Meicrohinsawdd
Gwedd
Math | cyflwr atmosfferig, Q124326543 |
---|
Meicrohinsawdd yw hinsawdd lleol ardal neu randir neilltuol.
Fe fydd hinsawdd man heulog, man cysgodol neu man dinoeth yn wahanol i hinsawdd y lleoedd o amgylch. Gelwir yr hinsoddau hyn yn feicrohinsoddau.
Gellir creu meicrohinsawdd mewn gardd wrth blannu gwrych, adeiladu mur neu tŷ gwydr. Mae hi'n draddodiad yn y Byd Arabaidd i adeiladu tŷ o amgylch perimedr y tir, fel bod yr ardd yn y canol. Fe fydd hwn yn creu meicrohinsawdd ddymunol yn yr ardd.