Saumur
Gwedd
Math | cymuned, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 26,074 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Maine-et-Loire, arrondissement of Saumur, Communauté d'agglomération Saumur Val de Loire |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 66.25 km² |
Uwch y môr | 30 metr, 20 metr, 95 metr |
Gerllaw | Afon Loire |
Yn ffinio gyda | Allonnes, Distré, Rou-Marson, Souzay-Champigny, Varrains, Verrie, Villebernier, Vivy, Bellevigne-les-Châteaux, Gennes-Val-de-Loire |
Cyfesurynnau | 47.2592°N 0.0781°W |
Cod post | 49400 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Saumur |
Tref a commune yn département Maine-et-Loire yng ngorllewin Ffrainc yw Saumur. Roedd ei phoblogaeth yn 29,857 yn 1999.
Saif Saumur rhwng afon Loire ac afon Thouet, sy'n ymuno ychydig i'r gorllewin o'r dref. Mae'n adnabyddus am ei chastell, oedd mewn sefyllfa strategol bwysig yn y Canol Oesoedd. Cofnodir ei fod yng ngofal Owain Lawgoch yn 1370. Bu brwydrau yma yn 1793 yn ystod Gwrthryfel y Vendée, ac yn 1940 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae'r dref yn adnabyddus am y Cadre Noir, yr École Nationale d'Équitation ("Ysgol Farchogaeth Genedlaethol").
Pobl enwog o Saumur
[golygu | golygu cod]- Anne Lefèvre (1654–1720), mwy adnabyddus fel Madame Dacier, ysgolhaig a chyfieithydd
- Coco Chanel (1883–1971), cynllunydd ffasiwn
- Yves Robert, (1920–2002), actor