Albert Evans-Jones
Albert Evans-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ebrill 1895 Pwllheli |
Bu farw | 26 Ionawr 1970 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Gwobr/au | CBE, Marchog Faglor |
Bardd, dramodydd ac eisteddfodwr o fri oedd Albert Evans-Jones, sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Cynan (14 Ebrill 1895 – 26 Ionawr 1970).
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd Cynan ei eni ym Mhwllheli, yn fab i Richard Albert Jones a Hannah Jane (née Evans) roedd ei dad yn berchennog bwyty yn y dre. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, lle graddiodd yn 1916[1]
Rhyfel Byd Cyntaf
[golygu | golygu cod]Ar ôl graddio ymunodd Cynan â Chwmni Cymreig y Corfflu Meddygol gan wasanaethu yn Salonica a Ffrainc, yn wreiddiol fel dyn ambiwlans ac yna fel caplan y cwmni.[2] Cafodd ei brofiadau o ryfel effaith dwys ar ei ganu, i'r fath raddau fod Alan Llwyd yn honni mai Cynan, nid Hedd Wyn yw prif fardd rhyfel Cymru o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Canodd Hedd Wyn ei gerddi sydd yn ymwneud â'r rhyfel cyn iddo ymrestru, a bu farw yn y gyflafan cyn iddo gael cyfle i ganu am ei brofiadau fel milwr, ond gan Gynan y ceir y disgrifiadau mwyaf cignoeth o erchyllterau'r Rhyfel, ac effaith rhyfela ar gorff yn ogystal ag ysbryd dyn.[3]
O Dduw, a rhaid im gofio sawr
Y fan lle rhedai'r llygod mawr -
A bysedd glas y pethau mud
A glic eu gynnau bron i gyd?
Gyrfa ar ôl y Rhyfel
[golygu | golygu cod]Wedi dod o'r fyddin aeth Cynan i Goleg y Bala i hyfforddi ar gyfer weinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd. Ordeiniwyd ef ym Mhenmaenmawr Sir Gaernarfon ym 1920 lle bu'n gwasanaethu fel gweinidog hyd 1931. Rhoddodd y gorau i'w alwad ym 1931 a chafodd ei benodi'n diwtor yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru yn arbenigo mewn Drama a Llenyddiaeth Cymru. Er iddo roi'r gorau i'r weinidogaeth parhaodd Cynan i bregethu yn rheolaidd, ac roedd yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd ym mhulpudau anghydffurfiol Cymru.
Trwy gydol ei gyfnod yn gweithio yn y Brifysgol bu Cynan yn byw ym Mhorthaethwy Sir Fôn, ond yn ei gerdd fwyaf poblogaidd mae o'n mynegi dymuniad i ymddeol i Aberdaron:[4]
Pan fwyf yn hen a pharchus
Ac arian yn fy nghod,
A phob beirniadaeth drosodd
A phawb yn canu 'nghlod
Mi brynaf fwthyn unig
Heb ddim o flaen y ddôr.
Ond creigiau Aberdaron
A thonnau Gwyllt y Môr
Byd y Ddrama
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â bod yn un o feirdd a llenorion pwysicaf Cymru ei gyfnod, gwnaed cyfraniad enfawr i fyd y ddrama gan Cynan hefyd. Ysgrifennodd dwy ddrama hir: Hywel Harris a enillodd prif wobr yr Eisteddfod ar gyfer drama ym 1931. Ym 1957 fe'i comisiynwyd i ysgrifennu drama ar gyfer ei berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol sef Absalom Fy Mab. Addasodd ddwy ddrama o'r Saesneg, Lili'r Grog ( John Masefield ), a Hen ŵr y mynydd ( Norman Nicholson ), a berfformiwyd gyntaf ar daith gan gwmni'r Genhinen ym 1949, a Cynan ei hun yn gyfarwyddwr.
Sensor
[golygu | golygu cod]Ym 1931 fe'i penodwyd yn ddarllenydd dramâu Cymraeg ar ran yr Arglwydd Siambrlen er mwyn sicrhau bod dramâu Cymraeg yn gadw at ofynion y deddfau sensoriaeth, parhaodd yn y swydd nes diddymu'r deddfau sensoriaeth ym 1968.[5] Roedd yn cael ei ystyried yn sensor rhyddfrydol, er enghraifft fe wnaeth ganiatáu perfformio drama James Kitchener Davies Cwm y Glo, er iddo gael ei feirniadu am fod mor fasweddus fel na ddylid byth mo'i pherfformio pan enillodd wobr drama Eisteddfod Castell Nedd ym 1934.[6]
Yn ystod cyfnod Cynan fel Sensor, cyhoeddodd Cylchgrawn Lol, yn rhifyn Eisteddfod y Bala 1967, llun o ferch bronnoeth gyda'r geiriau "Bu Cynan Yma" mewn baner dros ei bronnau. Roedd yn jôc fwys: a oedd Cynan wedi sensro'r llun neu wedi bod "yno" yn ymyrryd a bronnau'r ferch? Gan nad oedd naill na'r llall o ddarlleniadau'r mwys yn wir wnaeth Cynan fygwth mynd i gyfraith yn erbyn y cyhoeddwyr am enllib. Setlwyd yr achos gan Robyn Léwis ar ran y cyhoeddwyr trwy gytundeb i roi iawndal i Cynan. Achos a sefydlodd Lol fel un o brif gyhoeddiadau sydd ar werth yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers hynny.[7]. Effaith Cynan yn hŷn o lawer nag Effaith Streisand !
Radio a theledu
[golygu | golygu cod]Fe wnaeth Cynan lawer o ymddangosiadau ar y radio a'r teledu ac ef oedd testun y rhaglen deledu lliw a darlledwyd cyntaf yn yr Iaith Cymraeg Llanc o Lŷn.[8]
Yr Eisteddfod Genedlaethol
[golygu | golygu cod]Mae Cynan yn cael ei gofio yn bennaf am ei gyfraniad enfawr i'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n Archdderwydd ddwywaith, yr unig berson i gael ei ethol i'r swydd am ail dymor. Ei ddau dymor oedd o 1950 hyd 1954 ac o 1963 hyd 1966. Roedd yn Gofiadur yr Orsedd yn 1935, ac yn gyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1937. Ef oedd yr Archdderwydd cyntaf i dderbyn yn gyhoeddus mai dyfais Iolo Morgannwg oedd yr orsedd ac nad oedd ganddo unrhyw gysylltiadau â derwyddiaeth hynafol. Drwy wneud hyn fe leihaodd y rhwyg a oedd yn bodoli rhwng yr Eisteddfod a rhai yn y byd eglwysig ac academaidd.
Cynan oedd yn gyfrifol am gynllunio seremonïau modern Coroni a Chadeirio'r Bardd yn yr Eisteddfod fel y maent yn cael eu perfformio heddiw, gan greu seremonïau, a oedd, yn ei dyb ef yn adlewyrchu ysbryd y genedl.
Enillodd y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921 gyda'r gerdd "Mab y Bwthyn", ac eilwaith yn yr Wyddgrug 1923 gyda "Yr Ynys Unig". Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pont-y-pwl 1924 am ei gerdd "I'r Duw nid Adwaenir", ond nid awdl ar y pedwar mesur ar hugain traddodiadol ydoedd; yn hytrach, mesur y tri-thrawiad, sef mesur a ddyfeiswyd gan brydyddion y canu rhydd (1550 o leia).[9] Enillodd drydedd coron yn Eisteddfod Bangor yn 1931 am ei gerdd "Y Dyrfa" sydd yn trafod gêm rygbi.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Dyfarnwyd gradd D. Lit er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1961.
Dyfarnwyd iddo ryddfraint bwrdeistref Pwllheli ym 1963.
Cafodd y CBE ym 1949, a'i urddo'n farchog yn 1969 (Fel Syr Cynan Evans Jones yn hytrach na Syr Albert Evans Jones.)
Priodas Marwolaeth Claddedigaeth
[golygu | golygu cod]Bu Cynan yn briod ddwywaith: yn gyntaf i Ellen J. Jones o Bwllheli ym 1921 a chawsant un mab ac un ferch, bu Ellen farw yn 1962. Ym 1963 priododd Menna Meirion Jones o'r Fali, Ynys Môn.[10] Bu farw Cynan ar 26 Ionawr 1970 a chladdwyd ef ym mynwent Eglwys Sant Tysilio, Ynys Môn.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Cynan, Absalom Fy Mab (Lerpwl, 1957).
- Cynan (gol. y gyfres), Tegwyn Jones, Adlais o’r hen wrthryfel, (Llanrwst, 1999).
- J. T. Williams (deth.), Cynan gyda atgofion George M. Ll. Davies, Yr Ail Bistyll (Caernarfon, 1922).
- Cynan, ‘Ail Gafodd-o’, Lleufer, cyfrol 11, rhif 3 (Hydref 1955), tt. 107–118.
- Cynan, ‘Atgofion Cynan am Hedd Wyn’, Ford Gron, cyfrol 2, rhif 7 (Mai 1932), tt. 149, 170.
- Cynan, ‘Atgyfodi Twm Nant’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 1 (Haf 1968), tt. 31–33.
- Cynan, ‘Bwgan y farddoniaeth “anfoesol”’, Ford Gron, cyfrol 1, rhif 10 (Awst 1931), t. 11.
- Cynan, Caniadau Cynan (Llundain, 1927).
- Cynan, Cerddi Cynan (Lerpwl, 1959).
- Cynan, ‘Cydnabod’, Lleufer, cyfrol 12, rhif 3 (Hydref 1956), tt. 107–112.
- Cynan, Cynan: Llyfr lliwio i ddathlu canmlwyddiant geni un o brif feirdd Cymru (Pwllheli, 1995).
- Cynan, ‘Cynhyrchu Pasiant Cenedlaethol y Cadeirio a’r Coroni’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 3 (Haf 1969), tt. 11–14.
- Cynan, J. Williams Hughes, J. Ellis Williams, D. Tecwyn Evans, G. Hartwell Jones, ‘Y Ddrama a’r Pulpud’, Ford Gron, cyfrol 1, rhif 4 (Chwefror 1931), tt. 20 a 22.
- Cynan, ‘Y Ddrama yng Nghymru’, Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (1971), tt. 25–26.
- Cynan, ‘Dysgu Barddoni’, Lleufer, cyfrol 18, rhif 3 (Hydref 1962), tt. 107–114.
- Cynan, ‘Englyn clasur Gruffydd ap Siôn Phylip uwch cist ei dad’, Lleufer, cyfrol 20, rhif 2 (Haf 1964) tt. 71–72.
- Cynan, Ffarwel Weledig (Lerpwl, 1946).
- Cynan, Hywel Harris: Drama Bedair Act (Wrecsam, 1932).
- Cynan, John Huws Drws Nesa (Aberystwyth, 1950). [Cyfaddasiad o’r stori ‘Mr Sampson’ gan Charles Lee]
- Cynan, ‘Tir Ango’, Ford Gron, cyfrol 4, rhif 10 (Awst, 1934), tt. 237–240.
- Cynan, Lili’r Grog (Aberystwyth, 1936). [Cyfaddasiad o John Mansfield, ‘Good Friday’.]
- Cynan, Mr. Smart (Aberystwyth, 1950).
- Cynan, ‘O Berthynas i’r Eisteddfod’, Lleufer, cyfrol 7, rhif 4 (Gaeaf 1951), tt. 162–168.
- Cynan, Hen Ŵr y Mynydd (Llandybïe, 1949).
- Cynan, ‘Pan oeddwn i’n fachgen’, Lleufer, cyfrol 6, rhif 4 (Gaeaf 1950), tt. 161–168.
- Cynan, Pasiant y Newyddion Da (Caernarfon, 1929).
- Cynan, Y Sêr yn eu Graddau (Aberystwyth, 1950). [Drama un act]
- Cynan, ‘Stribedu Ffilm’, Lleufer, cyfrol 14, rhif 3 (Hydref 1958), tt. 129–30.
- Cynan, ‘Tad Beirdd Eryri: Dafydd Tomos (“Dafydd Ddu Eryri”) 1759–1822’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas Y Cymmrodorion (1969, Rhan 1)/Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1969, Part 1) (Llundain, 1970), tt. 7–23
- Cynan, Y Tannau Coll (Caernarfon, 1922).
- Cynan, Telyn y Nos (Caerdydd, 1921).
- Cynan, ‘Fel hyn rwy’n ei gweld hi’, Barddas, rhif 284 (Awst/Medi/Hydref, 2005), tt. 60–61.
- Cynan, ‘Y Goeden Eirin’, Lleufer, cyfrol 3, rhif 2 (Haf 1947), tt. 64–68.
- Thomas Parry, Hanes yr Eisteddfod, a Cynan, Eisteddfod Genedlaethol a’r Orsedd Heddiw, (Lerpwl, D.D). [1960au]
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- J. T. Jones, "Oedd Madam Gruffydd yn caru Hywel Harris?", Ford Gron, cyfrol 1, rhif 11 (Medi 1931), tt. 5–6
- Rhys Puw, "Perfformiad cyntaf Hywel Harris", Ford Gron, cyfrol 2, rhif 7 (Mai 1932), t. 153
- Gwyndaf, "Cynan a Gorsedd y Beirdd", Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 2–4
- Ernest Roberts, "Y Gweinyddwr", Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (ca. 1971), t. 5
- William Morris, "Y Cerddi Eisteddfodol", Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 7–9
- Huw Davies, "Yr Hogyn o Bwllheli", Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 10–11
- Alun Llywelyn-Williams, "Y Bardd", Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 12–14
- Richard Jones, "Yr Athro", Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 16–18
- Eric Wynne Roberts, "Yr actor a’r cynhyrchydd", Llwyfan (Bangor), cyfrol 5 ([ca. 1971]), tt. 22–23
- Bedwyr Lewis Jones, "Y Beirniad", Llwyfan, cyfrol 5 (ca. 1971), tt. 28–29 a 32
- Dafydd Owen, Cynan, Cyfres Writers of Wales (1979)
- Bedwyr Lewis Jones, Cynan: Y llanc o dref Pwllheli (Pwllheli, 1981)
- Ifor Rees (gol.), Bro a Bywyd: Syr Cynan Evans-Jones 1895-1970 (Cyhoeddiadau Barddas, 1982)
- J. T. Jones (John Tudur), "Cynan a’i waith", Taliesin, cyfrol 52 (1985), tt. 90–97
- Gilbert Ruddock, "Yr Ysgol Farddol", Barddas, rhif 110 (Mehefin, 1986), tt. 11–12
- Bedwyr Lewis Jones, "P’run oedd capel bach gwyngalchog Cynan?", Barddas, rhif 120 (Ebrill 1987), tt. 1–2
- Dafydd Owen, "Tair Cerdd Cynan (OBWV rhifau 290, 291, 292)", Barn, rhif 236 (Tachwedd 1991), tt. 23–24
- Gerwyn Wiliams, "Rhamant Realaidd Cynan", Taliesin, rhif 76 (Mawrth 1992), tt. 105–112
- Huw Williams, "Cerdd yn y cof: sôn, am gerdd ac athro arbennig", Lleufer Newydd 3 (1993), t. 24
- Wyn Hobson, "Un llinell, un prynhawn", Barddas, rhif 207/208, (Gorffennaf/Awst, 1994), tt. 39–43
- Robyn Lewis, "Cynan: 'un o hogia’r dre'", Barn, rhif 388 (Mai 1995), tt. 26–27
- Ifor Rees (gol.), Dŵr o Ffynnon Felin Bach: Cyfrol i Goffau Canmlwyddiant Geni Cynan (Dinbych, 1995)
- Alan Llwyd, "Golygyddol", Barddas, rhif 251, (Mawrth/Ebrill, 1999), tt. 4–12
- Selwyn Iolen (Selwyn Griffith), "Colofn yr Archdderwydd", Yr Enfys (Gwanwyn 2007), t. 25
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur ar-lein
- ↑ Breuddwyd Cymro Mewn Dillad Benthyg RR Williams Gwasg y Brython 1964
- ↑ Gwaedd y Bechgyn; Gol Alan Llwyd & Elwyn Edwards Cyhoeddiadau Barddas 1989
- ↑ Hoff Gerddi Cymru, Gol:Di-enw, Gwasg Gomer 2000
- ↑ Williams, Gerwyn (Hydref 2013). Y Sgets a Gadd ei Gwrthod, Rhifyn 609. Barn
- ↑ [1] Ail godi nyth cacwn
- ↑ Tipyn o Lol BBC Cymru Fyw adalwyd 5 Awst 2020
- ↑ Cynan
- ↑ Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf. 16, rh. 1, Haf 1969 CAROL AR Y MESUR TRI THRAWIAD GAN GWILYM PUE O'R PENRHYN (C.1618-C.1689) Buchedd Gwenn Frewu Santes (N.L.W. 4710, t. 317-323) adalwyd 24 Mai 2017.
- ↑ Parry, T., (1997). JONES, Syr CYNAN (ALBERT) EVANS (‘Cynan’; 1895 - 1970), bardd, dramodwr ac eisteddfodwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Awst 2020