Anabella Drummond
Anabella Drummond | |
---|---|
Ganwyd | 1350 Dunfermline |
Bu farw | Hydref 1401 Scone |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Alban |
Tad | John Drummond |
Mam | Mary Montifex |
Priod | Robert III, brenin yr Alban |
Plant | David Stewart, Duke of Rothesay, Iago I, brenin yr Alban, Margaret Stewart, Lady Mary Stewart, Lady Elizabeth Stewart, Egidia Stewart, Robert Stewart |
Llinach | Clan Drummond |
Roedd Anabella Drummond (tua 1350 – Hydref 1401) yn brenhines yr Alban trwy briodi â Robert III, brenin yr Alban .
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd Anabella Drummond ei geni yn yr Abaty Dunfermline, yn ferch i Syr John Drummond, arweinydd y Clan Drummond. Priododd John Stewart (a ddaeth yn ddiweddarach yn frenin yr Alban fel "Robert III") ym 1367. Bu iddynt dair merch a dau fab. Iago I, brenin yr Alban, oedd ei mab ieuengaf (g. 1394).[1]
Plant
[golygu | golygu cod]- Elizabeth, gwraig James Douglas, 1af Barwn Dalkeith
- Mary, gwraig (1) George Douglas, 1af Iarll Angus; (2) Syr James Kennedy; (3) William Graham o Kincardine; (4) Syr William Edmonstone o Duntreath
- Egidia
- Margaret, gwraig Archibald Douglas, 4ydd Iarll Douglas
- Robert
- David Stewart, Dug Rothesay
- Iago I, brenin yr Alban[2]
Fel brenhines
[golygu | golygu cod]Cafodd Robert ei anafu mewn ddamwain ym 1384. Ar ôl y ddamwain, roedd yn anabl a bu'n rhaid i'w wraig helpu i reoli'r wlad. Penderfynodd Robert III yrru ei fab ieuengaf, Iago, i Ffrainc er mwyn diogelwch. Pan oedd ar y ffordd yn 1406, cipiwyd ei long gan y Saeson, a chadwyd James yn garcharor Harri IV, brenin Lloegr ac wedyn Harri V, brenin Lloegr. Bu farw Robert ym 1406, ar ôl derbyn y newyddion.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Anabella ym Mhalas Scone.