Neidio i'r cynnwys

Derry

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:36, 16 Mawrth 2011 gan Luckas-bot (sgwrs | cyfraniadau)
Arfbais Derry
Delwedd:Derry mural.jpg
Murlun enwog ar gyrion "Derry Rydd", o gyfnod yr Helyntion.

Dinas yng Ngogledd Iwerddon yw Derry (Gwyddeleg: Doire neu Doire Cholm Chille) neu Londonderry. Mater dadleuol yw pa ffurf ar yr enw a ddefnyddir. Fel rheol, mae'r Unoliaethwyr yn galw'r ddinas yn "Londonderry" a chenedlaetholwyr yn ei galw'n "Derry".

Saif yr hen ddinas ar lan orllewinol Afon Foyle; mae'r ddinas erbyn hyn ar y ddwy lan. Roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 2001 yn 83,652, gyda 90,663 yn yr ardal ddinesig. Mae'n agos i Swydd Donegal a ffin Gweriniaeth Iwerddon. Yn draddodiadol, sefydlwyd y ddinas gan y sant Colum Cille. Y digwyddiadau enwocaf yn ei hanes yw Gwarchae Derry yn 1688 - 1689 a Bloody Sunday ar ddydd Sul, 30 Ionawr 1972, pan saethwyd 13 o brotestwyr hawliau sifil yn farw gan filwyr Prydeinig, gyda un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Canolfan Amelia Earhart
  • Eglwys Gadeiriol Sant Columb
  • Eglwys Gadeiriol Sant Eugene
  • Guildhall

Pobl o Derry

Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.