Apartheid
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Newidiadau yn Ne Affrica,1948 -1994 | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
System yn Ne Affrica o gadw pobl o wahanol hil ar wahân oedd Apartheid (Afrikaans, yn golygu "arwahanrwydd"). Gweithredwyd y system rhwng 1948 a 1994. Dechreuwyd datblygu'r system pan gafodd De Affrica statws dominiwn hunanlywodraethol o fewn yr Ymerodraeth Brydeinig, a daeth i'w llawn dwf wedi 1948. Nodweddwyd system Apartheid gan ddiwylliant gwleidyddol a oedd yn seiliedig ar baasskap (neu ‘goruchafiaeth gwyn’) oedd yn sicrhau bod De Affrica yn cael ei rheoli'n wleidyddol, yn gymdeithasol ac yn economaidd gan boblogaeth leiafrifol wyn y wlad.[1] Yn ôl y system hon o ddosbarthu haenau cymdeithasol, y dinasyddion gwyn oedd â’r statws uchaf, wedyn pobl Asiaidd a phobl o gefndiroedd ethnig eraill, a'r Affricaniaid du yn isaf. Cyn y 1940au, roedd rhai agweddau ar apartheid wedi dechrau ymddangos ar ffurf rheolaeth leiafrifol gan Dde Affricaniaid gwyn, pan wahanwyd Affricaniaid du oddi wrth hiliau eraill mewn cyd-destunau cymdeithasol, ac yn nes ymlaen estynnwyd hyn i ddeddfau’n cael eu pasio a thir yn cael ei ddosbarthu.[2][3] Mabwysiadwyd Apartheid yn swyddogol gan Lywodraeth De Affrica wedi i’r Blaid Genedlaethol (y National Party) ddod i rym yn Etholiadau Cyffredinol 1948.[4]
Roedd system o ddosbarthu hiliol wedi dechrau cael ei ffurfio yn Ne Affrica gan Ymerodraeth yr Iseldiroedd yn ystod y 18g.[5] Erbyn diwedd y 19eg ganrif, gyda thwf cyflym a diwydianeiddio ‘British Cape Colony’, sef trefedigaeth Brydeinig yn Ne Affrica, dechreuodd polisïau a chyfreithiau hiliol ddod yn fwy llym. Roeddent yn gwahaniaethu’n benodol yn erbyn Affricaniaid du.[6] Roedd polisïau gweriniaethau’r Boer yn gwahaniaethu’n hiliol hefyd - er enghraifft, roedd cyfansoddiad gweriniaeth Transvaal yn gwahardd Affricaniaid du a phobl â lliw croen tywyll rhag ymwneud ag eglwys na gwladwriaeth.[7]
Y ddeddf apartheid gyntaf i gael ei phasio oedd Deddf Gwahardd Priodasau Cymysg yn 1949 ac yna Deddf Anfoesoldeb yn 1950, a oedd yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i ddinasyddion De Affrica briodi neu gael perthynas rywiol oedd yn croesi ffiniau hil. Roedd Deddf Cofrestru’r Boblogaeth 1950 yn categoreiddio pawb yn Ne Affrica mewn un o dri grŵp, sef gwyn, cymysg eu hil a brodorion/du[8] ac roedd llefydd byw pobl yn cael eu penderfynu ar sail dosbarthiad hil.[9] Rhwng 1960 a 1983, symudwyd 3.5 miliwn o Affricaniaid du o’u cartrefi a’u gorfodi i fyw mewn ardaloedd ar wahân o ganlyniad i ddeddfwriaeth apartheid. Hon oedd un o brosesau dadfeddiant mwyaf hanes modern.[10] Bwriad y dadfeddiannu hwn oedd cyfyngu poblogaeth pobl ddu i ddeg ardal benodedig a ddisgrifiwyd fel ‘mamwlad lwythol’, neu bantustans, gyda phedwar ohonynt yn datblygu’n wladwriaethau annibynnol.[11] Cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai unrhyw un oedd yn cael ei adleoli yn colli eu dinasyddiaeth yn Ne Affrica gan y byddent yn cael eu hamlyncu gan y bantustans.[12]
Enynnodd Apartheid wrthwynebiad sylweddol yn rhyngwladol ac oddi mewn i'r wlad ei hun.[13] Condemniwyd Apartheid gan y Cenhedloedd Unedig a rhoddwyd embargo arfau a masnach sylweddol ar Dde Affrica yn ogystal â boicotiau ym maes chwaraeon.[14] Yn ystod y 1970au a’r 1980au roedd y gwrthwynebiad mewnol i Apartheid y tu mewn i Dde Affrica wedi troi’n fwyfwy milwriaethus, ac achosodd hyn i ymateb Llywodraeth y Blaid Genedlaethol fod yn ffyrnig o dreisgar. Achoswyd trais sectaraidd ar raddfa eang, gyda miloedd yn marw neu’n cael eu carcharu.[15] Gwnaed rhai diwygiadau i’r system apartheid ond methodd y mesurau hyn gwrdd â gofynion y grwpiau ymgyrchu.[13]
Rhwng 1987 a 1993 dechreuodd y Blaid Genedlaethol drafodaethau gyda’r African National Congress (ANC), y prif fudiad gwrth-apartheid, er mwyn trafod rhoi diwedd ar arwahanu a chyflwyno llywodraeth fwyafrifol.[16][17]
Yn 1990 rhyddhawyd unigolion blaenllaw o'r ANC, fel Nelson Mandela, o’r carchar. Dechreuwyd felly cael gwared ar y system mewn cyfres o drafodaethau rhwng 1990 a 1993, gan ddiweddu ag Etholiad Cyffredinol 1994, y cyntaf i'w gynnal yn Ne Affrica lle'r oedd cyfle i bawb bleidleisio.[18]
Cefndir hanesyddol
[golygu | golygu cod]Yr ail ganrif ar bymtheg
[golygu | golygu cod]Tan yr ail ganrif ar bymtheg, roedd pobl ddu yn byw yn yr ardal sy’n cael ei galw erbyn hyn yn Weriniaeth De Affrica. Roedden nhw’n byw mewn llwythau gwahanol, ac yn byw bywyd syml a chyntefig iawn. Cyrhaeddodd pobl wyn yr ardal yn 1652 pan laniodd llong o’r Iseldiroedd ar Benrhyn Gobaith Da.
Roedd y bobl wyn hyn yn dod o’r Iseldiroedd, yr Almaen a Sweden, ac yn galw eu hunain yn Boers (ffermwyr) neu’n Afrikaners (Affricanwyr). Yn raddol, glaniodd llawer mwy o bobl wyn o wledydd gwahanol yn yr ardal, gan gynnwys Prydain. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd gwrthdaro wedi dechrau rhwng yr Afrikaners a Phrydain ynghylch pwy ddylai reoli. Yn 1899, dechreuodd rhyfel rhwng disgynyddion y bobl o’r Iseldiroedd a Phrydain, sef Ail Ryfel y Boer.
Yn 1910, cafodd gwlad newydd a oedd yn rhan o Ymerodraeth Prydain ei chreu. Enw’r wlad newydd oedd (Undeb) De Affrica. Cafodd y wlad ei llywodraeth ei hun, ond ar wahân i ganran isel o ddynion cymysg eu hil a oedd yn gymwys, dim ond dynion gwyn dros 21 oed oedd yn cael pleidleisio.
Afrikaners oedd mwyafrif y bobl wyn a oedd yn byw yn Ne Affrica. Doedd yr Afrikaners ddim yn credu bod pobl ddu a phobl wyn yn gyfartal. Doedden nhw ddim chwaith yn credu y dylen nhw fod yn byw gyda’i gilydd.
Dechrau’r 20fed ganrif
[golygu | golygu cod]Aeth llywodraeth wyn De Affrica ati’n syth i basio deddfau a oedd yn helpu pobl wyn, gan atal pobl ddu rhag cael grym a chyfoeth. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif roedd tua chwe miliwn o bobl yn byw yn Ne Affrica. O’r rhain, roedd 4 miliwn yn bobl ddu. Yn 1913, pasiodd y llywodraeth ddeddf o’r enw Deddf Tir Brodorion De Affrica.
O dan y ddeddf hon roedd:
- Y bobl ddu (pedair miliwn) yn cael 7.3% o’r tir yn Ne Affrica
- Y bobl wyn a phobl gymysg eu hil [coloured] (llai na dwy filiwn) yn cael 92.7% o’r tir.
Roedd yn rhaid i bobl ddu fyw ar eu siâr nhw o’r tir. Doedden nhw ddim yn cael bod yn berchen ar dir arall y tu allan i’r ardaloedd a oedd ar gyfer pobl ddu.
Llywodraeth Hertzog 1924-1939
[golygu | golygu cod]O dan arweinyddiaeth y Prif Weinidog, J. B. M. Hertzog, aeth y llywodraeth ati i basio rhagor o ddeddfau i roi mwy o rym i’r bobl wyn.
- Yn 1925 daeth Afrikaans, sef iaith yr Afrikaners, yn iaith swyddogol De Affrica.
- Yn 1926 pasiodd llywodraeth Hertzog ddeddf a oedd yn atal pobl ddu ac Indiaid rhag cael gwaith medrus a oedd yn talu’n dda.
- Yn 1927 pasiodd y llywodraeth ddeddf a oedd yn gwahardd perthynas rywiol rhwng pobl ddu a phobl wyn.
Yn y cyfnod hwn, felly, roedd y llywodraeth wyn yn lleihau hawliau pobl ddu ac yn pasio deddfau i roi mwy o rym i bobl wyn.[8]
Rhesymau dros sefydlu apartheid
[golygu | golygu cod]De Affrica yn 1948
[golygu | golygu cod]Roedd y flwyddyn 1948 yn flwyddyn bwysig yn hanes De Affrica. Yn ystod y flwyddyn honno cafwyd etholiad cyffredinol, ac yn yr etholiad hwnnw plaid Dr Daniel Malan, y Blaid Genedlaethol, oedd yn fuddugol. Roedd y rhain yn credu mewn cadw’r bobl ddu a’r bobl wyn ar wahân a rheoli eu symudiadau'n llwyr. Dros y blynyddoedd nesaf fe gyflwynon nhw gyfres o ddeddfau a oedd yn sefydlu system apartheid yn Ne Affrica.
Bu llawer o wrthwynebiad i'r system gan y mwyafrif o'r boblogaeth, yn enwedig ymhlith pobl ddu a oedd yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd. Dechreuwyd y system yn gynt dan yr Ymerodraeth Brydeinig i gyfyngu ar symudiadau pobl ddu. Roedd yn rhaid iddynt gael caniatâd ysgrifenedig wedi ei arwyddo i gael symud o un ardal i'r llall. Effeithiwyd ar eraill hefyd megis yr Indiaid gan yr un deddfau, ac arweiniodd Mahatma Gandhi ymgyrch yn erbyn y deddfau hyn pan oedd yn gyfreithiwr ifanc yn Ne Affrica.
Cyn bod modd sefydlu’r system apartheid roedd yn rhaid rhoi pobl De Affrica mewn grwpiau gwahanol o ran hil. Honnai’r Llywodraeth fod tri grŵp o bobl yn byw yn Ne Affrica:
- Gwyn (Afrikaners a phobl wyn eraill)
- Cymysg eu hil (plant priodasau cymysg a phobl Asiaidd)
- Brodorion (pobl ddu)
Y broblem oedd bod llawer o’r bobl gymysg eu hil yn edrych yn wyn. Yn y pen draw cafodd pawb yn Ne Affrica ei roi yn un o’r tri grŵp hyn. Gwahanwyd pobl wyn oddi wrth y bobl gymysg eu hil a’r brodorion mewn:
- Sinemâu
- Gorsafoedd bysiau
- Ysbytai
- Mynwentydd
- Meinciau parciau
- Bwytai
- Toiledau
- Ystafelloedd aros mewn meddygfeydd
Y Prif Ddeddfau Apartheid
[golygu | golygu cod]Pasiodd y llywodraeth nifer o ddeddfau er mwyn sefydlu a gorfodi apartheid;
- Deddf Gwahardd Priodasau Cymysg, 1949 – yn gwahardd pobl ddu neu gymysg eu hil rhag priodi pobl wyn.
- Deddf Anfoesoldeb, 1950 – yn gwahardd perthynas rywiol rhwng pobl ddu neu gymysg eu hil a phobl wyn. Y gosb oedd chwe mis o lafur caled.
- Deddf Cofrestru’r Boblogaeth, 1950 – rhoddwyd pawb yn Ne Affrica mewn un o dri grŵp, sef gwyn, cymysg eu hil a brodorion/du.
- Deddf Ardaloedd Grwpiau, 1950 – yn dweud lle yn union roedd pob grŵp i fod i fyw. Roedd hefyd yn rhoi’r hawl i’r llywodraeth ddweud bod rhai ardaloedd ‘i bobl wyn yn unig’.
- Deddf Atal Comiwnyddiaeth, 1950 – yn gwahardd comiwnyddiaeth ac unrhyw grŵp gwleidyddol a oedd am ‘greu newid gwleidyddol drwy darfu ar yr heddwch’.
- Deddf (Diwygio) Cyfreithiau’r Brodorion, 1952 – yn rheoli symudiadau pobl ddu i mewn ac allan o’r dinasoedd.
- Deddf Diddymu Trwyddedau, 1952 – yn gorfodi pobl ddu a oedd yn byw mewn ardaloedd ar gyfer pobl wyn i gario llyfr trwydded. Roedd modd carcharu unrhyw un du a oedd yn cael ei ddal heb ei lyfr trwydded. Roedd y llyfr hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ei berchennog.
- Deddf Neilltuo Cyfleusterau ar Wahân, 1953 – yn sicrhau codi arwyddion mewn mannau cyhoeddus a oedd yn dweud ‘Ewropeaid yn unig’ yn yr ardaloedd i bobl wyn, a ‘Pobl heb fod yn Ewropeaid yn unig’ yn y mannau i bobl ddu. Codwyd yr arwyddion hyn ym mhobman – gorsafoedd trên, swyddfeydd post, parciau, traethau ac ati, ac roedd yr adnoddau a’r gwasanaethau gorau i bobl wyn.
- Deddf Addysg Bantw 1953 – yn galluogi’r llywodraeth i reoli addysg pobl ddu. Roedd pobl ddu yn cael eu haddysgu yn eu hiaith eu hunain: nid Saesneg nac Afrikaans, ac yn cael eu haddysgu am eu statws mewn cymdeithas.
- Deddf (diwygio) cynrychioli pleidleiswyr ar wahân, 1956 – yn cymryd yr hawl i bleidleisio oddi ar bobl gymysg eu hil. O hyn ymlaen roedden nhw’n cael ethol pedwar cynrychiolydd gwyn.
- Mân apartheid y 1950au – cyfres o ddeddfau a oedd yn rheoli pob agwedd ar fywydau pobl ddu. Cafodd gweinidogion gwyn, er enghraifft, hawl i wahardd pobl ddu rhag mynd i’w heglwys nhw.[8]
Hendrik Verwoerd a’r drefn apartheid 1958-1974
[golygu | golygu cod]Ar ôl marwolaeth olynydd Dr Malan yn 1958, daeth Hendrik Verwoerd yn Brif Weinidog De Affrica. Roedd Verwoerd yn credu’n gryf yn hawliau’r Afrikaners, ac yn 1937 daeth yn olygydd papur newydd Afrikaans, Die Transvaler. Yn y cyfnod hwn roedd yn cefnogi polisïau apartheid Dr Malan yn frwd, ac yn 1950 cafodd swydd gweinidog yn y llywodraeth. Bu’n rheoli ei blaid a’i wlad rhwng 1958 ac 1966. Yn 1966, pan oedd yn eistedd yn y Senedd yn Cape Town, cafodd ei drywanu â chyllell gan ddyn, ac fe’i llofruddiwyd.
Credai Verwoerd yn gryf mewn amddiffyn ‘hawliau’ yr Afrikaners. Credai ei fod yn gwneud gwaith Duw ar y ddaear wrth geisio sicrhau De Affrica a fyddai’n cael ei rheoli gan bobl wyn, Gristnogol. Roedd wedi gweld nifer o wledydd eraill ar gyfandir Affrica yn ennill eu hannibyniaeth oddi ar wledydd fel Prydain, ac nid oedd am weld y bobl ddu yn dod i reoli yn ei wlad ef. Ateb Verwoerd i broblemau De Affrica oedd cynnig yr hawl (neu esgus cynnig yr hawl) i bobl ddu reoli eu hunain, ar wahân i bobl wyn, a chreu mamwledydd hunanlywodraethol. Bantwstanau oedd yr enw a roddwyd ar y ‘gwledydd’ bach hyn yn Ne Affrica.
Yn 1959, felly, pasiwyd Deddf Hyrwyddo Hunanlywodraeth Bantw.
Cafwyd cynllun i rannu tir De Affrica. Roedd y bobl wyn yn cael rheoli 87% o’r tir, a’r 13% a oedd yn weddill yn cael ei rannu ymhlith y bobl ddu. Byddai tir y bobl ddu yn cael ei rannu yn wyth mamwlad hunanlywodraethol (deg yn nes ymlaen) – neu Bantwstan. Wrth gwrs doedd y Bantwstanau ddim yn creu trefn deg yn Ne Affrica, ond yn hytrach yn sicrhau mwy o reolaeth gan bobl wyn dros bobl ddu. Cafodd dros dair miliwn o bobl ddu eu gorfodi i symud o’r ardaloedd ‘pobl wyn yn unig’ i’r Bantwstanau, lle’r oedd gorboblogi aruthrol.
Doedd y Bantwstanau ddim yn ‘hunanlywodraethol’ mewn gwirionedd, ac roedden nhw’n rhy fach i gael eu heconomi eu hunain. Yr hyn a wnaeth polisi Verwoerd oedd ceisio twyllo’r byd bod llywodraeth De Affrica yn gofalu am y bobl ddu. O hyn ymlaen gallai gwleidyddion gwyn De Affrica ddadlau bod y bobl ddu yn cael rheoli eu hunain, ac mai dim ond pobl wyn oedd yn byw yn y rhannau yr oedd llywodraeth wyn De Affrica yn eu rheoli.
O hyn ymlaen doedd dim hawl gan bobl ddu i fyw mewn ardaloedd gwyn. Roedd hawl ganddyn nhw i deithio i’r ardaloedd hyn i weithio am 11 mis y flwyddyn, ond heb eu teuluoedd, ac yn gorfod byw mewn hosteli arbennig un rhyw. Roedd yn rhaid i bob gweithiwr a oedd yn teithio i weithio y tu allan i’r Bantwstanau gario llyfr trwydded arbennig dan Ddeddf Diddymu Trwyddedau 1952.[8]
Effeithiau’r System Apartheid
[golygu | golygu cod]Cyflogaeth
[golygu | golygu cod]Roedd maint y ffermydd yn y Bantwstanau’n llai ac felly’n cynhyrchu llai o fwyd na ffermydd y gwynion. Bu’n rhaid i nifer o Affricanwyr du fudo o’r ardaloedd gwledig i’r dinasoedd i chwilio am waith. Ond, dim ond dros dro roedd hawl gan bobl ddu i fyw yn y dinasoedd oherwydd deddfau llym apartheid a dim ond ar yr amod eu bod yn gweithio i gyflogwyr gwyn. Yn anffodus roedd cyflogau’r bobl ddu yn is o lawer na chyflogau’r bobl wyn. Roedd hi’n anodd iawn cael swydd os oeddech chi’n Affricanwr du ac o ganlyniad roedd lefel diweithdra’n uchel iawn. Roedd diffyg hawliau hefyd yn broblem fawr oherwydd nad oedd nifer o’r bobl ddu yn aelodau o undebau llafur ac roedd y llywodraeth wedi gwneud streicio’n anghyfreithlon mewn diwydiannau hanfodol fel mwyngloddio, sef prif waith y bobl ddu. Felly, roedd hi’n anodd iawn iddyn nhw wneud dim byd ynghylch eu hamodau gwaith.
Addysg
[golygu | golygu cod]Sylfaen cred aelodau’r Blaid Genedlaethol oedd bod yr Affricanwr du’n wahanol ac yn israddol i’r dyn gwyn. Felly doedd dim modd addysgu pobl ddu yn yr un modd â phobl wyn. Rôl addysg oedd addysgu Affricanwyr du i gydnabod eu statws. Yn ôl y gyfraith roedd yn rhaid i bob disgybl rhwng 7 ac 16 mlwydd oed yn Ne Affrica fynd i ysgolion cyhoeddus a oedd wedi eu gwahanu ar sail hil. Fodd bynnag, doedd dim rhaid i blant du fynd i’r ysgol, yn ôl y gyfraith, tan 1981. Roedd yr Affricanwyr du’n cael addysg sylfaenol iawn ac roedd cyflog eu hathrawon yn is o lawer na chyflogau athrawon gwyn.
Roedd mudiadau fel yr African National Congress (ANC) yn ymwybodol iawn bod addysg yn allweddol bwysig o ran cynnig cyfleoedd i wella safonau byw pobl ddu. Roedd rhieni yn fodlon tynnu eu plant allan o’r ysgol, gymaint oedd eu hanfodlonrwydd â pholisi’r llywodraeth. Ond methodd yr ymgyrch wrth i’r heddlu fynd ati i erlyn y protestwyr a gorfodi’r Affricanwyr du i fynd yn ôl i’r ysgolion. Pasiwyd deddf yn 1959 a oedd yn atal pobl ddu rhag mynd i brifysgolion. Daeth rhywfaint o dro ar fyd gyda sefydlu prifysgolion ‘heb fod yn wyn’, ond dim ond aelodau o grwpiau Bantw penodol a oedd yn cael bod yn fyfyrwyr ynddyn nhw.
Cartrefi
[golygu | golygu cod]Roedd Affricanwyr du yn gorfod byw mewn treflannau (townships) ar ymylon dinasoedd oherwydd bod deddfau apartheid yn eu hatal rhag byw yn y dinasoedd eu hunain. Un o’r treflannau enwocaf yn Ne Affrica oedd Soweto. Roedd safonau byw yn aml yn isel ac roedd llawer o dorcyfraith. Yn yr ardaloedd hyn dechreuodd mudiadau gwrth-apartheid fel yr ANC a’r Pan African Congress gynyddu eu haelodaeth a’u cefnogaeth.
Pwerau’r heddlu
[golygu | golygu cod]Drwy basio Deddf Atal Comiwnyddiaeth yn 1950, a oedd yn gwahardd y Blaid Gomiwnyddol, roedd y llywodraeth hefyd yn gallu atal unrhyw fudiad arall roedden nhw’n ei ystyried yn fygythiad i heddwch yn Ne Affrica. Roedd y ddeddfwriaeth wedi ei hanelu at yr ANC, undebau llafur, ac, yn enwedig, aelodau’r Ymgyrch Herfeiddio – mudiad milwriaethus o fewn yr ANC. Wrth fabwysiadu’r Siarter Rhyddid a oedd yn ‘cyfyngu ar ryddid barn a symudiad protestwyr’, cafodd yr heddlu fwy o bwerau o lawer. Hefyd, pasiodd y Llywodraeth Ddeddf Difrodi 1962 a oedd yn rhoi’r gosb eithaf i wrthwynebwyr gwleidyddol. Roedd Deddf Dim Treial 1963 yn rhoi hawl i’r heddlu arestio unrhyw un a’i roi yn y carchar am hyd at 90 diwrnod (cafodd hyn ei godi i 180 yn 1965). Roedd De Affrica wedi ei throi’n wladwriaeth heddlu (police state).
Sensoriaeth
[golygu | golygu cod]Aeth y llywodraeth ati i reoli’r cyfryngau. Roedd Corfforaeth Ddarlledu De Affrica yn frwd o blaid y bobl wyn ac yn cefnogi apartheid yn llawn. Roedd yn rhaid i bapurau newydd De Affrica dalu blaendal i’r llywodraeth cyn gallu cyhoeddi, a byddai’r blaendal hwnnw’n cael ei golli petai’r llywodraeth yn gwahardd y papur yn ddiweddarach. Aeth y llywodraeth hefyd ati i atal mewnforio gwaith a ffilmiau a oedd yn cael eu hystyried yn fygythiad i ddiogelwch y wlad.
Symud pobl ddu o’u cartrefi
[golygu | golygu cod]Cafodd llywodraeth De Affrica gryn syndod wrth ganfod bod poblogaeth y wlad wedi cynyddu gymaint, gan ragweld y byddai 16 miliwn o Affricanwyr yn fwy na’r disgwyl yn y wlad erbyn diwedd y flwyddyn 2000. Felly, dechreuwyd symud pobl ddu o ardaloedd penodol y bobl wyn. O ganlyniad i Ddeddf Ardaloedd Grwpiau 1950, roedd y symud hwn eisoes wedi dechrau.
Bu’n rhaid i dros dair miliwn o bobl ddu symud o’u cartrefi a chafodd eu tai eu dymchwel yn syth ar ôl iddyn nhw adael. Un o’r trefi enwocaf a gafodd ei dymchwel oedd Sophiatown, ac o fewn ychydig o fisoedd cafodd treflan newydd o’r enw Triumph ei hadeiladu ar gyfer pobl wyn.[10]
Gwrthwynebu apartheid
[golygu | golygu cod]Protestiadau heddychlon
[golygu | golygu cod]Mae dau brif fudiad yn hanes De Affrica sydd wedi ymgyrchu’n gyson yn erbyn apartheid, sef Cyngres Genedlaethol Affrica (yr ANC) a’r Gyngres Ban Affricanaidd (y PAC). Yn fras, gallwn rannu hanes y gwrthwynebiad i apartheid yn ddwy – sef y cyfnod heddychlon cyn Sharpeville (1948–1960), a’r cyfnod ar ôl 1960 pan welwyd y mudiadau hyn yn troi fwy a mwy at ddefnyddio trais.
Hanes cynnar yr ANC
[golygu | golygu cod]Cafodd yr ANC ei sefydlu yn 1912, ac ar y dechrau roedd yn cefnogi defnyddio dulliau di-drais i ymladd yn erbyn apartheid. Pobl ddu dosbarth canol oedd ei haelodau, gweinidogion a chyfreithwyr gan fwyaf. Erbyn 1939 nid roedd yr ANC wedi cyflawni llawer.
Yn 1943 sefydlwyd cynghrair ieuenctid o fewn yr ANC, ac erbyn diwedd y 1940au roedd rhwyg amlwg yn datblygu rhwng aelodau hŷn yr ANC a’r bobl ifanc, mwy radical. Rhai o’r arweinwyr ifanc, newydd hyn oedd pobl fel Nelson Mandela, Walter Sisulu, Oliver Tambo ac Anton Lembede. Daeth y rhain yn ddylanwadol iawn o fewn y mudiad, ac fe lwyddon nhw i wthio eu syniadau ar y mudiad. Roedden nhw’n credu mewn gweithredu uniongyrchol ac y dylai’r ANC arwain ymgyrchoedd torfol yn erbyn llywodraeth De Affrica. Pan ddaeth Sisulu yn ysgrifennydd cyffredinol y mudiad yn 1949, mabwysiadwyd cynllun gweithredu newydd: roedd hyn yn golygu hyn y byddai’r ANC o hyn ymlaen yn gyfrifol am drefnu streiciau, protestiadau a dulliau eraill o weithredu – dulliau anufudd-dod sifil.
Ym mis Mai 1950 trefnodd yr ANC ‘ddiwrnod rhyddid’. Aeth gweithwyr ledled De Affrica ar streic ar 1 Mai. Ymateb y llywodraeth oedd pasio’r Ddeddf Atal Comiwnyddiaeth. O dan y ddeddf hon roedd y llywodraeth yn cael arestio bron unrhyw un a oedd yn protestio yn ei herbyn, ac roedd arweinwyr mudiadau fel yr ANC yn gallu cael eu gwahardd.
Roedd llywodraeth wyn De Affrica yn bwriadu trefnu dathliadau mawr ar hyd a lled y wlad ar 26 Mehefin, 1952. Roedd hwn yn ddiwrnod pwysig yn hanes pobl wyn De Affrica oherwydd ei bod hi’n 300 mlynedd union ers sefydlu’r wlad. Penderfynodd arweinwyr yr ANC wrthwynebu’r dathliadau hyn drwy drefnu ymgyrch fawr ddi-drais yn erbyn apartheid. Roedd tactegau’r ANC yn yr ymgyrch yn syml, sef anwybyddu deddfau apartheid drwy fynd i ardaloedd ‘gwyn yn unig’ e.e. gorsafoedd trenau, er mwyn cael eu harestio. Yn ystod yr haf 1952 cafodd dros 8,000 o bobl ddu eu harestio am herio deddfau apartheid. Ymateb y llywodraeth oedd pasio mwy o ddeddfau a oedd yn rhoi pwerau iddyn nhw arestio a charcharu pobl ddu. Gallai’r bobl ddu a oedd yn herio cyfreithiau apartheid gael eu carcharu am dair blynedd, eu gorfodi i dalu dirwyon, yn ogystal â chael eu chwipio.
Er i’r ymgyrch herfeiddio ddod i ben erbyn 1953, roedd wedi dylanwadu’n fawr iawn ar bobl ddu De Affrica, ac yn arbennig ar statws yr ANC. Dangosodd i arweinwyr yr ANC bod gweithredu torfol, di-drais yn gallu tynnu sylw’r llywodraeth. Ar ôl yr ymgyrch cynyddodd aelodaeth o’r ANC o 7,000 i 100,000.[8][10]
Y Siarter Rhyddid (1955)
[golygu | golygu cod]Yn 1955 cafodd arweinwyr yr ANC gyfarfod ag arweinwyr grwpiau eraill a oedd yn gwrthwynebu apartheid, o dan yr enw Cyngres y bobl. Roedden nhw’n cynnwys cynrychiolwyr pobl ddu, Indiaid a phobl wyn a oedd yn ymgyrchu yn erbyn apartheid. Yn y cyfarfod hwn lansiwyd y Siarter Rhyddid a oedd yn cynnwys pwyntiau sylfaenol am ryddid a democratiaeth. Dywedodd arweinydd yr ANC, y Pennaeth Luthuli y byddai’r Siarter yn cynnig gobaith yn y tywyllwch.
Roedd y Siarter yn cynnwys;
- Y dylai'r bobl lywodraethu
- Pob grŵp cenedlaethol i gael hawliau cyfartal
- Y bobl i rannu cyfoeth y wlad
- Y tir i’w rannu rhwng y sawl sy’n gweithio arno
- Pob un i fod yn gyfartal yn wyneb y gyfraith
- Pob un i fwynhau hawliau dynol cyfartal
- Bydd gwaith a diogelwch i bawb
- Bydd agor y drws ar ddysgu a diwylliant
- Bydd tai, diogelwch a chysur
- Bydd heddwch a chyfeillgarwch.
Ymateb y llywodraeth i’r Siarter Rhyddid oedd arestio 156 o bobl, gan gynnwys y rhan fwyaf o arweinwyr pobl ddu ac Indiaid De Affrica. Cyhuddwyd y rhain o fod yn gomiwnyddion, ac o gynllunio i gael chwyldro yn Ne Affrica. Y Prawf Brad (Treason Trial) oedd yr enw a roddwyd ar yr achos llys. Er i’r llywodraeth fethu cael neb o’r arweinwyr hyn yn euog yn y diwedd, parhaodd y prawf am bum mlynedd. Yn ystod y pum mlynedd hyn roedd prif arweinwyr yr ANC yn y carchar, ac felly’n methu ymgyrchu yn erbyn apartheid.[8]
Protestiadau treisgar
[golygu | golygu cod]Roedd rôl unigolion allweddol yn hollbwysig yn yr ymgyrch yn erbyn apartheid. Fodd bynnag, fe wnaeth miliynau o bobl gyffredin frwydro ochr yn ochr â nhw yn erbyn apartheid, a hynny dan arweiniad dau fudiad yn arbennig, sef yr ANC a'r Gyngres Ban-Affricanaidd (PAC).
Mae hanes y brwydrau yn erbyn apartheid yn llawn o ddigwyddiadau erchyll ac mae dau ddigwyddiad arbennig wedi dod yn enwog, y naill yn Sharpeville yn 1960, a’r llall yn Soweto yn 1976.
Sharpeville, 1960
[golygu | golygu cod]Un o bolisïau mwyaf amhoblogaidd y llywodraeth oedd yr un a oedd yn gorfodi’r holl bobl ddu i gario llyfr trwydded. Roedd pobl ddu wedi protestio yn erbyn y rheolau hyn yn y gorffennol, ond ym mis Mawrth 1960 penderfynodd y PAC lansio ymgyrch enfawr yn eu herbyn. Y gosb arferol am beidio cario eich llyfr trwydded oedd mis o garchar neu ddirwy o £10.
Gofynnodd y PAC i bobl ddu adael eu llyfrau trwydded gartref a mynd i’r swyddfa heddlu leol i gyfaddef eu bod yn cerdded o gwmpas hebddyn nhw, ac felly’n torri’r gyfraith. Y syniad oedd pe bai miloedd o bobl ddu yn gwneud hyn, byddai’n amhosibl i’r heddlu eu rhoi nhw i gyd yn y carchar.
Ddydd Llun, 21 Mawrth, 1960 dechreuodd y gweithredu. Cafwyd protestiadau ar hyd a lled De Affrica. Yn nhreflan Sharpeville, 35 milltir o Johannesburg, daeth torf o bobl ddu at ei gilydd wrth swyddfa’r heddlu i brotestio’n heddychlon, ac i ddangos i’r heddlu nad oedden nhw’n cario’u llyfrau trwydded. Mae dwy fersiwn o’r hyn a ddigwyddodd wedyn yn Sharpeville – un swyddogol yr heddlu a’r llywodraeth, ac un y llygad-dystion a’r haneswyr.
Soweto, 1976
[golygu | golygu cod]Yr ail ddigwyddiad mawr yn hanes De Affrica o safbwynt protestiadau a wnaeth droi at drais yw’r terfysg yn Soweto yn ystod haf 1976. Roedd Soweto yn dreflan enfawr y tu allan i Johannesburg, gyda thros filiwn o bobl yn byw yno. Roedd tua chwarter y rhain yn teithio ar y trên i Johannesburg bob dydd; taith o ddwy awr bob ffordd iddyn nhw.
Oherwydd gorboblogi roedd llawer o drigolion Soweto yn rhannu tai â theuluoedd eraill, gyda thros 12 o bobl yn byw mewn tŷ â dim ond pedair ystafell ynddo yn aml . Doedd gan y tai hyn ddim trydan, dim toiled yn y tŷ, a dim dŵr glân. Roedd miloedd o’r trigolion hefyd yn byw mewn hosteli un rhyw a doedd dim hawl gan eu gwragedd i ymweld â nhw. Yn rhai o strydoedd Soweto roedd pobl yn byw mewn siediau wedi eu hadeiladu o gardbord.
Y peth anarferol am Soweto oedd bod cymaint o bobl ifanc yn byw yno. Roedd dros hanner y boblogaeth dan 20 oed ac yn gyffredinol, roedd pobl ddu ifanc yn fwy eithafol yn erbyn apartheid ac yn fwy parod i brotestio na’u rhieni. Dyma’r rhai a oedd wedi dod dan ddylanwad syniadau Steve Biko am ymwybyddiaeth o bobl ddu, ac yn barod i herio’r llywodraeth.
Yn 1976 penderfynodd y llywodraeth y byddai pobl ddu yn cael hanner eu haddysg drwy gyfrwng yr iaith Afrikaans. Yn ogystal â’r ffaith eu bod yn cael addysg wael beth bynnag, doedd y plant ysgol du ddim yn hapus i gael eu haddysgu yn yr hyn roedden nhw’n ei hystyried yn ‘iaith y gormeswr’. Roedden nhw’n gweld hyn fel ffordd arall o geisio eu rheoli.
Dechreuodd y plant ysgol wrthod sefyll arholiadau a chafwyd gorymdaith fawr o 20,000 o blant ysgol a myfyrwyr. Pan ddaeth y rhain wyneb yn wyneb â’r heddlu, saethodd yr heddlu atyn nhw, gan ladd dau ac anafu llawer. Ar ôl y digwyddiad hwn ffrwydrodd Soweto, a chafwyd trais, terfysg a phrotestio. Llosgwyd adeiladau’r llywodraeth, ymosodwyd ar geir, a lladdwyd nifer o blismyn du.
Ymledodd y terfysg o Soweto i rannau eraill o’r wlad. Llosgwyd adeiladau fel llyfrgelloedd. Cafodd ysgolion mewn nifer o ardaloedd eu cau am y rhan fwyaf o 1976, a bu’n rhaid gohirio arholiadau'r flwyddyn honno.
Mae ffigyrau swyddogol y llywodraeth yn dweud bod dros 600 o bobl wedi eu lladd yn nherfysgoedd Soweto, a thros 1,500 wedi eu hanafu. Mae’n debyg bod y gwir gyfanswm yn uwch o lawer. O’r rhai a fu farw roedd canran uchel yn blant ysgol.[8]
Yr ANC a’r PAC 1960-1990
[golygu | golygu cod]Ar ôl Sharpeville penderfynodd yr ANC newid ei dulliau protestio. Digwyddodd dau beth:
- Sylweddolodd arweinwyr yr ANC a’r PAC fod y llywodraeth yn fodlon defnyddio trais yn erbyn protestiadau di-drais
- Aeth y llywodraeth ati i wahardd y ddau fudiad, a’u gwneud yn anghyfreithlon. O hyn ymlaen roedd pobl ddu yn methu protestio’n gyfreithlon yn erbyn apartheid.
Roedd yr ANC wedi ei gwahardd a’r arweinwyr wedi gorfod mynd i guddio rhag ofn y bydden nhw’n cael eu harestio. Yn 1964 cafwyd araith bwysig gan Nelson Mandela lle dywedodd bod yr amser wedi cyrraedd pan oedd yn rhaid i Dde Affrica frwydro yn erbyn y system apartheid. Roedd dulliau di-drais wedi bod yn aneffeithiol yn erbyn y system.
Roedd arweinwyr eraill y Mudiad Gwrth-Apartheid yn cytuno, fel y cyfaddefodd arweinydd yr ANC, Albert Luthuli, wrth dderbyn Gwobr Heddwch Nobel yn 1961.
Nelson Mandela oedd un o’r bobl amlycaf a oedd o blaid defnyddio trais yn erbyn y llywodraeth. Aeth ati i ffurfio mudiad tanddaearol, anghyfreithlon o’r enw Unkhonto we Sizwe (Gwaywffon y Bobl) a gafodd y llysenw MK. Aeth yr MK ati i drefnu ymgyrchoedd treisgar i danseilio llywodraeth De Affrica. Pwrpas MK oedd bomio a dinistrio targedau tactegol, gan osgoi lladd pobl pan oedd hynny’n bosibl. Ym mis Rhagfyr 1961 cafwyd deg ffrwydrad, gyda’r targedau’n amrywio o swyddfeydd post i swyddfeydd trwyddedau a pheilon trydan. Roedd canolfan yr MK mewn ardal ffasiynol o Johannesburg o’r enw Rivonia, ac am 17 mis llwyddodd y Black Pimpernel (Nelson Mandela) i osgoi sylw’r heddlu.
Fodd bynnag, yn 1963 cafodd Mandela a saith arall eu harestio yn Rivonia, a daeth yr heddlu o hyd i ddogfennau a oedd yn cynnwys cynlluniau i ymosod ar adeiladau. Doedd dim amheuaeth fod Mandela yn euog. Roedd llawer yn disgwyl y byddai’r llywodraeth yn crogi Mandela a’r arweinwyr eraill.
Ar ddiwedd prawf yn Ne Affrica mae hawl gan y diffynnydd i wneud araith. Mandela oedd yn amddiffyn aelodau’r ANC yn y prawf, ac ar y diwedd gwnaeth araith am bedair awr a hanner yn esbonio pam roedd wedi gweithredu fel y gwnaeth. Cafodd Mandela a rhai o’r lleill eu dedfrydu i garchar am oes.
Y Gyngres Ban Affricanaidd (PAC)
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y PAC gan rai o gyn-aelodau’r ANC a oedd yn anghytuno â rhai o bolisïau’r ANC. Doedd yr ANC ddim yn ddigon radical, yn eu barn nhw. Roedden nhw’n credu hefyd eu bod yn cydweithio gormod â phobl wyn. Arweinydd cyntaf y PAC oedd Robert Sobukwe. Rydyn ni eisoes wedi gweld mai’r PAC mewn gwirionedd wnaeth drefnu’r ymgyrchoedd a arweiniodd at gyflafan Sharpeville. Pan gafodd y PAC ei gwahardd yr un pryd â'r ANC yn 1960, aeth ati i sefydlu grŵp terfysg o’r enw Poqo. Llwyddodd yr heddlu i arestio arweinwyr y PAC hefyd, a chafodd y rhain eu dedfrydu i garchar. Mae’n bwysig cofio nad oedd pawb a oedd yn ymgyrchu yn erbyn apartheid yn gwneud hynny drwy’r ANC.[8]
Gwrthwynebiad grwpiau lleiafrifol
[golygu | golygu cod]Inkatha ya KwaZulu
[golygu | golygu cod]Nid oedd pobl ddu yn hollol unfrydol yn eu gwrthwynebiad i Apartheid. Roedd y Blaid Inkatha ya KwaZulu, dan arweiniad arweinydd y famwlad KwaZulu, Buthelezi, am gael annibyniaeth ar Dde Affrica. Cefnogodd y llywodraeth y syniad hwn ac achoswyd llawer o drais rhwng yr ANC ac Inkatha gan fod eu syniadau yn groes i syniadau’r ANC am un De Affrica unedig.
Er mai pobl ddu oedd y prif wrthwynebiad i Apartheid roedd nifer o grwpiau ymgyrchu gwyn hefyd.
Roedd Plaid Unedig De Affrica yn gwrthod Apartheid ond yn credu mewn arwahanu. Roedd y Blaid Flaengar o blaid gwarchod hawliau dynol ac felly’n gwrthwynebu’r system yn gryf. Roedd y Blaid Ryddfrydol hefyd yn wrthwynebwyr i’r system er nad oeddynt yn gryf iawn, ac felly ni chawsant lawer o effaith. Roedd Plaid y Gyngres hefyd yn gwrthod hiliaeth, ond oherwydd nifer eu haelodau comiwnyddol nid oedd yn gryf iawn ac fe'i gwaharddwyd yn y 1960au. Roedd y mudiad hawliau dynol, Black Sash, sef grŵp o fenywod gwyn, yn ymgyrchu yn erbyn Apartheid, gan roi cymorth i deuluoedd du tlawd. Yn 1983 sefydlwyd y Ffrynt Democrataidd Unedig (UDF) sef grŵp a oedd am weld diwedd ar Apartheid. Gyda 2,000,000 o aelodau roedd yn fygythiad mawr i’r Blaid Genedlaethol. Roedd yr awdur a’r dramodydd Athol Fugard (ganwyd 11 Mehefin 1932) yn un o nifer yn y celfyddydau a oedd yn ysgrifennu am Apartheid, fel yn ei ddrama 'The Island' (1972) ar y cyd â John Kani, a Winston Ntshona, a seiliwyd ar fersiwn o Antigone. Roedd unigolion gwyn o fewn yr Eglwys yn gwrthwynebu Apartheid, fel y Tad Trevor Huddleston a’r Esgob Ambrose Reeves, a oedd yn ymgyrchu'n ddi-drais.
Ymhlith gwrthwynebwyr eraill y system Apartheid o fewn yr Eglwys oedd Allan Boesak, a etholwyd yn Llywydd y Ffrynt Democrataidd Unedig yn 1983, a’r arweinydd du eglwysig a ddaeth yn amlwg yn ystod y 1980au oedd Desmond Tutu.
Gwrthwynebiad Rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Y Gymanwlad Brydeinig
[golygu | golygu cod]Roedd y 1950au a’r 1960au yn gyfnod o newid mawr i nifer o wledydd yn Affrica. Erbyn 1970 roedd y rhan fwyaf o wledydd Affrica wedi cael annibyniaeth oddi ar y gwledydd Ewropeaidd a oedd wedi eu rheoli.
Yn 1960 roedd De Affrica yn dal i fod yn un o wledydd y Gymanwlad, ond yn 1961 cynhaliwyd refferendwm yn Ne Affrica pan bleidleisiodd pobl wyn y wlad dros adael y Gymanwlad. Daeth De Affrica yn weriniaeth, gyda’i harlywydd ei hun ac yn gwbl annibynnol ar Brydain. Er nad oedd Verwoerd y Prif Weinidog eisiau i hyn ddigwydd, roedd wedi cael ei feirniadu cymaint fel y bu’n rhaid iddo yn y diwedd dynnu ei wlad allan o’r Gymanwlad.[8]
Boicotio ym myd chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mewn gwledydd fel Prydain gwelwyd mudiadau gwrth-apartheid yn rhoi pwysau ar y llywodraeth i greu sancsiynau economaidd a boicotio chwaraeon yn erbyn De Affrica.
Yn 1966 roedd Verwoerd wedi gwrthod gadael i Maoris a oedd yn chwarae rygbi i dîm Seland Newydd fynd i Dde Affrica. Ddwy flynedd yn ddiweddarach gwrthodwyd gadael i gricedwr o hil gymysg o Dde Affrica a oedd yn byw ym Mhrydain, Basil D’Oliveira, fynd ar daith i Dde Affrica gyda thîm criced Lloegr. Gan fod pobl wyn De Affrica yn hoff iawn o chwaraeon roedd yn gas ganddyn nhw'r boicotio chwaraeon. Penderfynodd nifer o wledydd weithredu felly yn erbyn llywodraeth De Affrica drwy beidio â threfnu teithiau chwaraeon i’r wlad honno, gan geisio ei hynysu. Dyma rai o’r prif foicotiau:
- 1959 – tîm criced India’r Gorllewin yn gwrthod mynd ar daith i Dde Affrica
- 1964 – gwahardd De Affrica o’r gemau Olympaidd
- 1969 – protestiadau yn erbyn taith y Springboks i Brydain
- 1970 – Clwb Criced Marylebone yn canslo taith tîm criced De Affrica i Brydain
- 1977 – Cytundeb Gleneagles: gwledydd y Gymanwlad yn gwahardd cysylltiadau chwaraeon o unrhyw fath â De Affrica.[8]
Y Cenhedloedd Unedig a Sancsiynau economaidd
[golygu | golygu cod]Mudiad rhyngwladol yw’r Cenhedloedd Unedig (CU) a gafodd ei sefydlu ar ôl yr Ail Ryfel Byd i geisio sicrhau hawliau dynol i bobl ar hyd a lled y byd. Mae Siarter y Cenhedloedd Unedig yn dweud ei fod yn fudiad sy’n gweithio i ‘annog parch at hawliau dynol, a rhyddid i bob unigolyn’.
Rhwng 1946 a 1980 pasiodd y Cenhedloedd Unedig 158 o benderfyniadau a oedd yn ymwneud â De Affrica. Ar sawl achlysur gwelwyd y CU yn condemnio apartheid, fel yn 1960 ar ôl cyflafan Sharpeville.
Serch hynny, un o’r ‘arfau’ a oedd yn cael eu defnyddio gan y CU i wrthwynebu llywodraethau fel un De Affrica oedd sancsiynau economaidd, sef annog y gwledydd a oedd yn aelodau o’r CU i wrthod masnachu gyda De Affrica. Ond nid oedd pob gwlad o’r CU yn cefnogi sancsiynau e.e. wnaeth llywodraeth Prydain ddim cytuno tan 1964 i roi’r gorau i werthu arfau i’r wlad.
Yn anffodus doedd sancsiynau cynnar y CU ddim yn llwyddiannus oherwydd roedd economi De Affrica yn un gref iawn. De Affrica oedd y wlad gyfoethocaf yn ne cyfandir Affrica, ac roedd fwy neu lai yn wlad hunangynhaliol. Roedd economi gwledydd eraill cyfagos yn dibynnu’n drwm ar economi De Affrica. Roedd hi’n anodd perswadio gwledydd tlawd ar y cyfandir i roi’r gorau i fasnachu gyda De Affrica.
Er bod gwledydd fel Prydain ac UDA yn dal yn awyddus i fasnachu gyda De Affrica, pan gynigiodd y CU eu bod yn cyflwyno sancsiynau ar nwyddau i’r wlad, gwrthodwyd hyn gan America a Phrydain. Yn 1971, roedd 70% o’r arian tramor a oedd yn cael ei fuddsoddi yn Ne Affrica yn dod o Brydain ac roedd cwmnïau Prydain yn awyddus i barhau i fuddsoddi yn y wlad.
Un mudiad a ymdrechodd yn galed i gyflwyno sancsiynau economaidd yn erbyn De Affrica oedd y Mudiad Undod Affricanaidd (OAU: Organisation of African Unity). Grŵp o wledydd yn Affrica a oedd yn cael eu harwain gan bobl ddu oedd hwn, a oedd yn ceisio rhoi pwysau ar y CU i gyflwyno sancsiynau yn erbyn llywodraeth De Affrica. Daeth y rhain at ei gilydd yn 1963 ym mhrif ddinas Zambia (Lusaka) a phasio Maniffesto Lusaka. Serch hynny, methodd ymdrechion gwledydd i ddefnyddio’r CU i gyflwyno sancsiynau yn erbyn De Affrica. Protestiodd y CU yn erbyn apartheid, ond heb lwyddo i newid meddyliau llywodraeth De Affrica, nac i berswadio eu haelodau i gyflwyno sancsiynau economaidd.
Y Ffrynt Democrataidd Unedig
[golygu | golygu cod]Erbyn y 1980au, y mudiad a gafodd y dylanwad mwyaf yn rhyngwladol ac yn Ne Affrica oedd y Ffrynt Democrataidd Unedig (UDF: United Democratic Front). Roedd gan y mudiad dros ddwy filiwn o aelodau a’i slogan oedd ‘UDF unites, apartheid divides’. Un o arweinwyr mwyaf dylanwadol y mudiad oedd y gweinidog, Alan Boesak. Roedd y mudiad yn dweud wrth ei ddilynwyr bod angen iddyn nhw weithredu er mwyn ei gwneud hi’n amhosibl llywodraethu De Affrica.
Mudiad Pobl De Orllewin Affrica
[golygu | golygu cod]Roedd cryn wrthwynebiad i bresenoldeb De Affrica yn Namibia ac roedd pobl Namibia am gael gwared ar orthrwm lluoedd tramor. O ganlyniad, sefydlwyd Mudiad Pobl De Orllewin Affrica (SWAPO: South West African People’s Organisation). Yn wreiddiol, roedd y mudiad yn blaid wleidyddol ond yn fuan datblygodd yn fudiad a oedd yn mabwysiadu dulliau gerila i ennill annibyniaeth. Yn 1971 daeth y Cenhedloedd Unedig i’r casgliad nad oedd hawl cyfreithiol gan Dde Affrica i fod yn Namibia, ac yn 1973 cafodd SWAPO ei gydnabod yn wir gynrychiolydd Namibia. Ond parhaodd De Affrica i anwybyddu cyfarwyddyd y Cenhedloedd Unedig. Diolch i fwy a mwy o bwysau rhyngwladol drwy’r 1980au, cafodd Namibia gynnal etholiadau ar gyfer cynulliad i’r wlad yn 1989 ac ar 21 Mawrth 1990 enillodd y wlad ei hannibyniaeth. Namibia oedd y drefedigaeth olaf yn Affrica i ddod yn annibynnol.[8]
Newidiadau i’r system apartheid
[golygu | golygu cod]Realaeth Newydd Botha
[golygu | golygu cod]Yn 1978 daeth P. W. Botha yn Brif Weinidog. Roedd Botha yn sylweddoli nad oedd apartheid yn gweithio. Sylweddolai hefyd bod yn rhaid i Dde Affrica newid ac anwybyddu rhai o’r deddfau apartheid os oedd y dyn gwyn yn mynd i aros mewn grym. Er enghraifft, roedd angen i bobl ddu weithio yn y trefi oherwydd yno roedd y prif ddiwydiannau, ond roedd deddfau apartheid yn atal pobl ddu rhag symud i’r trefi i fyw. Yn yr un modd roedd angen gweithwyr du medrus ar ddiwydiannau De Affrica, ond roedd deddfau addysg apartheid yn atal plant du rhag cael addysg dda. Yn 1978 cafodd rhai myfyrwyr du hawl i fynd i brifysgol Afrikaner yn Stellenbosch. Felly datblygodd llywodraeth Botha bolisi newydd at bobl ddu: ar y naill law, roedd yn defnyddio mwy o rym i geisio rheoli trais gan bobl ddu, ond ar y llaw arall roedd am weld apartheid yn newid yn araf. Roedd am weld polisi mwy ‘realistig’ tuag at apartheid. Serch hynny, doedd gan Botha ddim bwriad i roi grym i bobl ddu ac nid oedd am weld apartheid yn dod i ben. Roedd yn erbyn y syniad o roi pleidlais i bawb.
Yn 1979 daeth hi’n gyfreithlon i fod yn aelod o undeb Llafur. Roedd Botha yn gobeithio y byddai’r llywodraeth yn medru rheoli’r undebau llafur, ond roedd yn anghywir. Yn 1984 trefnodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr streic fawr yn Ne Affrica i hawlio mwy o gyflog i’w aelodau. Dechreuodd y llywodraeth hefyd ddiwygio rhai elfennau eraill o apartheid:
- Daeth rhai lleoedd cyhoeddus, fel sinemâu, yn agored i bawb
- Yn 1981 daeth traethau yn y Cape Province yn rhai cymysg
- Yn 1985 cafodd pobl ddu hawl i fynd i rai o’r un gwestai a thai bwyta â phobl wyn.
Serch hynny, roedd pobl ddu a phobl wyn yn cael eu gwahanu yn y rhan fwyaf o adnoddau cyhoeddus, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, pyllau nofio a thoiledau cyhoeddus.
Cafwyd newid gwleidyddol yn Ne Affrica hefyd. Yn 1983 cafodd y wlad gyfansoddiad newydd, a rhoddwyd pleidlais i Indiaid ac i’r bobl gymysg eu hil. Ond ni chafodd pobl ddu bleidlais serch hynny, ac roedd yn rhaid i’r grwpiau eraill gyfarfod ar wahân i bobl wyn. Gan y bobl wyn roedd y grym i basio deddfau pwysig. Roedd y cyfansoddiad newydd yn sicrhau bod y grym yn aros yn nwylo’r bobl wyn: dim ond 20% o’r Indiaid a’r bobl gymysg eu hil yn Ne Affrica a bleidleisiodd yn yr etholiadau cyntaf yn 1984.
Newidiadau F.W. de Klerk: 1989-1991
[golygu | golygu cod]Pan gafodd Botha strôc ym mis Ionawr 1989, roedd yn amlwg na fyddai'n medru parhau i reoli’r wlad. Y dyn a ddaeth yn ei le oedd F. W. de Klerk. Roedd de Klerk yn dod o deulu gwleidyddol ceidwadol iawn ac roedd disgwyl y byddai’n parhau i weithredu polisïau
apartheid llym. Pan wnaeth de Klerk ei araith wleidyddol fawr gyntaf fel Arlywydd, cafodd llawer iawn o bobl eu synnu. Yn lle bod yn llym, dywedodd bod angen i’r wlad newid cyfeiriad yn llwyr. Yn yr etholiad cyffredinol ym mis Medi 1989 addawodd de Klerk y byddai’n newid apartheid. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach cafwyd gorymdaith wrth-apartheid yn Cape Town, ac ni wnaeth de Klerk unrhyw ymdrech i’w gwahardd.
Aeth de Klerk ati i gyflwyno newidiadau eraill. Yn yr hydref cafodd Walter Sisulu ei ryddhau o’r carchar a dechreuodd de Klerk gael gwared ar apartheid. Agorwyd traethau i bawb, a chafwyd datganiad gan y llywodraeth ei bod am ddileu’r Ddeddf Neilltuo Cyfleusterau ar Wahân (1953) a oedd yn rhoi rhai adnoddau i bobl ddu, ac eraill i bobl wyn.
Ym mis Rhagfyr 1989 cafodd Mandela a de Klerk gyfarfod. Er bod Mandela yn dal i fod yn y carchar, gofynnodd i de Klerk godi’r gwaharddiad ar yr ANC. Cytunwyd ar hynny ac ym mis Chwefror 1990 dywedodd de Klerk wrth senedd De Affrica:
- Ei fod am ddod â’r gwaharddiad ar yr ANC, y PAC a 30 o fudiadau eraill i ben. O hyn ymlaen, fyddai hi ddim yn erbyn y gyfraith i fod yn aelod o’r ANC
- Y byddai’n rhyddhau carcharorion gwleidyddol a oedd heb gyflawni troseddau treisgar
- Y byddai’n dileu sensoriaeth o’r wasg
- Byddai’r gosb eithaf yn dod i ben
- Y byddai’n rhyddhau Mandela yn ddiamod.
Dywedodd de Klerk wrth y Senedd ‘bod yr amser i drafod wedi cyrraedd’. Er bod ei newidiadau wedi eu derbyn, roedd rhai gwleidyddion gwyn yn ei feirniadu wrth iddo sôn am ryddhau Mandela a thrafod â’r ANC.
Cafodd Nelson Mandela ei ryddhau ar 11 Chwefror 1990 o garchar Victor Verster, Cape Town. Roedd yn ddyn rhydd am y tro cyntaf ers 27 o flynyddoedd. Roedd torf fawr wedi ymgasglu y tu allan i’r carchar a miliynau o bobl yn gwylio’r digwyddiad ar y teledu.[8]
Diwedd y System Apartheid
[golygu | golygu cod]Yn y cyfnod rhwng 1991 a 1994 daeth rheolaeth y dyn gwyn i ben yn Ne Affrica yn raddol, wrth i de Klerk gyflwyno mwy a mwy o newidiadau.
Ym mis Chwefror 1991 cafwyd datganiad gan F. W. de Klerk ei fod am gael gwared ar weddill y cyfreithiau apartheid. Ym mis Rhagfyr 1991 cafodd arweinwyr yr ANC gyfarfod ag aelodau’r llywodraeth mewn cynhadledd i drafod dyfodol De Affrica. Roedd gan y gynhadledd hon – y Confensiwn ar gyfer De Affrica Ddemocrataidd (CODESA: Convention for a democratic South Africa) – nifer o broblemau i’w datrys. Rôl y confensiwn oedd trefnu cyfansoddiad newydd i’r wlad. Roedd nifer o wrthwynebwyr ymysg y rhai a oedd yn trafod, ac ar sawl achlysur bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r trafodaethau oherwydd y trais cynyddol a oedd yn digwydd yn Ne Affrica.
Erbyn 1993 roedd yr ANC a’r llywodraeth wedi cytuno y
- Byddai etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar 27 Ebrill 1994
- Byddai pawb dros 18 oed yn Ne Affrica yn cael pleidlais
- Byddai 400 o aelodau seneddol yn cael eu hethol
- Byddai’r aelodau seneddol hyn wedyn yn dewis arlywydd
Ond, roedd hi’n amlwg hefyd fod de Klerk wedi cael ei ffordd i raddau, oherwydd
- Byddai pob plaid a oedd yn cael mwy nag 80 o seddi (aelodau seneddol) yn cael dirprwy arlywydd
- Byddai pob plaid oedd yn cael dros 5% o’r bleidlais yn cael ei chynrychioli yn y llywodraeth
- Byddai’r ddau bwynt uchod yn gweithredu am bum mlynedd, i sicrhau bod y llywodraeth newydd yn uno, ac nid yn rhannu’r wlad.
Doedd pawb ddim yn hapus â’r drefn newydd, serch hynny. Gadawodd y Pennaeth Buthelezi y trafodaethau, gan deimlo bod de Klerk a’r llywodraeth wyn wedi ei fradychu. Roedd Buthelezi yn credu na ddylai ei ardal ef, sef KwaZulu-Natal, fod yn rhan o’r De Affrica newydd, ac roedd eisiau gwlad hunanlywodraethol i’r Zulus.
Roedd eithafwyr gwyn hefyd yn anfodlon. Pan oedd yn prynu papur newydd, cafodd aelod blaenllaw o’r ANC, Chris Hani, ei saethu’n farw gan aelod o’r AWB. Ymosododd pobl wyn o’r AWB ar bobl ddu gyda bomiau llaw wrth iddyn nhw addoli mewn capel, gan ladd deuddeg o bobl.
Er yr holl drais a phrotestio yn eu herbyn, llwyddwyd i gynnal etholiadau rhwng 26 a 29 Ebrill, 1994. Am y tro cyntaf erioed cafodd 16 miliwn o bobl ddu hawl i bleidleisio. Gwelwyd golygfeydd rhyfeddol, gyda phobl yn ciwio’n dawel am ddau ddiwrnod yn aml i gael
pleidleisio. Roedd y papur pleidleisio yn cynnwys 19 plaid wahanol. Gan nad oedd hanner y bobl ddu yn medru darllen rhoddwyd logo’r blaid a llun ei harweinydd ochr yn ochr ag enw’r ymgeisydd. Mewn ardaloedd gwledig gwelwyd pobl yn cerdded dros 60 milltir i bleidleisio am y tro cyntaf.
Dyma ganlyniad yr etholiadau democrataidd cyntaf yn Ne Affrica:
- Cyngres Genedlaethol Affrica (ANC) 62%
- Y Blaid Genedlaethol (de Klerk) 20%
- Plaid Rhyddid Inkhatha (y Pennaeth Buthelezi) 10%
Daeth Mandela yn arlywydd, de Klerk yn ddirprwy arlywydd, a chafodd y Pennaeth Buthelezi swydd yn y llywodraeth. Roedd y canlyniad yn ymddangos fel petai’n plesio pawb, gyda phawb yn teimlo eu bod wedi ennill rhywbeth o’r etholiad. Serch hynny, gadawodd y Pennaeth Buthelezi y llywodraeth ym mis Mai 1995.
Er bod y llywodraeth yn ymddangos yn unedig, doedd hi ddim mewn gwirionedd. Doedd Inkatha ddim yn dymuno chwarae rôl lawn yn nyfodol De Affrica, na’r bobl wyn eithafol, chwaith. Roedd yn rhaid i Mandela geisio cadw cefnogaeth rhai o gefnogwyr comiwnyddol yr ANC a oedd am weld cyfoeth yn cael ei ddosbarthu, ac ar yr un pryd roedd yn rhaid iddo gynnal cefnogaeth pobl wyn gyfoethog. Serch hynny, roedd rhai arwyddion gobeithiol.
Roedd y rhan fwyaf o’r boblogaeth am weld y trais yn dod i ben, ac yn dymuno gweld y llywodraeth newydd yn llwyddo. Roedd Mandela wedi ennill parch y rhan fwyaf o’r bobl ddu a’r bobl wyn.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mayne, Alan J. (Alan James), 1927- (1999). From politics past to politics future : an integrated analysis of current and emergent paradigms. Westport, Conn.: Praeger. ISBN 0-275-96151-6. OCLC 39732997.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Cock, Jacklyn; Nathan, Laurie (1989). War and Society: The Militarisation of South Africa (yn Saesneg). New Africa Books. ISBN 978-0-86486-115-3.
- ↑ Breckenridge, Keith,. Biometric state : the global politics of identification and surveillance in South Africa, 1850 to the present. New York. tt. 70–74. ISBN 978-1-107-07784-3. OCLC 881387739.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Ottaway, Marina. (1993). South Africa : the struggle for a new order. Washington, D.C.: Brookings Institution. tt. 23–26. ISBN 0-8157-6716-1. OCLC 27266917.
- ↑ Glaser, Daryl. (2001). Politics and society in South Africa : a critical introduction. London: Sage Publications. tt. 9–12. ISBN 978-1-4462-6427-0. OCLC 607789605.
- ↑ Bickford-Smith, Vivian. (1995). Ethnic pride and racial prejudice in Victorian Cape Town : group identity and social practice, 1875-1902. Cambridge: Cambridge University Press. tt. 190–2. ISBN 0-521-47203-2. OCLC 30354949.
- ↑ Dyzenhaus, David. (1991). Hard cases in wicked legal systems : South African law in the perspective of legal philosophy. Oxford: Clarendon Press. tt. 35–36. ISBN 978-0-19-825292-4. OCLC 22381755.
- ↑ 8.00 8.01 8.02 8.03 8.04 8.05 8.06 8.07 8.08 8.09 8.10 8.11 8.12 "Newidiadau yn Ne Africa - 1948 -1994" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 23 Medi 2020.
- ↑ The Routledge companion to race and ethnicity. Caliendo, Stephen M., 1971-, McIlwain, Charlton D., 1971-. London: Routledge. 2011. ISBN 978-0-203-83686-6. OCLC 701718175.CS1 maint: others (link)
- ↑ 10.0 10.1 10.2 "South Africa. Overcoming Apartheid, Building Democracy". Overcomingapartheid.msu.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-14. Cyrchwyd 23 Medi 2020.
- ↑ The Routledge companion to race and ethnicity. Caliendo, Stephen M., 1971-, McIlwain, Charlton D., 1971-. London: Routledge. 2011. tt. 103–5. ISBN 978-0-203-83686-6. OCLC 701718175.CS1 maint: others (link)
- ↑ Crompton, Samuel Etinde (2007). Desmond Tutu : fighting apartheid. Internet Archive. New York : Chelsea House Publishers. ISBN 978-0-7910-9221-7.
- ↑ 13.0 13.1 Lodge, Tom (2011). Sharpeville : an apartheid massacre and its consequences. Internet Archive. Oxford ; New York : Oxford University Press. ISBN 978-0-19-280185-2.
- ↑ Lodge, Tom (1983). Black Politics in South Africa Since 1945. New York: Longman.
- ↑ Pandey, Satish Chandra. (2006). International terrorism and the contemporary world (arg. 1st ed). New Delhi: Sarup & Sons. tt. 197–199. ISBN 81-7625-638-2. OCLC 225502634.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ Thomas, Scott (Scott M.) (1996). The diplomacy of liberation : the foreign relations of the African National Congress since 1960. London: Tauris Academic Studies. tt. 202–210. ISBN 1-85043-993-1. OCLC 34053250.
- ↑ "1990: De Klerk dismantles apartheid in South Africa" (yn Saesneg). 1990-02-02. Cyrchwyd 2020-09-23.
- ↑ Mitchell, Thomas G., 1957- (2000). Native vs. settler : ethnic conflict in Israel/Palestine, Northern Ireland, and South Africa. Westport, Conn.: Greenwood Press. t. 8. ISBN 0-313-00139-1. OCLC 50321353.CS1 maint: multiple names: authors list (link)