Neidio i'r cynnwys

Y Cynghrair Arabaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Cynghrair Arabaidd)
Y Cynghrair Arabaidd
Enghraifft o:sefydliad rhanbarthol, uno gwleidyddol, sefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu22 Mawrth 1945 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLibanus Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadSecretary General of the Arab League Edit this on Wikidata
SylfaenyddYr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Sawdi Arabia, Syria, Iemen, Moroco Edit this on Wikidata
Isgwmni/auArab Monetary Fund, Arab Air Carriers Organization, Arab League Educational, Cultural and Scientific Organization, Arab Parliament Edit this on Wikidata
PencadlysHeadquarters of the Arab League Edit this on Wikidata
Enw brodorolالجامعة العربية‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.leagueofarabstates.net/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Aelodau'r Cynghrair Arabaidd

Sefydlwyd y Cynghrair Arabaidd (Arabeg: الجامعة العربية‎ al-Jāmiʻa al-ʻArabiyya), a elwir Cynghrair y Gwladwriaethau Arabaidd (Arabic: جامعة الدول العربية‎ Jāmiʻat ad-Duwal al-ʻArabiyya) yn swyddogol, er mwyn hyrwyddo undod a chydweithrediad rhwng y gwledydd Arabaidd. Fe'i sefydlwyd ar 7 Mawrth, 1945, gan saith o wledydd Arabaidd, sef Yr Aifft, Irac, Gwlad Iorddonen, Libanus, Sawdi Arabia, Syria ac Iemen. Ar hyn o bryd ceir 22 aelod. Prif nod y cynghrair yw creu perthynas agosach rhwng yr aelod-wladwriaethau a threfnu cydweithrediad rhyngddynt, amddiffyn eu hannibyniaeth a'u sofraniaeth, a thrafod mewn modd gyffredinol buddianau'r gwledydd Arabaidd a materion sy'n ymwneud â hwy.

Lleolir ei bencadlys yn ninas Cairo yn yr Aifft. Mae tua 316 miliwn o bobl yn byw yng ngwledydd y Cynghrair, ar diriogaeth sy'n ymestyn o'r Maghreb yn y gorllewin i'r ffin rhwng Irac ac Iran a de-ddwyrain gorynys Arabia yn y dwyrain. Mae'r mwyafrif yn Arabiaid ond ceir lleiafrifoedd fel y Berberiaid hefyd. Mae canran sylweddol o'r boblogaeth yn byw mewn dinasoedd a threfi. Y dinasoedd mwyaf yw Baghdad, Khartoum, Damascus, Riyadh, Alexandria a Casablanca.

Aelodau

[golygu | golygu cod]

Aelodau presennol y Cynghair yw (ynghyd â'u dyddiad aelodaeth):

Baner Yr Aifft Yr Aifft 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Irac Irac 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Gwlad Iorddonen Gwlad Iorddonen 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Libanus Libanus 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Sawdi Arabia Sawdi Arabia 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Syria Syria 22 Mawrth, 1945 (Sefydlydd)
Baner Iemen Iemen 5 Mai, 1945 (Sefydlydd)
Baner Libia Libia 28 Mawrth, 1953
Baner Swdan Swdan 19 Ionawr, 1956
Baner Moroco Moroco 1 Hydref, 1958
Baner Tiwnisia Tiwnisia 1 Hydref, 1958
Baner Coweit Coweit 20 Gorffennaf, 1961
Baner Algeria Algeria 16 Awst, 1962
Baner Emiradau Arabaidd Unedig Emiradau Arabaidd Unedig 12 Mehefin, 1971
Baner Bahrein Bahrein 11 Medi, 1971
Baner Qatar Qatar 11 Medi, 1971
Baner Oman Oman 29 Medi, 1971
Mawritania 26 Tachwedd, 1973
Baner Somalia Somalia 14 Chwefror, 1974
Baner Palesteina Palesteina Gwladwriaeth Palesteina 15 Tachwedd, 1988, yn olynnu'r PLO (o 9 Medi, 1976)
Baner Jibwti Jibwti 9 Ebrill, 1977
Baner Comoros Comoros 20 Tachwedd, 1993

Yn Ionawr 2003, ymaelododd Eritrea fel sylwedydd.

Ysgrifenyddion Cyffredinol

[golygu | golygu cod]
Baner Yr Aifft Yr Aifft Abdul Rahman Azzam 1945 hyd 1952
Baner Yr Aifft Yr Aifft Abdul Khalek Hassouna 1952 hyd 1972
Baner Yr Aifft Yr Aifft Mahmoud Riad 1972 hyd 1979
Baner Tiwnisia Tiwnisia Chedli Klibi 1979 hyd 1990
Baner Libanus Libanus Assad al-Assad 1990 hyd 1991
Baner Yr Aifft Yr Aifft Ahmad Esmat Abd al Meguid 1991 hyd 2001
Baner Yr Aifft Yr Aifft Amr Moussa 2001 hyd heddiw

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.