Nod Glas
Math | formation |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.653°N 3.841°W |
Stribyn o garreg siâl yn ne Gwynedd yw'r Nod Glas. Defnyddir yr enw Cymraeg traddodiadol hwn, a fathwyd gan werin Meirionnydd, gan ddaearegwyr i gyfeirio at fand o garreg siâl feddal o liw glas tywyll neu ddu sy'n ymestyn o gyffiniau Tywyn ar lan Bae Ceredigion drwy ardaloedd Corris ac Abergynolwyn i ran uchaf dyffryn Afon Dyfi ger Dinas Mawddwy.[1]
Am filltiroedd lawer o'i fan cychwyn ger Tywyn mae'r stribyn o siâl asidig hwn, â'i led yn amrywio o tua 35 i 70 troedfedd, yn ymestyn ar draws de-orllewin Meirionnydd. Ger Dinas Mawddwy mae'n cyfuno gyda band o garreg calchfaen sy'n creu cynefin ffrwythlon i blanhigion yn rhan uchaf dyffryn Dyfi. Dan wyneb y tir mae'r Nod Glas am y rhan fwyaf o'i gwrs, ond daw i'r wyneb ger Dinas Mawddwy gan fod llednentydd Afon Dyfi wedi ei erydu.[1]
Roedd y Nod Glas yn gyfarwydd i chwarelwyr ardal Corris wrth gloddio fel arwydd fod y haenau o lechi yn darfod. Fe ymddengys mai bugeiliaid lleol a roddodd yr enw arno gan eu bod yn ei ddefnyddio, yn y lleoedd lle mae ar wyneb y tir, i farcio eu defaid gyda nod glas.[1]
Ceir englyn gan fardd gwlad dienw sy'n cyfeirio ato:
- O Fawddwy ddu ni ddaw - dim allan
- A ellir ei rwystraw;
- Ond tri pheth helaeth hylaw,
- Dyn atgas, Nod Glas, a gwlaw.[1]
Mae'r garreg hon yn gyfoethog mewn ffosilau.