Walt Whitman Rostow
Walt Whitman Rostow | |
---|---|
Ganwyd | 7 Hydref 1916 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 13 Chwefror 2003 Austin |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | economegydd, academydd, gwleidydd, llenor, hanesydd, gwyddonydd gwleidyddol |
Swydd | Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol, Counselor of the United States Department of State, Director of Policy Planning, Deputy National Security Advisor |
Cyflogwr |
|
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Priod | Elspeth Rostow |
Gwobr/au | OBE, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Ysgoloriaethau Rhodes, Doethor Anrhydeddus Brifysgol Miami |
Economegydd ac hanesydd economaidd Americanaidd oedd Walt Whitman Rostow (7 Hydref 1916 – 13 Chwefror 2003)[1] a wasanaethodd fel Cynorthwy-ydd Arbennig dros Faterion Diogelwch Cenedlaethol dan yr Arlywydd Lyndon B. Johnson.
Ganwyd Rostow yn Ninas Efrog Newydd i deulu Iddewig-Rwsiaidd. Roedd yn ysgolhaig Rhodes ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yn yr Office of Strategic Services (OSS), y rhagflaenydd i'r CIA. Addysgodd mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau gan gynnwys y Massachusetts Institute of Technology. Roedd yn wrth-gomiwnydd cryf ac ysgrifennodd y llyfr The Stages of Economic Growth: A Non-Communist Manifesto (1960) gan ddadlau yr oedd angen i ddarparu cyfalaf i wledydd tlawd i'w hannog i droi at gyfalafiaeth a democratiaeth ac nid comiwnyddiaeth.[2]
Bathodd Rostow arwyddair ymgyrch arlywyddol John F. Kennedy ym 1960: Let's Get This Country Moving Again,[3] ac mae'n bosib bathodd hefyd y term New Frontier mewn araith Kennedy pan enillodd yr etholiad.[4] Penododd yr Arlywydd Kennedy Rostow yn Ddirprwy Gynorthwy-ydd Arbennig dros Faterion Diogelwch Cenedlaethol ym 1961. Roedd Rostow yn gadeirydd cyngor cynllunio polisi yr Adran Dramor o 1961 hyd 1966, ac o 1966 hyd i'r Arlywydd Johnson adael y Tŷ Gwyn yn Ionawr 1969 roedd Rostow yn Gynorthwy-ydd Arbennig dros Faterion Diogelwch Cenedlaethol. Roedd Rostow yn un o gefnogwyr mwyaf brwd yng ngweinyddiaethau Kennedy a Johnson dros rôl yr Unol Daleithiau yn Rhyfel Fietnam, gan gredu yr oedd yn hanfodol er mwyn sicrhau moderneiddio economaidd yn Ne Ddwyrain Asia.[2][5] Yn Rhagfyr 1963 lluniodd "osodiad Rostow", gan ddadlau bod angen dwysháu'r rhyfel trwy daro cefnogaeth allanol herwfilwyr y Fiet Cong (sef lluoedd Gogledd Fietnam) a niweidio'r gelyn yn seicolegol.[3]
Ar ôl gadael y llywodraeth daeth Rostow yn athro economi wleidyddol yn Ysgol Materion Cyhoeddus Lyndon B. Johnson ym Mhrifysgol Texas ac ysgrifennod mwy na 30 o lyfrau.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Hodgson, Godfrey (17 Chwefror 2003). Obituary: Walt Rostow. The Guardian. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Walt Rostow. The Economist (20 Chwefror 2003). Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Purdum, Todd S. (15 Chwefror 2003). Walt Rostow, Adviser to Kennedy and Johnson, Dies at 86. The New York Times. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
- ↑ (Saesneg) Cornwell, Rupert (17 Chwefror 2003). Walt Rostow: Vietnam War super-hawk advising Presidents Kennedy and Johnson. The Independent. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
- ↑ (Saesneg) Walt Whitman Rostow. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Milne, David. America's Rasputin: Walt Rostow and the Vietnam War (Efrog Newydd, Hill and Wang, 2008).
Swyddi gwleidyddol | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Mac Bundy |
Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol 1966 – 1969 |
Olynydd: Henry Kissinger |
- Genedigaethau 1916
- Marwolaethau 2003
- Americanwyr Rwsiaidd
- Cynghorwyr Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau
- Economegwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Economegwyr Iddewig o'r Unol Daleithiau
- Gwrth-gomiwnyddion o'r Unol Daleithiau
- Hanesyddion economaidd o'r Unol Daleithiau
- Pobl o Ddinas Efrog Newydd
- Pobl Rhyfel Fietnam