William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn | |
---|---|
Ffugenw | Williams Pantycelyn |
Ganwyd | 11 Chwefror 1717 Llanfair-ar-y-bryn |
Bu farw | 11 Ionawr 1791 Pantycelyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, bardd, emynydd, pregethwr, gweinidog yr Efengyl |
Prif ddylanwad | Howel Harris |
Bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd William Williams (tua 11 Chwefror 1717 – 11 Ionawr 1791), neu (Williams) Pantycelyn. Roedd yn frodor o blwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Mae'n cael ei adnabod fel "Pantycelyn" ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger Pentre Tŷ-gwyn.
Ei fywyd
[golygu | golygu cod]Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.
-
Ffermdy Pantycelyn, Llanfair-ar-y-bryn
-
Carreg fedd William Williams, Pantycelyn
Ei waith
[golygu | golygu cod]Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Cyhoeddodd gyfres o gasgliadau o emynau, dwy gerdd hir uchelgeisiol, sef 'Golwg ar Deyrnas Crist' a 'Bywyd a Marwolaeth Theomemphus' ynghyd â nofer o lyfrau rhyddiaith, cyfieithiadau a marwnadau. Daethpwyd i'w adnabod wrth enw'r fferm a fu'n gartref iddo, 'Pantycelyn' ond fe'i hadnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Mae'r enw hwn yn seiliedig ar y cyfeiriad at Dafydd y salmydd yn y Beibl fel 'peraidd ganiedydd Israel'. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau Bread of Heaven, feed me now and evermore, ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Llyfrau Pantycelyn
[golygu | golygu cod]- Aleluia (1742-49)
- Caniadau y rhai sydd ar y Môr o Wydr (1762)
- Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau (1763-69)
- Gloria in Excelsis (1771-72)
- Golwg ar Deyrnas Crist (1756)
- Bywyd a Marwolaeth Theomemphus (1764)
- Pantheologia, neu hanes holl grefyddau'r byd (1762)
- Crododil Afon yr Aifft (1767)
- Hanes Bywyd a Marwolaeth Tri Wyr o Sodom a'r Aifft (1768)
- Drws y Society Profiad (1777)
- Cyfarwyddwr Priodas (1777)
- Rhai Hymnau Newyddion (1782)
- Gwaith Prydyddawl y diweddar Barchedig William Williams golygwyd gan John Williams, Pantycelyn (Caerfyrddin: Jonathan Harris, 1811)
- Gweithiau Williams Pantycelyn dan olygiad N. Cynhafal Jones, Cyfrol 1 (Treffynnon: P. M. Evans, 1887)
- Gweithiau Williams Pantycelyn dan olygiad N. Cynhafal Jones, Cyfrol 2 (Casnewydd: W. Jones, 1891)
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Kathryn Jenkins, Cân y Ffydd: Ysgrifau ar Emynyddiaeth (Cymdeithas Emynau Cymru, 2011)
- Gomer Morgan Roberts. Y Per Ganiedydd [Pantycelyn] Cyfrol I (Trem ar ei fywyd) (1949) a Chyfrol II. (Arweiniad i'w waith) (1958). Gwasg Aberystwyth.
- Glyn Tegai Hughes, 'Yr Hen Bant': Ysgrifau ar Williams Pantycelyn (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017)
- H. A. Hodges, Flame in the Mountains: Williams Pantycelyn, Ann Griffiths and the Welsh Hymn, gol. E. Wyn James (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017)
- R. Geraint Gruffydd, Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)
- E, Wyn James, ‘Williams, William (Pantycelyn)’: cofnod yn adran ‘Beirniadaeth a Theori’ yr adnodd cyfeiriol ar-lein, Yr Esboniadur (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) – https://wici.porth.ac.uk/index.php/Williams,_William_(Pantycelyn)
- E. Wyn James, ‘Diwrnod Williams Pantycelyn’, yn yr adran ‘Dadansoddi’ ar wefan O’r Pedwar Gwynt – https://pedwargwynt.cymru/dadansoddi/gol/diwrnod-williams-pantycelyn
- Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn y gyfrol Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn gan Derec Llwyd Morgan (gol.), (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Llawysgrif o farddoniaeth Pantycelyn ar Y Drych Digidol Archifwyd 2007-06-07 yn y Peiriant Wayback, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- William Williams yn Y Bywgraffiadur Cymreig
- Adolygiad gan E. Wyn James ar gyfrol ddylanwadol Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927; argraffiad newydd gyda rhagymadrodd sylweddol gan D. Densil Morgan, 2016) ar wefan Gwales
- Cyhoeddwyd recordiadau o ddarlithiau ar Williams Pantycelyn a'i gefndir gan Goronwy Prys Owen ac E. Wyn James, a draddodwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai ar 4 Chwefror 2017, ar ffurf cryno-ddisgiau gan Utgorn Cymru. Canolfan Hanes Uwchgwyrfai
- Gweler ymateb Emyr James i Theomemphus yma: https://www.youtube.com/watch?v=-417mK_LvPg