Albert Evans-Jones
Bardd, dramodydd ac eisteddfodwr o fri oedd Albert Evans-Jones, sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Cynan (14 Ebrill 1895 – 26 Ionawr 1970).
Albert Evans-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ebrill 1895 Pwllheli |
Bu farw | 26 Ionawr 1970 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor |
Bywyd Cynnar
golyguCafodd Cynan ei eni ym Mhwllheli, yn fab i Richard Albert Jones a Hannah Jane (née Evans) roedd ei dad yn berchennog bwyty yn y dre. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, lle graddiodd yn 1916[1]
Rhyfel Byd Cyntaf
golyguAr ôl graddio ymunodd Cynan â Chwmni Cymreig y Corfflu Meddygol gan wasanaethu yn Salonica a Ffrainc, yn wreiddiol fel dyn ambiwlans ac yna fel caplan y cwmni.[2] Cafodd ei brofiadau o ryfel effaith dwys ar ei ganu, i'r fath raddau fod Alan Llwyd yn honni mai Cynan, nid Hedd Wyn yw prif fardd rhyfel Cymru o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Canodd Hedd Wyn ei gerddi sydd yn ymwneud â'r rhyfel cyn iddo ymrestru, a bu farw yn y gyflafan cyn iddo gael cyfle i ganu am ei brofiadau fel milwr, ond gan Gynan y ceir y disgrifiadau mwyaf cignoeth o erchyllterau'r Rhyfel, ac effaith rhyfela ar gorff yn ogystal ag ysbryd dyn.[3]
O Dduw, a rhaid im gofio sawr
Y fan lle rhedai'r llygod mawr -
A bysedd glas y pethau mud
A glic eu gynnau bron i gyd?
Gyrfa ar ôl y Rhyfel
golyguWedi dod o'r fyddin aeth Cynan i Goleg y Bala i hyfforddi ar gyfer weinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd. Ordeiniwyd ef ym Mhenmaenmawr Sir Gaernarfon ym 1920 lle bu'n gwasanaethu fel gweinidog hyd 1931. Rhoddodd y gorau i'w alwad ym 1931 a chafodd ei benodi'n diwtor yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru yn arbenigo mewn Drama a Llenyddiaeth Cymru. Er iddo roi'r gorau i'r weinidogaeth parhaodd Cynan i bregethu yn rheolaidd, ac roedd yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd ym mhulpudau anghydffurfiol Cymru.
Trwy gydol ei gyfnod yn gweithio yn y Brifysgol bu Cynan yn byw ym Mhorthaethwy Sir Fôn, ond yn ei gerdd fwyaf poblogaidd mae o'n mynegi dymuniad i ymddeol i Aberdaron:[4]
Pan fwyf yn hen a pharchus
Ac arian yn fy nghod,
A phob beirniadaeth drosodd
A phawb yn canu 'nghlod
Mi brynaf fwthyn unig
Heb ddim o flaen y ddôr.
Ond creigiau Aberdaron
A thonnau Gwyllt y Môr
Byd y Ddrama
golyguYn ogystal â bod yn un o feirdd a llenorion pwysicaf Cymru ei gyfnod, gwnaed cyfraniad enfawr i fyd y ddrama gan Cynan hefyd. Ysgrifennodd dwy ddrama hir: Hywel Harris a enillodd prif wobr yr Eisteddfod ar gyfer drama ym 1931. Ym 1957 fe'i comisiynwyd i ysgrifennu drama ar gyfer ei berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol sef Absalom Fy Mab. Addasodd ddwy ddrama o'r Saesneg, Lili'r Grog ( John Masefield ), a Hen ŵr y mynydd ( Norman Nicholson ), a berfformiwyd gyntaf ar daith gan gwmni'r Genhinen ym 1949, a Cynan ei hun yn gyfarwyddwr.
Sensor
golyguYm 1931 fe'i penodwyd yn ddarllenydd dramâu Cymraeg ar ran yr Arglwydd Siambrlen er mwyn sicrhau bod dramâu Cymraeg yn gadw at ofynion y deddfau sensoriaeth, parhaodd yn y swydd nes diddymu'r deddfau sensoriaeth ym 1968.[5] Roedd yn cael ei ystyried yn sensor rhyddfrydol, er enghraifft fe wnaeth ganiatáu perfformio drama James Kitchener Davies Cwm y Glo, er iddo gael ei feirniadu am fod mor fasweddus fel na ddylid byth mo'i pherfformio pan enillodd wobr drama Eisteddfod Castell Nedd ym 1934.[6]
Yn ystod cyfnod Cynan fel Sensor, cyhoeddodd Cylchgrawn Lol, yn rhifyn Eisteddfod y Bala 1967, llun o ferch bronnoeth gyda'r geiriau "Bu Cynan Yma" mewn baner dros ei bronnau. Roedd yn jôc fwys: a oedd Cynan wedi sensro'r llun neu wedi bod "yno" yn ymyrryd a bronnau'r ferch? Gan nad oedd naill na'r llall o ddarlleniadau'r mwys yn wir wnaeth Cynan fygwth mynd i gyfraith yn erbyn y cyhoeddwyr am enllib. Setlwyd yr achos gan Robyn Léwis ar ran y cyhoeddwyr trwy gytundeb i roi iawndal i Cynan. Achos a sefydlodd Lol fel un o brif gyhoeddiadau sydd ar werth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers hynny.[7]. Effaith Cynan yn hŷn o lawer nag Effaith Streisand !
Radio a theledu
golyguFe wnaeth Cynan lawer o ymddangosiadau ar y radio a'r teledu ac ef oedd testun y rhaglen deledu lliw a darlledwyd cyntaf yn yr Iaith Cymraeg Llanc o Lŷn.[8]
Yr Eisteddfod Genedlaethol
golyguMae Cynan yn cael ei gofio yn bennaf am ei gyfraniad enfawr i'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n Archdderwydd ddwywaith, yr unig berson i gael ei ethol i'r swydd am ail dymor. Ei ddau dymor oedd o 1950 hyd 1954 ac o 1963 hyd 1966. Roedd yn Gofiadur yr Orsedd yn 1935, ac yn gyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937. Ef oedd yr Archdderwydd cyntaf i dderbyn yn gyhoeddus mai dyfais Iolo Morgannwg oedd yr orsedd ac nad oedd ganddo unrhyw gysylltiadau â derwyddiaeth hynafol. Drwy wneud hyn fe leihaodd y rhwyg a oedd yn bodoli rhwng yr Eisteddfod a rhai yn y byd eglwysig ac academaidd.
Cynan oedd yn gyfrifol am gynllunio seremonïau modern Coroni a Chadeirio'r Bardd yn yr Eisteddfod fel y maent yn cael eu perfformio heddiw, gan greu seremonïau, a oedd, yn ei dyb ef yn adlewyrchu ysbryd y genedl.
Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921 gyda'r gerdd "Mab y Bwthyn", ac eilwaith yn yr Wyddgrug 1923 gyda "Yr Ynys Unig". Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pont-y-pwl 1924 am ei gerdd "I'r Duw nid Adwaenir", ond nid awdl ar y pedwar mesur ar hugain traddodiadol ydoedd; yn hytrach, mesur y tri-thrawiad, sef mesur a ddyfeiswyd gan brydyddion y canu rhydd (1550 o leia).[9] Enillodd drydedd coron yn Eisteddfod Bangor yn 1931 am ei gerdd "Y Dyrfa" sydd yn trafod gêm rygbi.
Anrhydeddau
golyguDyfarnwyd gradd D. Lit er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1961.
Dyfarnwyd iddo ryddfraint bwrdeistref Pwllheli ym 1963.
Cafodd y CBE ym 1949, a'i urddo'n farchog yn 1969 (Fel Syr Cynan Evans Jones yn hytrach na Syr Albert Evans Jones.)
Priodas Marwolaeth Claddedigaeth
golyguBu Cynan yn briod ddwywaith: yn gyntaf i Ellen J. Jones o Bwllheli ym 1921 a chawsant un mab ac un ferch, bu Ellen farw yn 1962. Ym 1963 priododd Menna Meirion Jones o'r Fali, Ynys Môn.[10] Bu farw Cynan ar 26 Ionawr 1970 a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Sant Tysilio, Ynys Môn.
Llyfryddiaeth
golygu- Cynan, Absalom Fy Mab (Lerpwl, 1957).
- Cynan (gol. y gyfres), Tegwyn Jones, Adlais o’r hen wrthryfel, (Llanrwst, 1999).
- J. T. Williams (deth.), Cynan gyda atgofion George M. Ll. Davies, Yr Ail Bistyll (Caernarfon, 1922).
- Cynan, ‘Ail Gafodd-o’, Lleufer, cyfrol 11, rhif 3 (Hydref 1955), tt. 107–118.
- Cynan, ‘Atgofion Cynan am Hedd Wyn’, Ford Gron, cyfrol 2, rhif 7 (Mai 1932), tt. 149, 170.
- Cynan, ‘Atgyfodi Twm Nant’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 1 (Haf 1968), tt. 31–33.
- Cynan, ‘Bwgan y farddoniaeth “anfoesol”’, Ford Gron, cyfrol 1, rhif 10 (Awst 1931), t. 11.
- Cynan, Caniadau Cynan (Llundain, 1927).
- Cynan, Cerddi Cynan (Lerpwl, 1959).
- Cynan, ‘Cydnabod’, Lleufer, cyfrol 12, rhif 3 (Hydref 1956), tt. 107–112.
- Cynan, Cynan: Llyfr lliwio i ddathlu canmlwyddiant geni un o brif feirdd Cymru (Pwllheli, 1995).
- Cynan, ‘Cynhyrchu Pasiant Cenedlaethol y Cadeirio a’r Coroni’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 3 (Haf 1969), tt. 11–14.
- Cynan, J. Williams Hughes, J. Ellis Williams, D. Tecwyn Evans, G. Hartwell Jones, ‘Y Ddrama a’r Pulpud’, Ford Gron, cyfrol 1, rhif 4 (Chwefror 1931), tt. 20 a 22.
- Cynan, ‘Y Ddrama yng Nghymru’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (1971), tt. 25–26.
- Cynan, ‘Dysgu Barddoni’, Lleufer, cyfrol 18, rhif 3 (Hydref 1962), tt. 107–114.
- Cynan, ‘Englyn clasur Gruffydd ap Siôn Phylip uwch cist ei dad’, Lleufer, cyfrol 20, rhif 2 (Haf 1964) tt. 71–72.
- Cynan, Ffarwel Weledig (Lerpwl, 1946).
- Cynan, Hywel Harris: Drama Bedair Act (Wrecsam, 1932).
- Cynan, John Huws Drws Nesa (Aberystwyth, 1950). [Cyfaddasiad o’r stori ‘Mr Sampson’ gan Charles Lee]
- Cynan, ‘Tir Ango’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 10 (Awst, 1934), tt. 237–240.
- Cynan, Lili’r Grog (Aberystwyth, 1936). [Cyfaddasiad o John Mansfield, ‘Good Friday’.]
- Cynan, Mr. Smart (Aberystwyth, 1950).
- Cynan, ‘O Berthynas i’r Eisteddfod’, Lleufer, cyfrol 7, rhif 4 (Gaeaf 1951), tt. 162–168.
- Cynan, Hen Ŵr y Mynydd (Llandybïe, 1949).
- Cynan, ‘Pan oeddwn i’n fachgen’, Lleufer, cyfrol 6, rhif 4 (Gaeaf 1950), tt. 161–168.
- Cynan, Pasiant y Newyddion Da (Caernarfon, 1929).
- Cynan, Y Sêr yn eu Graddau (Aberystwyth, 1950). [Drama un act]
- Cynan, ‘Stribedu Ffilm’, Lleufer, cyfrol 14, rhif 3 (Hydref 1958), tt. 129–30.
- Cynan, ‘Tad Beirdd Eryri: Dafydd Tomos (“Dafydd Ddu Eryri”) 1759–1822’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion (1969, Rhan 1)/Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1969, Part 1) (Llundain, 1970), tt. 7–23
- Cynan, Y Tannau Coll (Caernarfon, 1922).
- Cynan, Telyn y Nos (Caerdydd, 1921).
- Cynan, ‘Fel hyn rwy’n ei gweld hi’, Barddas, rhif 284 (Awst/Medi/Hydref, 2005), tt. 60–61.
- Cynan, ‘Y Goeden Eirin’, Lleufer, cyfrol 3, rhif 2 (Haf 1947), tt. 64–68.
- Thomas Parry, Hanes yr Eisteddfod, a Cynan, Eisteddfod Genedlaethol a’r Orsedd Heddiw, (Lerpwl, D.D). [1960au]
Astudiaethau
golygu- J. T. Jones, "Oedd Madam Gruffydd yn caru Hywel Harris?", Ford Gron, cyfrol 1, rhif 11 (Medi 1931), tt. 5–6
- Rhys Puw, "Perfformiad cyntaf Hywel Harris", Ford Gron, cyfrol 2, rhif 7 (Mai 1932), t. 153
- Gwyndaf, "Cynan a Gorsedd y Beirdd", Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 2–4
- Ernest Roberts, "Y Gweinyddwr", Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (ca. 1971), t. 5
- William Morris, "Y Cerddi Eisteddfodol", Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 7–9
- Huw Davies, "Yr Hogyn o Bwllheli", Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 10–11
- Alun Llywelyn-Williams, "Y Bardd", Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 12–14
- Richard Jones, "Yr Athro", Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 16–18
- Eric Wynne Roberts, "Yr actor a’r cynhyrchydd", Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 ([ca. 1971]), tt. 22–23
- Bedwyr Lewis Jones, "Y Beirniad", Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 28–29 a 32
- Dafydd Owen, Cynan, Cyfres Writers of Wales (1979)
- Bedwyr Lewis Jones, Cynan: Y llanc o dref Pwllheli (Pwllheli, 1981)
- Ifor Rees (gol.), Bro a Bywyd: Syr Cynan Evans-Jones 1895-1970 (Cyhoeddiadau Barddas, 1982)
- J. T. Jones (John Tudur), "Cynan a’i waith", Taliesin, cyfrol 52 (1985), tt. 90–97
- Gilbert Ruddock, "Yr Ysgol Farddol", Barddas, rhif 110 (Mehefin, 1986), tt. 11–12
- Bedwyr Lewis Jones, "P’run oedd capel bach gwyngalchog Cynan?", Barddas, rhif 120 (Ebrill 1987), tt. 1–2
- Dafydd Owen, "Tair Cerdd Cynan (OBWV rhifau 290, 291, 292)", Barn, rhif 236 (Tachwedd 1991), tt. 23–24
- Gerwyn Wiliams, "Rhamant Realaidd Cynan", Taliesin, rhif 76 (Mawrth 1992), tt. 105–112
- Huw Williams, "Cerdd yn y cof: sôn, am gerdd ac athro arbennig", Lleufer Newydd 3 (1993), t. 24
- Wyn Hobson, "Un llinell, un prynhawn", Barddas, rhif 207/208, (Gorffennaf/Awst, 1994), tt. 39–43
- Robyn Lewis, "Cynan: 'un o hogia’r dre'", Barn, rhif 388 (Mai 1995), tt. 26–27
- Ifor Rees (gol.), Dŵr o Ffynnon Felin Bach: Cyfrol i Goffau Canmlwyddiant Geni Cynan (Dinbych, 1995)
- Alan Llwyd, "Golygyddol", Barddas, rhif 251, (Mawrth/Ebrill, 1999), tt. 4–12
- Selwyn Iolen (Selwyn Griffith), "Colofn yr Archdderwydd", Yr Enfys (Gwanwyn 2007), t. 25
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur ar-lein
- ↑ Breuddwyd Cymro Mewn Dillad Benthyg RR Williams Gwasg y Brython 1964
- ↑ Gwaedd y Bechgyn; Gol Alan Llwyd & Elwyn Edwards Cyhoeddiadau Barddas 1989
- ↑ Hoff Gerddi Cymru, Gol:Di-enw, Gwasg Gomer 2000
- ↑ Williams, Gerwyn (Hydref 2013). Y Sgets a Gadd ei Gwrthod, Rhifyn 609. Barn
- ↑ [1] Ail godi nyth cacwn
- ↑ Tipyn o Lol BBC Cymru Fyw adalwyd 5 Awst 2020
- ↑ Cynan
- ↑ Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf. 16, rh. 1, Haf 1969 CAROL AR Y MESUR TRI THRAWIAD GAN GWILYM PUE O'R PENRHYN (C.1618-C.1689) Buchedd Gwenn Frewu Santes (N.L.W. 4710, t. 317-323) adalwyd 24 Mai 2017.
- ↑ Parry, T., (1997). JONES, Syr CYNAN (ALBERT) EVANS (‘Cynan’; 1895 - 1970), bardd, dramodwr ac eisteddfodwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Awst 2020