Anturiaethau Tintin
Cyfres o stribedi comig yw Anturiaethau Tintin (Ffrangeg: Les Aventures de Tintin), a grewyd gan y darlunydd Belgaidd Hergé, neu Georges Remi i roi iddo'i enw cywir (1907–1983). Ymddangosodd y rhifyn cyntaf mewn Ffrangeg yn atodiad plant papur newydd Belgaidd Le Vingtième Siècle ar 10 Ionawr 1929. Roedd wedi ei osod mewn byd a ymchwilwyd yn fanwl, yn adlewyrchiad cywir o'n byd ni, ac mae'r gyfres wedi parhau i fod yn ffefryn ymhlith darllenwyr am 80 mlynedd.
Arwr y gyfres yw Tintin, gohebydd Belgaidd ifanc. Yn y cyfieithiadau Cymraeg diweddar, mae'n cael ei gynorthwyo o'r cychwyn gan ei gi ffyddlon, Milyn (Milou yn Ffrangeg). Mae ychwanegiadau poblogaidd i'r cymeriadau yn ddiweddarach yn cynnwys Capten Hadog, capten sarrug, bras a choeglyd, a'r Athro Ephraim R. Efflwfia (Professeur Tournesol), sy'n glyfar ond yn drwm ei glyw, a chymeriadau eraill lliwgar megis y ddau dditectif analluog Parry-Williams a Williams-Parry (Dupond et Dupont).
Cyfieithwyd 5 o'r cyfrolau i'r Gymraeg rhwng 1978 a 1982 gan Roger Boore a'u cyhoeddi gan Wasg y Dref Wen; Teyrnwialen Ottokar, Y Cranc â'r Crafangau Aur, Cyfrinach yr Uncorn, Trysor Rackham Goch a Tintin a'r Dyn Eira Dychrynllyd oedd y rhain. Cyfieithwyd rhagor o'r cyfrolau ers 2008 gan Dafydd Jones, gyda'r mwyafrif bellach ar gael yn Gymraeg, wedi'u cyhoeddi gan Dalen. Mae yna wahaniaethau arddull sylweddol rhwng y ddau grŵp o gyfieithiadau, gyda chyfieithiadau Boore mewn Ieithwedd safonol Cymraeg Byw ar y cyfan, tra bod cyfieithiadau Jones yn llawer mwy tafodieithol, gyda Chapten Hadog yn siarad mewn Cymraeg Sir Gaerfyrddin a'r ddau ditectif yn nhafodiaith gogleddol. Ag eithrio Tintin ei hun, Capten Hadog, a rhai cymeriadau llai, mae enwau'r cymeriadau yn wahanol yng nghyfieithiadau'r ddau; er enghraifft, y ddau ditectif yng nghyfieithiadau Boore yw Jones a Johnes, ond Williams-Parry a Parry-Williams yng nghyfieithiadau Dafydd Jones.
Llyfrau
[golygu | golygu cod]Rhif | Teitl gwreiddiol | Ysgrifennwyd | Cyfrol du a gwyn | Cyfrolau lliw | Teitl Cymraeg | Dyddiad cyhoeddi yn Gymraeg | Cyfieithydd |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Tintin au pays des Soviets | 1929–1930 | 1930 | –– | –– | –– | –– |
2 | Tintin au Congo | 1930–1931 | 1931 | 1946 | –– | –– | –– |
3 | Tintin en Amérique | 1931–1932 | 1932 | 1945 | Tintin yn America | 2022 | Jones, DafyddDafydd Jones |
4 | Les Cigares du pharaon | 1932–1934 | 1934 | 1955 | Mwg Drwg y Pharo | 2008 | Jones, DafyddDafydd Jones |
5 | Le Lotus bleu | 1934–1935 | 1936 | 1946 | Alaw'r Dŵr | 2016 | Jones, DafyddDafydd Jones |
6 | L'Oreille cassée | 1935–1937 | 1937 | 1943 | Y Glust Glec | 2013 | Jones, DafyddDafydd Jones |
7 | L'Île Noire | 1937–1938 | 1938 | 1943, 1966 | Yr Ynys Ddu | 2009 | Jones, DafyddDafydd Jones |
8 | Le Sceptre d'Ottokar | 1938–1939 | 1939 | 1947 | Teyrnwialen Ottokar | 1980 | Boore, RogerRoger Boore |
Braint y Brenin Ottokar | 2019 | Jones, DafyddDafydd Jones | |||||
9 | Le Crabe aux pinces d'or | 1940–1941 | 1941 | 1943 | Y Cranc â'r Crafangau Aur | 1978 | Boore, RogerRoger Boore |
Y Cranc â'r Crafangau Aur | 2015 | Jones, DafyddDafydd Jones | |||||
10 | L'Étoile mystérieuse | 1941–1942 | –– | 1942 | Y Seren Wib | 2011 | Jones, DafyddDafydd Jones |
11 | Le Secret de la Licorne | 1942–1943 | –– | 1943 | Cyfrinach yr Uncorn | 1978 | Boore, RogerRoger Boore |
Dirgelwch yr Uncorn | 2020 | Jones, DafyddDafydd Jones | |||||
12 | Le Trésor de Rackham le Rouge | 1943 | –– | 1944 | Trysor Rackham Goch | 1978 | Boore, RogerRoger Boore |
Trysor Rhaca Goch | 2020 | Jones, DafyddDafydd Jones | |||||
13 | Les Sept Boules de cristal | 1943–1946 | –– | 1948 | Rhith Saith Rhyfeddod | 2017 | Jones, DafyddDafydd Jones |
14 | Le Temple du Soleil | 1946–1948 | –– | 1949 | Teml yr Haul | 2018 | Jones, DafyddDafydd Jones |
15 | Tintin au pays de l'or noir | 1948–1950 | –– | 1950, 1971 | Anialwch yr Aur Du | 2009 | Jones, DafyddDafydd Jones |
16 | Objectif Lune | 1950–1952 | –– | 1953 | Llwybr i'r Lleuad | 2010 | Jones, DafyddDafydd Jones |
17 | On a marché sur la Lune | 1952–1953 | –– | 1954 | Ar Leuad Lawr | 2010 | Jones, DafyddDafydd Jones |
18 | L'Affaire Tournesol | 1954–1956 | –– | 1956 | Cawl Erfyn Efflwfia | 2011 | Jones, DafyddDafydd Jones |
19 | Coke en stock | 1956–1958 | –– | 1958 | Y Bad Rachub | 2014 | Jones, DafyddDafydd Jones |
20 | Tintin au Tibet | 1958–1959 | –– | 1960 | Tintin a'r Dyn Eira Dychrynllyd | 1982 | Boore, RogerRoger Boore |
Tintin ar grib Tibet | 2017 | Jones, DafyddDafydd Jones | |||||
21 | Les Bijoux de la Castafiore | 1961–1962 | –– | 1963 | Perdlysau Castafiore | 2016 | Jones, DafyddDafydd Jones |
22 | Vol 714 pour Sydney | 1966–1967 | –– | 1968 | Awyren 714 i Sydney | 2008 | Jones, DafyddDafydd Jones |
23 | Tintin et les Picaros | 1975–1976 | –– | 1976 | Tintin a Chwyldro'r Pícaros | 2021 | Jones, DafyddDafydd Jones |
24 | Tintin et l'Alph-Art (anorffenedig) | 1978–1983 | –– | 1986, 2004 | –– | –– | –– |