Môr Bismarck
Math | môr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Otto von Bismarck |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel |
Gwlad | Papua Gini Newydd |
Arwynebedd | 361,000 km² |
Cyfesurynnau | 3.77°S 148°E |
Rhan o'r Cefnfor Tawel de-orllewinol yw Môr Bismarck.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]I'r gorllewin diffinnir Môr Bismarck gan arfordir gogledd-ddwyreiniol ynys Gini Newydd, i'r gogledd gan Ynysoedd Admiralty, i'r dwyrain gan ynys Hanover Newydd ac Iwerddon Newydd ac i'r de gan Brydain Newydd.
Mae gan y môr cylchedd o tua 800 km sy'n cynnwys tua 40.000 km sgwar. Mae'n weddol ddwfn ac yn cyrraedd dyfnder o 2900 metr yn ei bwynt dyfnaf. Yn y de ceir culforoedd Vitiaz, Dampier a Sianel San Siôr sy'n ei gysylltu â Môr Solomon. I'r gogledd a'r dwyrain mae'n ymuno â'r Cefnfor Tawel ei hun.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd y môr ei enwi'n 'Bismarck' er anrhydedd y canghellor Almaenig Otto von Bismarck. Roedd gan Ymerodraeth yr Almaen drefedigaeth ar ynys Gini Newydd o'r enw Gini Newydd Almaenig.
Yn yr Ail Ryfel Byd ymladdwyd brwydr fawr ar ei ddyfroedd rhwng yr ail a'r 4 Mawrth, 1943, a adnabyddir fel Brwydr Môr Bismarck, rhwng llynges ac awyrlu'r Cynghreiriaid a llynges Siapan.