70 mlynedd o'r wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed eleni.
Doedd dim prinder cystadleuwyr ar gyfer gwobr 2024, ond y seiclwr trac Emma Finucane gipiodd y wobr am yr ail flwyddyn yn olynol.
Roedd yna hefyd wobr Tîm y Flwyddyn i dîm pêl-droed merched Cymru, a fydd yn ymddangos mewn twrnamaint mawr am y tro cyntaf yr haf nesaf ar ôl sicrhau safle yn Ewro 2025 yn ymgyrch gyntaf Rhian Wilkinson fel prif hyfforddwr.
Dyma rai o uchafbwyntiau'r wobr dros y 70 mlynedd diwethaf.
Deg enillydd lluosog a record newydd yn 2024
Mae cyfanswm o 55 o athletwyr wedi ennill y wobr ers ei sefydlu yn 1954, ond dim ond 10 sydd wedi ei hennill fwy nag unwaith.
Mae Colin Jackson, Joe Calzaghe, Tanni Grey-Thompson, Ian Woosnam a Howard Winstone i gyd wedi cael eu coroni yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru ar dri achlysur.
Geraint Thomas, Jade Jones, Ryan Giggs, Lynn Davies a nawr Finucane yw'r lleill i hawlio'r teitl sawl gwaith – gyda'r pump yn gwneud hynny ddwywaith yn eu gyrfaoedd.
Cyn-asgellwr Manchester United a Chymru, Giggs, sy'n dal y record am y bwlch hiraf rhwng hawlio'r teitl. Fe gafodd ei anrhydeddu â'r teitl yn 1996 ac yna eto yn 2009.
Cyn-bencampwr bocsio'r byd, Joe Calzaghe a'r golffiwr Ian Woosnam a gafodd ei dderbyn i Oriel Anfarwolion y byd golff, oedd yr unig enillwyr i gadw'r teitl cyn eleni.
Gwnaeth Calzaghe hynny yn 2007 ar ôl uno'r adran pwysau canol uwch trwy guro Mikkel Kessler o flaen mwy na 50,000 o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd.
Ac yntau eisoes wedi ennill y wobr yn 1987, aeth Woosnam gefn-wrth-gefn yn 1990 a 1991 wrth iddo ennill teitl y Meistri a dod yn rhif un y byd - y teitl olaf a ddaliodd am 50 wythnos.
Ond mae wedi bod yn flwyddyn ragorol i Emma Finucane o Gaerfyrddin. Hi yw'r fenyw gyntaf i gadw'r wobr, a dim ond y trydydd athletwr i wneud hynny. Ymysg ei llwyddiannau dros y flwyddyn mae ennill y ras wib unigol ym Mhencampwriaeth Trac y Byd.
Roedd hi hefyd yn rhan o'r triawd a enillodd fedal aur yn y ras wib i dimau a dwy fedal efydd yn y Gemau Olympaidd ym Mharis ym mis Awst.
Yr arloeswyr a shifft ar ôl y mileniwm
Ken Jones, enillydd cyntaf Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru pan gafodd ei sefydlu yn 1954, yw'r unig enillydd i ymddangos mewn dwy ddisgyblaeth wahanol yn ei yrfa.
Mae Jones, o Flaenafon, yn cael ei gofio gan y mwyafrif fel y chwaraewr sgoriodd y cais hollbwysig a helpodd Cymru i guro Seland Newydd 13-8 ar Barc yr Arfau Caerdydd yn 1953.
Roedd gyrfa clwb yr asgellwr yn cynnwys 145 cais mewn 293 o gemau. Enillodd 44 cap i Gymru rhwng 1947-55.
Ond cafodd Jones yrfa ryfeddol i ffwrdd o'r cae rygbi hefyd.
Bu'n gapten ar dîm trac a maes Prydain ym Mhencampwriaethau Ewrop 1954 gan ennill arian yn y ras gyfnewid sbrint.
Roedd Jones hefyd yn enillydd medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad 1954 a daliodd bedair record sbrintio Cymreig ac 17 teitl domestig.
Dros dri degawd ar ôl i Jones ennill y wobr gyntaf, daeth y rhedwraig pellter canol Kirsty Wade yn Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru - y fenyw gyntaf i wneud.
Enillodd fedal aur Gemau'r Gymanwlad deirgwaith gan ennill y ras 800m yn Brisbane yn 1982, a'r ras 800m a'r 1500m yng Nghaeredin yn 1986.
Chwe blynedd ar ôl buddugoliaeth Wade yn 1992, aeth gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru i Tanni Grey-Thompson - dim ond Tanni Grey bryd hynny - yr ail fenyw i dderbyn y teitl.
Wrth wneud hynny, Grey-Thompson oedd y Para-athletwr cyntaf i ennill y wobr ar ôl cael ei chydnabod ochr yn ochr â chystadleuwyr abl.
Mae ei buddugoliaethau pellach yn 2000 a 2004 yn golygu bod y rasiwr cadair olwyn Grey-Thompson wedi ennill y teitl fwy o weithiau nag unrhyw fenyw arall.
Cipiodd y gyn-bencampwraig seiclo Olympaidd Nicole Cooke y teitl yn 2003. Y flwyddyn honno hi oedd yr enillydd ieuengaf erioed yng Nghwpan y Byd seiclo i ferched, a hithau ond yn 20 oed.
Pedwar athletwr sy'n rhannu'r record o ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru a'r wobr Brydeinig yn yr un flwyddyn.
Cyflawnodd y golffiwr chwedlonol Dai Rees y gamp yn 1957, gyda Joe Calzaghe (2007), Ryan Giggs (2009) a Geraint Thomas (2018) hefyd yn gwneud y dwbl yn yr un flwyddyn.
- Cyhoeddwyd3 Medi 2024
Cymysg o ddisgyblaethau, gydag un ffefryn amlwg
Mae'r 70 enillydd hyd yn hyn (cafodd gwobr 2020 ei chanslo oherwydd y pandemig) yn dod o 16 camp gwahanol.
Ond rygbi'r undeb sydd wedi cynhyrchu'r nifer fwyaf o enillwyr o unrhyw gamp yng Nghymru. Mae'r wobr wedi mynd i chwaraewr rygbi'r undeb ar 14 achlysur, gan gynnwys i John Dawes yn 1971 a Mervyn Davies yn 1976.
Mae bocsio wedi cynhyrchu 12 enillydd, 11 wedi dod o fyd athletau a phara-athletau, tra bod 10 enillydd wedi bod yn bêl-droedwyr.
Mae'r wobr wedi mynd i chwaraewr o'r campau yma fwy nag unwaith: golff (6 o weithiau), seiclo (5 o weithiau), rasio cadair olwyn (3) a taekwondo (2).
Mae nofio, snwcer, criced, neidio sioe, cerdded mewn rasys, marathon a rasio beiciau modur i gyd wedi cynhyrchu un enillydd yr un.