr yr oedd yn orfodol, aeth Adams i ffwrdd ar daith oamgylch y byd a roddodd ddeunydd iddo ar gyfer Last Chance to See.
Doctor Who
golygu- Prif: Doctor Who
Anfonodd Adams sgript rhaglen radio beilot Hitchhiker's Guide to the Galaxy at swyddfa gynhyrchu Doctor Who ym 1978, a comisiynwyd ef i ysgrifennu The Pirate Planet (gweler isod). Gynt, roedd hefyd wedi ceisio argymell sgript potensial ar gyfer ffilm, "Doctor Who and the Krikkitmen," a ddatblygwyd yn ddiweddarach i'r nofel Life, the Universe and Everything (a ddaeth yn drydydd gyfres radio Hitchhiker's Guide). Aeth Adams ymlaen i wasanaethu fel golygydd sgript y sioe yn ei 17fed tymor ym 1979. Ysgrifennodd dri pennod o Doctor Who yn serennu Tom Baker fel y Doctor:
- The Pirate Planet (ail bennod y "Key To Time", Tymor 16)
- City of Death (gyda'r cynhyrchydd Graham Williams, o stori wreiddiol gan David Fisher. Darlledwyd ef dan y ffugenw "David Agnew")
- Shada (ffilmwyd yn rhannol a ni ddarlledwyd oherwydd daleuon diwydiannol)
Mae'r penodau a ysgrifennwyd gan Adams yn rai o'r ychydig bennodau sydd heb gael eu troi'n nofelau, gan nad oedd Adams yn fodlon gadael i unrhyw un arall eu ysgrifennu, a gofynnodd am dâl uwch nag oedd y cyhoeddwyr yn fodlon talu.[21]
Weithiau, gadawodd Adams i jôcs mewnol o The Hitchhiker's Guide ymddangos yn y straeon Doctor Who a ysgrifennodd a golygodd ef. Mae llenorion diweddarch wedi cynnwys cyfeiriadau at Hitchhiker's hefyd, hyd yn oed mor ddiweddar a 2007. Mae oleiaf un cyfeiriad at Doctor Who hefyd wedi cael ei gynnwys mewn nofel Hitchhiker's. Yn Life, the Universe and Everything, mae dau gymeriad yn teithio drwy amser ac yn glanio ar faes criced Lord's. Mae ymateb y sylwebwyr radio yn debyg iawn i ymateb y sylwebwyr ar sîn wythfed pennod stori 1965–1966 The Daleks' Master Plan, lle mae TARDIS y Dcotor yn materoli ar faes Lord's.
Ailddefnyddwyd elfennau o Shada a City of Death yn nofel diweddarach Adams', Dirk Gently's Holistic Detective Agency, yn arbennig Professor Chronotis, ac mae Dirk Gently ei hun yn chwarae rôl tebyg i'r Doctor yn y plot er fod y cymeriad yn wahanol iawn. Ailgynhyrchwyd Shada gen Big Finish Productions fel drama-sain yn serennu Paul McGann fel y Doctor. Roedd darluniadau wedi eu rhanol animeiddio'n cydfynd gyda hwn a cafodd ei gynnwys mewn webcast ar wefan y BBC yn 2003, a'i ryddhau ar set o ddau grynoddisg yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Darlledwd fersiwm omnibws ar sianel radio ddigidol BBC7 ar 10 Rhagfyr 2005.
Mae Adams yn cael y credyd o gyflwyno ffan a ddaeth yn ffrind iddo'n ddiweddarch, y sŵolegydd Richard Dawkins, i wraig Dawkins yn y dyfodol, Lalla Ward, a oedd yn chwarae rhan Romana yn Doctor Who. Cadarnhaodd Dawkins hyn yn ei foliant a gyhoeddodd am Adams.[22]
Tra roedd yn ysgol, ysgrifennodd a pherffomiodd Adams ddrama o'r enw Doctor Which.[23]
Cerddoriaeth
golyguRoedd Adams yn chwarae'r gitâr yn llaw-chwith ac roedd ganddo gasgliad a gitârs llaw-chwith pan fu farw, wedi iddo dderbyn ei gitâr gyntaf ym 1964. Astudiodd hefyd y piano yn ystod yr 1960au gyda'r un athro a ddysgodd Paul Wickens, pianydd ym mand Paul McCartney (a gyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer cyfres radio 2004–2005 y Hitchhiker's Guide).[24] Cafodd The Beatles, Pink Floyd a Procol Harum i gyd effaith ar waith Adams.
Pink Floyd
golyguCynhwysodd Adams gyfeiriad uniongyrchol at Pink Floyd yn fersiwn radio gwreiddiol The Hitchhiker's Guide to the Galaxy, lle mae'n disgrifio'r prif gymeriadau'n arolygu tirwedd planed estron tra bod Marvin, eu cydymaith android, yn hymian "Shine on You Crazy Diamond" gan Pink Floyd. Cafodd hwn ei dorri allan o'r fersiwn crynoddisg. Cymharodd Adams nifer o synau a wnaed gan y kakapo at "Pink Floyd studio out-takes" yn ei lyfr ffeithiol am anifeiliaid mewn perygl, Last Chance to See.
Mae bywgraffiad swyddogol Adamsyn rhannu ei deitl gyda chân "Wish You Were Here" gan Pink Floyd. Roedd Adams yn ffrindiau gyda gitarydd Pink Floyd, David Gilmour ac, ar ben-blwydd Adams yn 42 (roedd 42 yn nodweddiadol gan mai dyma The Answer to Life, the Universe and Everything ac oedran Adams pan anwyd ei ferch Polly), gwahoddwyd ef i wneud ymddangosiad fel gwestai yng nghyngerdd Pink Floyd ar 28 Hydref 1994 yn Earls Court, Llundain, yn chwarae'r gitâr ar "Brain Damage" ac "Eclipse". Nid oes fideo ar gael o'r digwyddiad ond gwnaethwyd recordiad sain. Dewisodd Adams yr enw ar gyfer albwm 1994 Pink Floyd, The Division Bell, gan ddewis y geiriau o un o'r traciau, sef "High Hopes". Perfformiodd Gilmour hefyd yng ngwasanaeth coffa Adams yn dilyn ei farwolaeth yn 2001.
Roedd Pink Floyd a'u sioeau llwyfan hael yn ysbrydoliaeth i'r cymeriadau yn y band roc "Disaster Area", a gyfeirwyd atynt yn y Hitchhiker's Guide. Un elfen o sioeau llwyfan Disaster Area oedd i anfon llong ofod yn hedfan i mewn i'r haul, mae'n budd debyg ysbrydolwyd hyn gan yr awyrn a fu'n chwalu ar y llwyfan mewn rhai o sioeau byw Pink Floyd, ar ddiwedd y gân "On the Run" fel rheol. Mae'n bosib y bu i gân 1968 Pink Floyd "Set the Controls for the Heart of the Sun" ddylanwadu'r syniadau tu ôl i Disaster Area hefyd.
Procol Harum
golyguRoedd Douglas Adams yn gyfaill i Gary Brooker, prif lais, pianydd ac ysgrifennwr caneuon y band roc blaengar Procol Harum. Gwahoddodd Adams ef i nifer o bartion yn ei dŷ, ac un tro perfformiodd Brooker fersiwn llawn 4 pennill "A Whiter Shade of Pale". Perfformiodd Brooker hefyd yng ngwasanaeth coffa Adams.
Ymddangosodd Adams ar lwyfan gyda Brooker i berfformio "In Held Twas in I" yn Redhill pan nad eodd Keith Reid ar gael. Cyflwynodd Procol Harum i'r llwyfan mewn nifer o'u gigiau.
Dywedodd Adams y bu'n gwrando ar gerddoriaeth wrth ysgrifennu, a bu hyn weithiau'n cael dylanwad ar ei waith, un tro roedd trac o albwm Procol Harum Grand Hotel yn chwarae pan... "Suddenly in the middle of the song there was this huge orchestral climax that came out of nowhere and didn't seem to be about anything. I kept wondering what was this huge thing happening in the background? And I eventually thought ... it sounds as if there ought to be some sort of floorshow going on. Something huge and extraordinary, like, well, like the end of the universe. And so that was where the idea for The Restaurant at the End of the Universe came from."[25]
Gemau cyfrifiadur a phrosiectau eraill
golyguCreodd Douglas Adams fersiwn ffuglen rhyngweithiol o HHGG ynghyd â Steve Meretzky o Infocom ym 1984. Ym 1986 cymerodd ran mewn sesiwn o gasglu syniadau a barhaodd wythnos gyda tîm Lucasfilm Games, ar gyfer y gêm Labyrinth. Yn ddiweddarach bu hefyd yn ymwneud â datblygu gêm Bureaucracy (also by Infocom, but not based on any book). Roedd Adams hefyd yn gyfrifol am êm gyfrifiadur Starship Titanic, a gyhoeddwyd ym 1998 gan Simon and Schuster. Ysgrifennwyd y llyfr a oedd yn cydfynd â'r gêm gan Terry Jones, sef Douglas Adams’s Starship Titanic, gan y bu Adams yn rhy brysur yn datblygu'r gêm i weithio ar y ddau. Ym mis Ebrill 1999, cychwynodd Adams y brosiect ysgrifennu cydweithiol h2g2, ymgais arbrofol i ddod a The Hitchhiker's Guide to the Galaxy yn wir, gan dod a phŵer meddyliol cymuned y wê at ei gilydd.
Ym 1990, ysgrifennodd a cyflwynodd Adams rhaglen deledu ddogfen Hyperland[26] gyda Tom Baker fel "asiant meddalwedd" (yn debyg i'r "cynorthwywyr" a ddefnyddiwyd mewn sawl fersiwn o Microsoft Office, yn deillio o'u rhaglen "Bob" a oedd yn fethiant), a chyfweliadau gyda Ted Nelson, a oedd yn ymwneud â defnydd hypertext. Er na ddyfeisiodd Adams hypertext, fe fabwysiadodd y sgript yn gynnar iawn a bu'n ei hyrwyddo. Roedd hyn yr un flwyddyn a ddefnyddiodd Tim Berners-Lee hypertext yn ei HTML.
Creodau ac actifydiaeth
golyguAnffyddiaeth a chrefydd
golyguDisgrifiodd Adams ei hun fel "anffyddiwr radical", gan ategu'r "radical" i roi pwyslais a cadarnhau na fyddai unrhyw un yn gofyn iddo os mai agnostig oedd yn ei olygu. Er ei fod yn sicr nad oedd duw, roedd â diddordeb mewn crefydd oherwydd yr effaith mae'n cael ar bobl. "I love to keep poking and prodding at it. I’ve thought about it so much over the years that that fascination is bound to spill over into my writing."[27]
Mae'r gwyddonydd Richard Dawkins yn defnyddio dylanwad Adams yn ei lyfr The God Delusion, er mwyn enghreifftio dadleuon dros beidio a credu.[28] Mae'r llyfr wedi ei gyflwyno i Adams, gyda dyfyniad ganddo "Isn’t it enough to see that a garden is beautiful without having to believe that there are fairies at the bottom of it too?".
Yr amgylchedd
golyguRoedd Adams yn actifydd amgylcheddol a fu'n ymgyrchu dros nifer o anifeiliaid mewn perygl. Roedd yr actifyddiaeth yn cynnwys cynhyrchu rhaglen ddogfen ar gyfer y radio, Last Chance to See, ynddi mae ef a'r naturiaethwr Mark Carwardine yn ymweld â anifeiliaid prin y Kakapo a'r Baiji. Cyhoeddwyd hefyd lyfr o'u un enw ac addaswyd hwn ym 1992 i greu pecyn cyfuniad o CD-ROM llyfr sain, e-lyfr a sioe sleidiau o luniau.
Cyfranodd Adams a Mark Carwardine ddarn 'Meeting a Gorilla' o Last Chance to See at lyfr The Great Ape Project.[29] Golygwyd y llyfr gan Paola Cavalieri a Peter Singer, a lawsiwyd prosiect ehangach ar ei sail ym 1993, sy'n galw am ymestyiad o gyfartaledd moesol i gynnwys yr holl epaod mwyaf, yn ddynol neu ddim.
Dringodd Adams Mount Kilimanjaro ym 1994, tra'n gwisgo siwt rhino, dros elusen Save the Rhino. Cymerodd nifer o bobl rhan yn y dringiad, a phob un yn cymryd tro i wisgo'r siwt; gwisgodd Adams y siwt ar y daith i'r mynydd. Codwyd tua £100,000 a gyfranwyd at ysgolion Cenia a rhaglen cadwraeth y Rhinoceros Du yn Tansanïa. Roedd Adams hefyd yn gefnogwr gweithgar y Dian Fossey Gorilla Fund. Ers 2003, mae Save the Rhino wedi cynnalDarlith Goffa Douglas Adams ogwpas dyddiad ei ben-blwydd er mwyn codi arian ar gyfer ymgyrchoedd amgylcheddol.[30] Mae'r darlithau'n cynnwys:
- 2003 Richard Dawkins – Queerer than we can suppose: the strangeness of science
- 2004 Robert Swan – Mission Antarctica
- 2005 Mark Carwardine – Last Chance to See... Just a bit more
- 2006 Robert Winston – Is the Human an Endangered Species?
- 2007 Richard Leakey – Wildlife Management in East Africa – Is there a future?
- 2008 Steven Pinker – The Stuff of Thought, Language as a Window into Human Nature
- 2009 Benedict Allen – Unbreakable
Technoleg
golyguRoedd Adams yn ffan difrifol o dechnoleg, er na brynodd ei brosesydd geiriau cyntaf, 'Nexus', tan 1982, roedd wedi cysidro cael un ers 1979. Prynodd ei ail brosesydd ym 1983 tra yn Los Angeles gyda Jane Belson, sef DEC Rainbow. Wedi dychwelyd i Brydain prynodd Adams Apricot, yna BBC Micro a Tandy 1000.[31] Mae Adams yn cyfeirio at ei Cambridge Z88 yn Last Chance to See, aeth a'r peiriant gydag ef i Saïr ar ei gwest i ganfod y Rhinoceros Gwyn Gogleddol.[32]
Llyfryddiaeth
golygu- The Hitchhiker's Guide to the Galaxy (1979)
- The Restaurant at the End of the Universe (1980)
- Life, the Universe and Everything (1982)
- So Long, and Thanks For All the Fish (1984)
- Mostly Harmless (1992)
- Dirk Gently's Holistic Detective Agency (1987)
- The Long Dark Tea-Time of the Soul (1988)
- The Salmon of Doubt (incomplete, 2002)
- The Meaning of Liff (1983, with John Lloyd)
- The Hitchhiker's Guide to the Galaxy: The Original Radio Scripts (1985, gyda Geoffrey Perkins)
- The Utterly Utterly Merry Comic Relief Christmas Book (1986, golygwyd gyda Peter Fincham)
- Young Zaphod Plays it Safe
- The Private Life of Genghis Khan
- A Christmas Fairly Story [sic] gyda Terry Jones
- Supplement to The Meaning of Liff gyda John Lloyd a Stephen Fry
- The Deeper Meaning of Liff (1990, gyda John Lloyd)
- Last Chance to See (1990, gyda Mark Carwardine
- The Illustrated Hitchhiker's Guide to the Galaxy (1994)
- Douglas Adams's Starship Titanic (1997), gan Terry Jones ar sail syniad gan Adams
- The Salmon of Doubt (2002), noel heb ei orffen (11 chapters), straeon byrion, traethodau, and interviews (hefyd fel llyfr sain wedi ei ddarllen gan Simon Jones)
- Monty Python's Flying Circus Pennod 45, Party Political Broadcast on Behalf of the Liberal Party (1972)
- The Pirate Planet, pennod Doctor Who, darlledwyd gyntaf 1978
- City of Death, pennod Doctor Who, ar y cyd â Graham Williams, ar sail stori gan David Fisher, darlledwyd gyntaf mis Hydref 1978
- Shada, a Doctor Who serial
- The Hitchhiker's Guide to the Galaxy (gêm gyfrifiadur) (1984, gyda Steve Meretzky)
- Young Zaphod Plays It Safe (stori fer) (1986)
- Bureaucracy (computer game) (1987)
- Hyperland (TV documentary) (1990)
- Starship Titanic (computer game) (1998)
- h2g2 (internet project) (1999)
- The Internet: The Last Battleground of the 20th century (cyfres radio) (2000)
- The Hitchhiker's Guide to the Future (cyfres radio) (2001) y prosiect olaf cyn ei farwolaeth, ar gyfer BBC Radio 4
Cyfeiriadau
golygu- ↑ FAQ a bostiwyd at alt.fan.douglas-adams, Groups.google.com
- ↑ "This is an interesting world I find myself in—an interesting hole I find myself in—fits me rather neatly, doesn't it? In fact it fits me staggeringly well, must have been made to have me in it!" Adams 1998; Dawkins 2003, tud. 169.
- ↑ "[s]cience has lost a friend, literature has lost a luminary, the mountain gorilla and the black rhino have lost a gallant defender." Dawkins 2001.
- ↑ Webb 2005a, tud. 32.
- ↑ "Hundreds of boys have passed through the school but Douglas Adams really stood out from the crowd—literally. He was unnaturally tall and in his short trousers he looked a trifle self-conscious. Yet it was his ability to write first-class stories that really made him shine." Simpson 2003, tud. 9.
- ↑ Douglas Adams, BBC, 21 Ebrill 2005, 2009; Adams 2002, tud. xix.
- ↑ Simpson 2003, tud. 30–40.
- ↑ Webb 2005b
- ↑ "At least you can read while you're on the job." Webb 2005a, tud. 93
- ↑ "probably because it's easier to spell" Douglas Adams (2003). gol. Geoffrey Perkins, Deunydd ychwanegol gan M. J. Simpson: The Hitchhiker's Guide to the Galaxy: The Original Radio Scripts, 25th Anniversary Edition, Pan Books, tud. 10. ISBN 0-330-41957-9
- ↑ Tudalen am Hitchhiker's ar wefan y BBC: "The BBC used to say this happened in Spain, but we know how to spell Innsbruck now."
- ↑ Webb 2005a, tud. 120.
- ↑ Felch 2004
- ↑ "I love deadlines. I love the whooshing noise they make as they go by." Simpson 2003, tud. 236.
- ↑ Internet Book List Archifwyd 2006-02-20 yn y Peiriant Wayback, gyda dolenni a chopiau o argraffiadau'r 1990au sy'n gynnwys y 42 Puzzle.
- ↑ "The Hitch Hikers Guide to the Galaxy"
- ↑ Douglas Adams (2005). gol. Dirk Maggs, golygydd a dramodiadau: The Hitchhiker's Guide to the Galaxy Radio Scripts: The Tertiary, Quandary and Quintessential Phases. Pan Books, tud. xiv. ISBN 0-330-43510-8
- ↑ Ibid. tud. 356
- ↑ Smoov Filmz, gweler "Cookies" yn adran "Filmz and Projects"
- ↑ "a kind of ghost-horror-detective-time-travel-romantic-comedy-epic, mainly concerned with mud, music and quantum mechanics." Neil Gaiman (2003). Don't Panic: Douglas Adams & The Hitchhiker's Guide to the Galaxy, Ail argraffiad yr Unol Daleithiau, Titan Books, tud. 169. ISBN 1-84023-742-2
- ↑ FAQ's Doctor Who yr 1990au Archifwyd 2011-05-15 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Richard Dawkins (2001-09-17). Lament for Douglas. Edge Foundation, Inc.. URL
- ↑ Douglas Adams (2002). The Salmon of Doubt: Hitchhiking the Galaxy One Last Time, argraffiad cyntaf clawr caled y DU, Macmillan, tud. xviii. ISBN 0-333-76657-1
- ↑ Webb, tud. 49
- ↑ Douglas Adams (8 Chwefror 1996). Text of one of Douglas Adams's introductions of Procol Harum in concert.
- ↑ Tudalen IMDB Hyperland.
- ↑ Silverman, David. Life, the Universe, and Everything: An Interview with Douglas Adams, The American Atheist Volume 37, No. 1, 1998–1999. Retrieved August 16, 2009.
- ↑ "The God Delusion". Unknown parameter
|dyddiad=
ignored (help); Unknown parameter|cyhoeddwr=
ignored (help) - ↑ Paola Cavalieri a Peter Singer, golygwyr (1994). The Great Ape Project: Equality Beyond Humanity, Clawr meddal yr Unol Daleithiau, St. Martin's Griffin, tud. 19–23. ISBN 031211818X
- ↑ Pumed Darlith Goffa Douglas Adams Archifwyd 2008-11-07 yn y Peiriant Wayback.
- ↑ Simpson, Hitchhiker, tud. 184–5.
- ↑ Douglas Adams a Mark Carwardine (1991). Last Chance to See, Clawr caled cyntaf yr Unol Daleithiau, Harmony Books, tud. 59. ISBN 0-517-58215-5
- Adams, Douglas (1998). Is there an Artificial God? Archifwyd 2013-03-02 yn y Peiriant Wayback, speech at Digital Biota 2, Cambridge, England, September 1998.
- Adams, Douglas (2002). The Salmon of Doubt: Hitchhiking the Galaxy One Last Time, Macmillan. ISBN 0-333-76657-1
- Dawkins, Richard (2001). Lament for Douglas Adams, The Guardian, May 14, 2001.
- Dawkins, Richard (2003). "Eulogy for Douglas Adams," in A devil's chaplain: reflections on hope, lies, science, and love. Houghton Mifflin Harcourt.
- Felch, Laura (2004). Don't Panic: Douglas Adams and the Hitchhiker's Guide to the Galaxy by Neil Gaiman Archifwyd 2020-11-08 yn y Peiriant Wayback, May 2004
- Ray, Mohit K (2007). Atlantic Companion to Literature in English, Atlantic Publishers and Distributors. ISBN 81-269-0832-7
- Simpson, M. J. (2003). Hitchhiker: A Biography of Douglas Adams, Justin, Charles and Co. ISBN 1-932112-17-0
- Webb, Nick (2005a). Wish You Were Here: The Official Biography of Douglas Adams. Ballantine Books. ISBN 0-345-47650-6
- (Saesneg) Webb, Nick (2005b). "Adams, Douglas Noël (1952–2001)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/75853.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl).