Fforwm Economaidd y Byd
Sefydliad anllywodraethol rhyngwladol yw Fforwm Economaidd y Byd sydd yn cynnal cyfarfod blynyddol, fel arfer yn Davos, cyrchfan iechyd a sgïo yng Nghanton y Grisons, y Swistir, ym mis Ionawr. Yno bydd nifer o wleidyddion, pobl fusnes, llunwyr polisi, academyddion, undebwyr llafur, dyngarwyr, a phenaethiaid sefydliadau anllywodraethol blaena'r byd yn ymgynnull i drafod materion rhyngwladol, yn bennaf masnach ryngwladol a datblygu economaidd ond hefyd pynciau gwleidyddol a chymdeithasol. Lleolir pencadlys yr WEF ei hun yn Cologny, Canton Genefa.
Math o gyfryngau | sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Ionawr 1971, 1971 |
Sylfaenydd | Klaus Schwab |
Aelod o'r canlynol | Coalition for Epidemic Preparedness Innovations |
Gweithwyr | 550 |
Ffurf gyfreithiol | foundation |
Pencadlys | Cologny |
Enw brodorol | World Economic Forum |
Gwefan | https://www.weforum.org/, https://es.weforum.org/, https://cn.weforum.org/, https://jp.weforum.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ym 1971 trefnwyd cynhadledd i bobl fusnes Ewropeaidd, a oedd yn bwriadu cystadlu â chwmnïau Americanaidd, gan Klaus Schwab, athro ym Mhrifysgol Genefa. Yn sgil llwyddiant y gynhadledd, sefydlodd Schwab y Fforwm Rheolaeth Ewropeaidd er mwyn hyrwyddo cyfarfodydd economaidd blynyddol yn Davos, cyrchfan fynyddig a ddewiswyd er preifatrwydd. Yn ddiweddarach ychwanegwyd materion gwleidyddol a chymdeithasol at agenda'r fforwm, ac ym 1976 gwahoddwyd i gynrychiolwyr o'r mil o gwmnïau mwyaf y byd fynychu'r cyfarfodydd blynyddol.[1]
Mabwysiadwyd yr enw Fforwm Economaidd y Byd ym 1987 i gwmpasu'r holl faterion rhyngwladol a drafodwyd yn ystod y cynadleddau, gan gynnwys tlodi, yr amgylchedd, a rhyfel.[1] Un o lwyddiannau'r WEF oedd y cytundeb anymosod a arwyddwyd gan Andreas Papandreou, Prif Weinidog Groeg, a Turgut Özal, Prif Weinidog Twrci, yn Davos ym 1988 er mwyn lleihau'r tensiynau rhwng y ddwy wlad. Yn Davos hefyd bu'r cyfarfod cyntaf rhwng gweinidogion o lywodraethau Gogledd Corea a De Corea ym 1989, y cyfarfod cyntaf rhwng Nelson Mandela, Llywydd yr ANC, ac F. W. de Klerk, Arlywydd De Affrica, ym 1992, a'r sesiwn i ddrafftio Cytundeb Gaza–Jericho ac felly sefydlu Awdurdod Cenedlaethol Palesteina ym 1994.
Yn niwedd y 1990au daeth yr WEF yn elyn i'r mudiad gwrth-globaleiddio, a chyhuddwyd y fforwm o ddifreinio gwledydd datblygol drwy hyrwyddo cyfalafiaeth a neo-ryddfrydiaeth fyd-eang. Gwrthwynebwyd yr WEF hefyd fel clwb yr elît, a bathwyd y term difrïol "Dyn Davos" gan y gwyddonydd gwleidyddol Samuel P. Huntington. Yn sgil protestiadau mawr yn erbyn yr WEF yn 2003, cyflwynwyd Fforwm Agored Davos i'w gynnal ar y cyd â'r brif gynhadledd, a gwahoddwyd mwy o sefydliadau anllywodraethol a gwledydd datblygol i Davos.
Yn ogystal â'r gynhadledd flynyddol yn Davos, mae'r WEF yn gweithio fel melin drafod ac yn lobïo dros ei argymhellion polisi. Lansiwyd sawl ymgyrch byd-eang gan yr WEF, gan gynnwys y Fenter Iechyd Byd-eang yn 2002 a chynllun yr Ailosodiad Mawr yn 2020.[2] Cyhoeddwyd nifer o adroddiadau ymchwil gan yr WEF.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) World Economic Forum. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Gorffennaf 2021.
- ↑ "What we know about the Wuhan coronavirus and urgent plans to develop a vaccine for it". World Economic Forum (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Medi 2020.