Mae angen eich doniau ar gyfer gwell rhyngrwyd
Mae Mozilla yn sefydliad nid-er-elw sy'n gweithio i sicrhau bod y rhyngrwyd yn agored ac yn groesawgar i bawb. Mae angen eich help arnom ni. Trwy ymuno â'n cymuned, gallwch chi helpu i yrru arloesedd, gwella atebolrwydd ac ymddiriedaeth a gwneud y rhyngrwyd yn lle gwell i bawb.
Sut y gallwch chi gyfrannu…
Cyfieithu cynnwys
Mae'r rhyngrwyd yn fyd-eang dim ond os yw'n cael ei ddeall ym mhobman. Helpwch ni i gyfieithu cynnyrch a gwefannau Mozilla i'ch iaith leol.
Cyfrannu at god sail Mozilla
Gwella cynnyrch Mozilla trwy gyfrannu at amrywiaeth o gyfleoedd datblygu.
Trefnu ar gyfer unigolion a digwyddiadau
Helpwch i wneud cynnyrch Mozilla yn hawdd i'w defnyddio. Ateb cwestiynau “cymorth” pobl fel rhan o fforymau Cymuned Cymorth Mozilla.
Ymuno â'r gymuned
Eisiau cymryd mwy o ran yng nghymuned Mozilla? Edrychwch ar yr holl gyfleoedd gwirfoddoli yn ein Porth Cymunedol.
Ein Cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw sicrhau fod y rhyngrwyd yn adnodd cyhoeddus byd-eang, yn agored ac ar gael i bawb. Rhyngrwyd sy'n wir yn gosod pobl yn gyntaf, lle gall unigolion siapio'u profiadau eu hunain ac sydd wedi eu hymrymuso, yn ddiogel ac yn annibynnol.
Wedi'i wneud gan bobl angerddol fel chi
Pan fyddwch yn cyfrannu at Mozilla, rydych chi'n dod yn rhan o gymuned fyd-eang sy'n cynnwys pobl o bob cwr o'r byd sy'n credu bod gan bob un ohonom rôl i sicrhau bod y rhyngrwyd yn parhau i fod yn rym er daioni.
Rydym yn credu fod cydweithredu cymunedol yn hanfodol i greu rhyngrwyd sy'n amrywiol, yn arloesol ac yn atebol i'r bobl sydd ei angen fwyaf. P'un a oes gennych gefndir mewn technoleg, trefnu cymunedol, neu ddim ond cyfrifiadur a rhywfaint o amser rhydd, gallwch ein helpu i wneud y rhyngrwyd yn lle gwell.