Ieithoedd Celtaidd
Mae'r ieithoedd Celtaidd yn tarddu o Gelteg (hefyd ‘Celteg Cyffredin’), cangen orllewinol o'r teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Defnyddiwyd y term "Celteg" gyntaf i ddisgrifio'r grŵp hwn o ieithoedd gan Edward Lhuyd ym 1707.[1]
Celteg | |
---|---|
Dosraniad daearyddol: |
Siaredid hwy'n eang ar draws Ewrop, ond erbyn heddiw yn Ynysoedd Prydain, Llydaw, Patagonia a Nova Scotia |
Dosraniad Ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Celteg |
Israniadau: | |
ISO 639-2 a 639-5: | cel |
Siaredir yr ieithoedd Celtaidd yn bennaf ar ymylon gorllewin Ewrop, yn enwedig yng Nghymru, yr Alban, Iwerddon, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw, ac fe'u ceir ar Ynys Cape Breton yng Nghanada ac yng Ngwladfa Patagonia yn yr Ariannin. Gellir cael hyd i rai sy'n siarad yr ieithoedd mewn ardaloedd y bu siaradwyr ieithoedd Celtaidd yn ymfudo iddynt hefyd, fel yr Unol Daleithiau,[2] Canada, Awstralia,[3] a Seland Newydd.[4] Yn yr ardaloedd hyn i gyd, gan leiafrif o bobl y siaredir yr ieithoedd Celtaidd, er bod ymdrechion i'w hadfywio. Y Gymraeg yw'r unig iaith nad yw UNESCO yn ei dosbarthu'n iaith mewn perygl.
Yn ystod y mileniwm cyntaf CC, fe siaredid yr ieithoedd Celtaidd ar draws Ewrop, ar yr Orynys Iberaidd, o lannau Môr Iwerydd a Môr y Gogledd, drwy ddyffrynnoedd Rhein a Donwy hyd at y Môr Du, Gorynys Uchaf y Balcanau ac yng Ngalatia yn Asia Leiaf. Aeth Gaeleg yr Alban i Ynys Cape Breton a'r Gymraeg i Batagonia yn ystod y cyfnodau modern. Câi ieithoedd Celtaidd, yn enwedig yr Wyddeleg, eu siarad yn Awstralia cyn y cyfuno ym 1901 ac maent yn cael eu defnyddio yna o hyd i ryw raddau.
Ieithoedd byw
golyguRhestra Ethnologue chwe iaith Geltaidd "fyw", lle mae pedair ohonynt wedi dal gafael ar nifer sylweddol o siaradwyr brodorol, sef: y Gymraeg a'r Lydaweg (a darddodd o'r Frythoneg) a'r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban a darddodd o Aeleg cyffredin, a elwir yn Wyddeleg Fodern Gynnar (neu Wyddeleg Clasurol).
Siaradwyd y ddwy iaith arall, y Gernyweg a'r Fanaweg, hyd at y cyfnodau cynnar ond buont farw yn iaith gymunedol.[5][6][7] Ond bu mudiadau adfywiol i'r ddwy iaith sydd wedi dilyn i oedolion ddysgu'r iaith a hefyd siaradwyr plant brodorol.[8]
Ar y cyfan, roedd tua miliwn o siaradwyr brodorol o'r ieithoedd Celtaidd ers y 2000au.[9]
Demograffeg
golyguIaith | Enw brodorol | Dosbarth | Nifer o siaradwyr brodorol | Nifer o bobl sydd wedi caffael un neu ragor o sgiliau yn yr iaith | Prif wlad/wledydd ymhle y siaredir yr iaith | Rheolir gan/corff iaith |
---|---|---|---|---|---|---|
Cymraeg | Cymraeg | Brythonaidd | Mae 562,000 (19.0% o boblogaeth Cymru) yn dweud eu bod yn "gallu siarad Cymraeg" yn ôl cyfrifiad 2011[10][11] | Cyfanswm siaradwyr: ≈ 947,700 (2011) Cymru: 788,000 siaradwr, pob gallu (26.7% o'r boblogaeth)[10][11] Lloegr: 150,000[12] Talaith Chubut, yr Ariannin: 5,000[13] yr Unol Daleithiau: 2,500[14] Canada: 2,200[15] |
Cymru; Y Wladfa, Chubut |
— Comisiynydd yr Iaith Gymraeg — Llywodraeth Cymru (Bwrdd yr Iaith Gymraeg gynt) |
Gwyddeleg | Gaeilge | Goidelig | 40,000–80,000[16][17][18][19] Yn y Weriniaeth, mae 94,000 yn defnyddio'r Wyddeleg yn ddyddiol, y tu allan i'r byd addysg.[20] |
1,887,437 Gweriniaeth Iwerddon: 1,774,437[20] y Deyrnas Unedig: 95,000 yr Unol Daleithiau: 18,000 |
Iwerddon | Foras na Gaeilge |
Llydaweg | Brezhoneg | Brythonaidd | 226,000 (2018) | 206,000[21] | Llydaw | Ofis ar Brezhoneg |
Gaeleg | Gàidhlig | Goidelig | 58,552 yn 2001[22] yn ogystal ag amcangyfrif o 400–1000 o siaradwyr brodorol ar Ynys Cape Breton[23][24] | 92,400[25] | Yr Alban | Bòrd na Gàidhlig |
Cernyweg | Kernewek | Brythonaidd | 600[26] | 3,000[27] | Cernyw | Keskowethyans an Taves Kernewek |
Manaweg | Gaelg | Goidelig | 100,[28] gan gynnwys nifer bach o blant sydd yn siaradwyr brodorol newydd[29] | 1,700[30] | Ynys Manaw | Coonceil ny Gaelgey |
Ieithoedd cymysg
golygu- Shelteg, cymysg o'r Wyddeleg, y Saesneg a'r Romaneg (tua 86,000 o siaradwyr yn 2009).[31]
- Bungi creol, a cymysg Métisiaid o Aeleg yr Alban, y Gree ac ieithoedd eraill (bron wedi marw).[32]
- Ambell i ffurf o Romani Cymru neu Kååle wedi'i chyfuno â Romani'i hun a'r Gymraeg a'r Saesneg (marw).[33]
Celteg Ynysig
golyguRhennir yr ieithoedd Celtaidd gorllewinol, neu Ynysig, yn ddau deulu neu gangen o Gelteg Ynysig:
Goideleg
golyguMae tair iaith yn deillio o'r Goideleg, a elwir weithiau'n Gelteg Q, sef:
Brythoneg
golyguMae tair iaith yn deillio o'r Frythoneg, a elwir weithiau'n Gelteg P, sef:
Gweler hefyd:
- Cymbreg, tafodiaith gynnar o'r Frythoneg yn ardal Cumbria a'r Hen Ogledd. Mae ei statws ieithyddol - fel iaith neu dafodiaith - yn ddadleuol.
Celteg y Cyfandir
golyguRoedd Celteg y Cyfandir neu Gelteg Gyfandirol yn cynnwys sawl iaith a thafodiaith Celteg a siaredid ar gyfandir Ewrop a rhan o Asia Leiaf, yn cynnwys,
- Galateg* (iaith y Galatiaid)
- Galeg* (iaith Gâl)
- Celtibereg* (iaith rhannau o Bortiwgal a Sbaen)
- Leponteg* (iaith Gallia Cisalpina yng ngogledd Yr Eidal)
Geiriau a fenthyciwyd o'r Gelteg drwy'r Lladin i'r Saesneg
golyguBenthyciwyd:[34]
Galeg | Lladin | Saesneg |
---|---|---|
ambactos | ambactus | ambassador |
beccos | beccus | beak |
bulgā | bulga | bilge (gwaelod cwch) |
brennos | drwy'r Ffrangeg 'bren' | bran |
bragos | drwy'r Gatalaneg 'brau' | brave |
bulgā | bulga | budget |
karros | carrum, carrus | car |
crāmum | drwy'r Ffrangeg cresme | creme |
kamb | cambire | change |
ambactos | ambasciata | embassy |
glanos | glennare | to glean (casglu) |
vorēdos | verēdus / paraverēdus | palfrey (ceffyl) |
trougo | truant | truant |
wasso | vassallus | vassal (gwas) |
Rhai Geiriau Celtaidd
golyguRhifau
Cymraeg | un | dau | tri | pedwar | pump | chwech | saith | wyth | naw | deg |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Llydaweg | unan | daou | tri | pevar | pemp | c'hwec'h | seizh | eizh | nav | dek |
Gwyddeleg | aon | dó | trí | ceathair | cúig | sé | seacht | ocht | naoi | deich |
Gaeleg yr Alban | aon | dà | trì | ceithir | còig | sia | seachd | ochd | naoi | deich |
Lliwiau
Cymraeg | lliw | du | glas | brown | gwyrdd | llwyd | oren | coch | gwyn | melyn |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Llydaweg | liv | du | glas | gell | gwer | louet | liv-orañjez | ruz | gwenn | melen |
Gwyddeleg | dath | dubh | gorm | donn | uaine, glas | liath, glas | oráiste, flann-bhui | dearg | bán | buí |
Gaeleg yr Alban | dath | dubh | gorm | donn | uaine | glas, liath | orains | dearg | geal | buidhe |
Anifeiliaid
Cymraeg | arth | cath | buwch | ci | gafr | ceffyl | llygoden | dafad | blaidd | pysgodyn |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Llydaweg | arzh | kazh | buoc'h | ki | gavr | marc'h | logodenn | dañvad | bleiz | pesk |
Gwyddeleg | béar | cat | bó | madra, madadh, gadhar, cú | gabhar | capall, each | luch | caora | mac-tíre | iasc |
Gaeleg yr Alban | mathan | cat | bò, mart | cù, madadh | gobhar | each | luch | caora | madadh-allaidh | iasc |
Rhagenwau
Cymraeg | fi, i | ti | fe, e | hi | ni | chi | nhw |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Llydaweg | me | te | eñ | hi | ni | c'hwi | int |
Gwyddeleg | mé | tú | sé, é | sí, í | muid, sinn | sibh | iad |
Gaeleg yr Alban | mi | thu | e | i | sinn | sibh | iad |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cunliffe, Barry W. 2003. The Celts: a very short introduction. tud.48
- ↑ "Language by State - Scottish Gaelic" Archifwyd 2012-01-11 yn y Peiriant Wayback ar wefan Modern Language Association. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
- ↑ "Languages Spoken At Home" o wefan Llywodraeth Awstralia Office of Multicultural Interests. Adalwyd 27 Rhagfyr 2007
- ↑ Languages Spoken:Total Responses o wefan Statistics New Zealand. Adalwyd 5 Awst 2008
- ↑ Koch, John T. (2006). Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (yn en). ABC-CLIO, tud. 34, 365–366, 529, 973, 1053. URL
- ↑ (Saesneg) A brief history of the Cornish language. Maga Kernow.
- ↑ Beresford Ellis, Peter (1990, 1998, 2005). The Story of the Cornish Language (yn en). Tor Mark Press, tud. 20–22. ISBN 0-85025-371-3
- ↑ 'South West:TeachingEnglish:British Council:BBC (en) , BBC/British Council website, BBC. Cyrchwyd ar 9 Chwefror 2010.
- ↑ (Saesneg) Celtic Languages. Ethnologue.
- ↑ 10.0 10.1 "Welsh language skills by local authority, gender and detailed age groups, 2011 Census". Gwefan StatsWales. Llywodraeth Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2015.
- ↑ 11.0 11.1 "Office for National Statistics 2011". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2013.
- ↑ United Nations High Commissioner for Refugees. "World Directory of Minorities and Indigenous Peoples – UK: Welsh". UNHCR. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mai 2011. Cyrchwyd 23 Mai 2010.
- ↑ "Wales and Argentina". Wales.com website. Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2012. Cyrchwyd 23 Ionawr 2012.
- ↑ "Table 1. Detailed Languages Spoken at Home and Ability to Speak English for the Population 5 Years and Over for the United States: 2006–2008 Release Date: April 2010" (xls). United States Census Bureau. 27 Ebrill 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Medi 2014. Cyrchwyd 2 Ionawr 2011.
- ↑ "2006 Census of Canada: Topic based tabulations: Various Languages Spoken (147), Age Groups (17A) and Sex (3) for the Population of Canada, Provinces, Territories, Census Metropolitan Areas and Census Agglomerations, 2006 Census – 20% Sample Data". Statistics Canada. 7 Rhagfyr 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Awst 2011. Cyrchwyd 3 Ionawr 2011.
- ↑ "| Irish Examiner". Archives.tcm.ie. 2004-11-24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-01-19. Cyrchwyd 2011-08-19.
- ↑ Christina Bratt Paulston. Linguistic Minorities in Multilingual Settings: Implications for Language Policies. J. Benjamins Pub. Co. t. 81. ISBN 1-55619-347-5.
- ↑ Pierce, David (2000). Irish Writing in the Twentieth Century. Cork University Press. t. 1140. ISBN 1-85918-208-9.
- ↑ Ó hÉallaithe, Donncha (1999). Cuisle.
- ↑ 20.0 20.1 Central Statistics Office, 'Census 2011 - This is Ireland - see table 33a'www.cso.ie
- ↑ (Ffrangeg) Données clés sur breton, Ofis ar Brezhoneg
- ↑ "UNESCO Atlas of the World's Languages in Danger, 2010". Unesco.org. Cyrchwyd 2011-08-19.
- ↑ "CHIN/RCIP – Festivities". Virtualmuseum.ca. 1999-04-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-16. Cyrchwyd 2011-08-19.
- ↑ "de beste bron van informatie over highlandclearances. Deze website is te koop!". highlandclearances.info. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-12. Cyrchwyd 2011-08-19.
- ↑ "Mixed report on Gaelic language". BBC News. 2005-10-10. Cyrchwyd 2011-08-19.
- ↑ mae rhyw 600 o blant yn siaradwyr brodorol dwyieithog (amcangyfrif 2003, SIL Ethnologue).
- ↑ Tua 2,000 o siaradwyr rhugl."'South West:TeachingEnglish:British Council:BBC". BBC/British Council website. BBC. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-08. Cyrchwyd 2010-02-09.
- ↑ "Anyone here speak Jersey?". Independent.co.uk. 2002-04-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-20. Cyrchwyd 2011-08-19.
- ↑ "Documentation for ISO 639 identifier: glv". Sil.org. 2008-01-14. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-28. Cyrchwyd 2011-08-19.
- ↑ "2006 Official Census, Isle of Man". Gov.im. 2006-04-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-29. Cyrchwyd 2011-08-19.
- ↑ Shelta. Ethnologue.
- ↑ Bakker a Grant, Peter a P. (2006). Atlas of Languages of intercultural communication in the Pacific, Asia, and the Americas. "Interethnic Communication in Canada, Alaska, and adjacent areas". Saskatoon, Canada: Gabriel Dumont Institute. ISBN 0920915809. URL
- ↑ "ROMLEX: Romani dialects". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-28. Cyrchwyd 2011-04-28.
- ↑ www.eupedia.com; adalwyd 19 Ionawr 2015
v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |