Chwartel
Yn ystadegaeth, mae chwartel yn fath o ganradd sy'n rhannu nifer y pwyntiau data yn bedair rhan, neu chwarteri, o faint mwy-neu-lau cyfartal. Er mwyn cyfrifo chwarteli, rhaid trefnu'r data o'r gwerth lleiaf i'r mwyaf. Y pum chwartel yw:
- Q0: y minimwm, neu'r isafbwynt. Does dim data sy'n llai na'r gwerth hwn.
- Q1: y chwartel cyntaf, y chwartel isaf, neu'r 25eg canradd. Mae 25% o'r data yn llai na'r gwerth hwn.
- Q2: y canolrif, yr ail chwartel, neu'r 50eg canradd. Mae 50% o'r data yn llai na'r gwerth hwn.
- Q3: y trydydd chwartel, y chwartel uchaf, neu'r 75eg canradd. Mae 75% o'r data yn llai na'r gwerth hwn.
- Q5: y macsimwm, neu'r uchafbwynt. Mae 100% o'r data yn llai na'r gwerth hwn.[1]
Mae'r pum chwartel a ddisgrifir uchod yn rhoi crynodeb pum rhif y data. Mae'r crynodeb hwn yn bwysig mewn ystadegaeth oherwydd ei fod yn darparu gwybodaeth am ganol, lledaeniad, a siâp y data. Mae gwybod y chwartel isaf ac uchaf yn darparu gwybodaeth ar ba mor fawr yw'r amrywiant ac os yw'r set ddata wedi'i sgiwio tuag un ochr. Gan fod chwarteli yn rhannu nifer y pwyntiau data yn gyfartal, nid yw'r amrediad yr un peth rhwng chwarteli (hy, Q3-Q2 ≠ Q2-Q1), ac mae cymharu'r amrediadau hyn yn gallu rhoi gwybodaeth am sgiwedd y data. Mae'r amrediad rhyngchwartel (IQR), sef Q3-Q1, yn mesur arall o ledaeniad y data sy'n rhoi amrediad 50% canol y data. Mae cymharu hwn gyda'r amrediad Q5-Q0 yn gallu rhoi gwybodaeth am gwrtosis y data. Yn ogystal gall yr amrediad rhyngchwartel rhoi mwy o wybodaeth na'r amrediad ei hun, gan ei fod yn anwybyddu presenoldeb allanolion.[2]
Dulliau cyfrifo
golyguDosraniadau tebygolrwydd di-dor
golyguOs ydym yn diffinio dosraniad tebygolrwydd di-dor fel lle mae yn hapnewidyn gwerth real, yna rhoddir ei ffwythiant dosraniad cronnus (CDF) gan,
.[1]
Mae'r CDF yn rhoi'r tebygolrwydd y bydd y newidyn ar hap yn llai na'r gwerth . Felly, y chwartel cyntaf yw gwerth pan mae , yr ail chwartel yw pan mae , a'r trydydd chwartel yw pan mae .[3] Gallwn canfod y gwerthoedd hyn gyda'r ffwythiant canradd , sef ffwythiant gwrthdro'r CDF, . Yna'r chwartel cyntaf yw , yr ail chwartel yw , a'r trydydd chwartel yw .
Dosraniadau arwahanol
golyguAr gyfer dosraniadau arwahanol, nid oes cytundeb cyffredinol ar sut i ddewis y gwerthoedd chwartel.[4] Mae'n dibynnu os defnyddir anhafaleddau caeth neu beidio (⩽ neu <).
Dull 1
golygu- Defnyddiwch y canolrif i rannu'r set ddata trefnedig yn ddau hanner.
- Os oes odrif o bwyntiau data yn y set ddata trefnedig gwreiddiol, peidiwch â chynnwys y canolrif yn y naill hanner.
- Os oes eilrif o bwyntiau data yn y set ddata trefnedig gwreiddiol, rhannwch y set ddata hon yn union yn ei hanner.
- Gwerth y chwartel isaf yw canolrif hanner isaf y data. Gwerth y chwartel uchaf yw canolrif hanner uchaf y data.
Dull 2
golygu- Defnyddiwch y canolrif i rannu'r set ddata trefnedig yn ddau hanner.
- Os oes odrif o bwyntiau data yn y set ddata trefnedig gwreiddiol, rhaid cynnwys y canolrif yn y ddau hanner.
- Os oes eilrif o bwyntiau data yn y set ddata trefnedig gwreiddiol, rhannwch y set ddata hon yn union yn ei hanner.
- Gwerth y chwartel isaf yw canolrif hanner isaf y data. Gwerth y chwartel uchaf yw canolrif hanner uchaf y data.
Dull 3
golygu- Os oes eilrif o bwyntiau data, yna mae Dull 3 yr un peth â'r naill ddull neu'r llall.
- Os oes (4n+1) o bwyntiau data, yna bydd y chwartel isaf yn 0.75 lluosi'r o'r nfed gwerth adio â 0.25 lluosi'r (n+1)fed gwerth; y chwartel uchaf yw 0.75 lluosi'r (3n+1)fed gwerth adio 0.25 lluosi'r (3n+2)fed gwerth.
- Os oes (4n+3) pwynt data, yna'r chwartel isaf yw 0.75 lluosi'r (n+1)fed gwerth adio 0.25 lluosi'r (n+2)fed gwerth; y chwartel uchaf yw 0.25 lluosi'r (3n+2)fed gwerth adio 0.75 lluosi'r (3n+3)fed gwerth.
Enghraifft 1
golyguSet data mewn trefn: 6, 7, 15, 36, 39, 40, 41, 42, 43, 47, 49
Dull 1 | Dull 2 | Dull 3 | |
---|---|---|---|
C 1 | 15 | 25.5 | 20.25 |
C 2 | 40 | 40 | 40 |
C 3 | 43 | 42.5 | 42.75 |
Enghraifft 2
golyguSet data mewn trefn: 7, 15, 36, 39, 40, 41
Gan fod yna eilrif o bwyntiau data, mae'r tri dull i gyd yn rhoi'r un canlyniadau.
Dull 1 | Dull 2 | Dull 3 | |
---|---|---|---|
C 1 | 15 | 15 | 15 |
C 2 | 37.5 | 37.5 | 37.5 |
C 3 | 40 | 40 | 40 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 A modern introduction to probability and statistics : understanding why and how. Dekking, Michel, 1946–. London: Springer. 2005. tt. 234–238. ISBN 978-1-85233-896-1. OCLC 262680588.CS1 maint: others (link)
- ↑ Knoch, Jessica (February 23, 2018). "How are Quartiles Used in Statistics?". Magoosh Statistics Blog. Cyrchwyd December 11, 2019.
- ↑ "6. Distribution and Quantile Functions" (PDF). math.bme.hu.
- ↑ Hyndman, Rob J; Fan, Yanan (November 1996). "Sample quantiles in statistical packages". American Statistician 50 (4): 361–365. doi:10.2307/2684934. JSTOR 2684934. http://robjhyndman.com/papers/quantiles/.