Sir Ddinbych (etholaeth seneddol)
Roedd Sir Ddinbych yn etholaeth seneddol i Dŷ'r Cyffredin yn Senedd y Deyrnas Unedig o 1542 hyd at 1885.
Hanes
[golygu | golygu cod]O dan y Deddfau Uno roedd gan bob Sir yng Nghymru (ac eithrio Sir Feirionnydd) yr hawl i ddanfon dau Aelod Seneddol i San Steffan, un ar gyfer y Sir ac un ar gyfer y Bwrdeistrefi. Etholaeth sirol oedd Sir Ddinbych.
Fel y rhan fwyaf o etholaethau Cymru ystyriwyd y sedd i fod o dan ddylanwad un teulu bonheddig, yn achos Sir Ddinbych Teulu Salusbury oedd yn cynrychioli'r sedd o'r cyfnod cynharaf. Pan ddaeth llinach teulu Salisbury Lleweni i ben aeth eu stadau a'u perchenogaeth ar etholaeth Sir Ddinbych yn eiddo i'r Wynniaid, gydag un o deulu Wynn o Wynnstay yn cynrychioli'r sedd bron yn ddi-dor o 1716 hyd 1885.
O dan Ddeddf Diwygio’r Senedd 1832 cafodd nifer aelodau'r sir ei gynyddu i ddau aelod.
Cafodd yr etholaeth ei ddiddymu o dan Ddeddf Ail-ddosbarthu Seddi 1885 ar gyfer etholiad seneddol 1885 pan holltwyd yr etholaeth yn ddwy sedd un aelod; Gorllewin Sir Ddinbych a Dwyrain Sir Ddinbych.
Ffiniau'r sedd oedd y cyfan o'r hen Sir Ddinbych (1283-1974).
Mae hanes cynnar cynrychiolaeth y sedd yn ddryslyd, gyda pheth anghytundeb yn y dogfennau Seneddol parthed pwy oedd yn cynrychioli'r Sir a phwy oedd cynrychiolydd y Fwrdeistref ac yn union pha John Salisbury oedd yr AS ar wahanol gyfnodau.
Mae'n debyg mae John Salusbury (bu farw tua 1548)[1] Siôn y Bodiau, mab ieuengaf Syr Thomas Salusbury oedd yr AS cyntaf. Bu John Salusbury, gŵr cyntaf Catrin o Ferain yn AS y sir, a'r Syr John Salisbury, a oedd yn barddoni yn Saesneg, hefyd. Ond mae gweithio allan dyddiau eu gwasanaeth, a gwahaniaethu rhyngddynt, o ran gwasanaeth Seneddol, bron yn amhosibl.[2]
Aelodau Seneddol hyd Ddeddf Diwygio 1832
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Aelod |
---|---|
1542 | John Salusbury[3] |
1545 | John Salusbury[3] |
1547 | John Salusbury[3] |
1553 (Maw) | Robert Puleston[3] |
1553 (Hyd) | John Salusbury [3] |
1554 (Ebr) | John Salusbury[3] |
1554 (Tach) | Syr John Salusbury [3] |
1555 | Edward Almer[3] |
1558 | Syr John Salusbury [3] |
1559 | John Salusbury[3] |
1562–1563 | Simon Thelwall[3] |
1571 | Robert Puleston[3] |
1572 | William Almer[3] |
1584 | Evan Lloyd[3] |
1586 | Robert Salesbury[3] |
1588–1589 | John Edwards / William Almer[3] |
1593 | Roger Puleston[3] |
1597 | John Lloyd[3] |
1601 | Syr John Salusbury[3] |
1604 | Peter Mutton |
1614 | Simon Thelwall |
1621 | Syr John Trevor |
1624 | Syr Eubulus Thelwall |
1625 | Thomas Myddelton |
1626 | Syr Eubulus Thelwall |
1628 | Syr Eubulus Thelwall |
1629–1640 | Dim Senedd |
1640 (Ebr) | Syr Thomas Salusbury |
1640 (Tach) | Syr Thomas Myddelton |
1653 | Dim aelod |
1654 | Simon Thelwell a John Carter |
1656 | John Carter a John Jones Lumley Thelwell |
1659 | John Carter |
1659 | Dim aelod |
1660 | Syr Thomas Myddelton |
1661 | Syr Thomas Myddelton, Barwnig 1af |
1664 | John Wynne |
1679 | Syr Thomas Myddelton, 2il Farwnig |
1681 | Syr John Trevor |
1685 | Syr Richard Myddelton, 3ydd Barwnig |
1716 | Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig |
1727 | Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig |
1741 | John Myddelton |
1742 | Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig |
1749 | Syr Lynch Cotton, 4ydd Barwnig |
1774 | Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig |
1789 | Robert Watkin Wynne |
1796 | Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig |
1832 | Cynyddu cynrychiolaeth i ddau aelod |
Aelodau Seneddol 1832-1885
[golygu | golygu cod]Etholiad | Aelod 1af | Plaid 1af | 2il Aelod | 2il Blaid | ||
---|---|---|---|---|---|---|
1832 | Syr Watkin Williams-Wynn | Ceidwadol | Robert Myddelton-Biddulph | Rhyddfrydol | ||
1835 | William Bagot | Ceidwadol | ||||
1840 | Hugh Cholmondeley | Ceidwadol | ||||
1841 | Syr Watkin Williams-Wynn | Ceidwadol | ||||
1852 | Robert Myddleton-Biddulph | Rhyddfrydol | ||||
1868 | George Osborne Morgan | Rhyddfrydol | ||||
1885 | Syr Herbert Williams-Wynn | Ceidwadol | ||||
1885 | Etholaeth yn cael ei ddiddymu o dan Ddeddf Ail-ddosbarthu Seddi 1885: gweler Gorllewin Sir Ddinbych a Dwyrain Sir Ddinbych |
Etholiadau
[golygu | golygu cod]Enwau mewn ysgrifen trwm wedi eu hethol
Etholiadau yn y 1830au
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1832: Sir Ddinbych
Nifer yr etholwyr 3,401 [4] | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Syr Watkin Williams-Wynn | 2,528 | 47.7 | ||
Rhyddfrydol | Robert Myddelton-Biddulph | 1,479 | 27.9 | ||
Ceidwadwyr | Lloyd Kenyon | 1,291 | 24.4 |
Etholiad cyffredinol 1835: Sir Ddinbych
Nifer yr etholwyr 3,395[4] | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Syr Watkin Williams-Wynn | 2,378 | 46.2 | ||
Ceidwadwyr | William Bagot | 1,512 | 29.4 | ||
Rhyddfrydol | Robert Myddelton-Biddulph | 1,256 | 24.4 | ||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd | ||||
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1837 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn a'r Anrhydeddus William Bagot eu hethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr.[4]
Etholiadau yn y 1840au
[golygu | golygu cod]Bu farw Syr Watkin ym 1840 a chafodd ei olynu gan ei nai Yr Anrhydeddus Hugh Cholmondeley ar ran y Ceidwadwyr yn ddiwrthwynebiad.
Ymddiswyddodd Cholmondeley ym 1841 a chafodd ei olynu gan ei gefnder Syr Watkin Williams-Wynn arall ar ran y Ceidwadwyr yn ddiwrthwynebiad.
Etholiad cyffredinol 1841 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn a'r Anrhydeddus William Bagot eu hethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr.
Etholiad cyffredinol 1847: Sir Ddinbych
Nifer yr etholwyr 3,939 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Syr Watkin Williams-Wynn | 2,055 | 41.3 | ||
Ceidwadwyr | William Bagot | 1,530 | 30.7 | ||
Rhyddfrydol | Robert Myddleton-Biddulph | 1,394 | 28.0 | ||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd | ||||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd |
Etholiadau yn y 1850au
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1852: Sir Ddinbych
Nifer yr etholwyr 3,901 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Syr Watkin Williams-Wynn | 2,135 | 40.5 | ||
Rhyddfrydol | Robert Myddleton-Biddulph | 1,611 | 29.0 | ||
Ceidwadwyr | William Bagot | 1,532 | 30.7 | ||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd | ||||
Rhyddfrydol yn disodli Ceidwadwyr | Gogwydd |
Etholiad cyffredinol 1857 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd Robert Myddleton-Biddulph ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr
Etholiad cyffredinol 1859 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd Robert Myddleton-Biddulph ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr
Etholiadau yn y 1860au
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1865 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd Robert Myddleton-Biddulph ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr
Etholiad cyffredinol 1868: Sir Ddinbych
Nifer yr etholwyr 7,623 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | Syr Watkin Williams-Wynn | 3,355 | 39.5 | ||
Rhyddfrydol | George Osborne Morgan | 2,720 | 32.0 | ||
Rhyddfrydol | Robert Myddleton-Biddulph | 2,412 | 28.5 | ||
Ceidwadwyr yn cadw | Gogwydd | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiadau (diwrthwynebiad) y 1870au a'r 1880au
[golygu | golygu cod]Ni fu etholiad cystadleuol yn Sir Ddinbych ar ôl un 1865.
Etholiad cyffredinol 1874 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd George Osborne Morgan ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr.
Etholiad cyffredinol 1880 Cafodd Syr Watkin Williams-Wynn ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr a chafodd George Osborne Morgan ei ethol yn ddiwrthwynebiad ar ran y Rhyddfrydwyr.
Bu Syr Watkin marw ym 1885 fe'i olynwyd ar 27 Mai 1885 gan Syr Herbert Lloyd Watkin Williams Wynn yn ddiwrthwynebiad ar ran y Ceidwadwyr. Cynhaliwyd etholiad cyffredinol ym mis Ebrill 1885, pan ddiddymwyd yr etholaeth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein; adalwyd 5 Mehefin 2014.
- ↑ SALUSBURY , SALISBURY , SALESBURY (TEULU), Llewenni a Bachygraig yn y Bywgraffiadur arlein adalwyd 27 Chwef 2014
- ↑ 3.00 3.01 3.02 3.03 3.04 3.05 3.06 3.07 3.08 3.09 3.10 3.11 3.12 3.13 3.14 3.15 3.16 3.17 3.18 "History of Parliament". The History of Parliament Trust 1964–2011. Cyrchwyd 2017-04-24.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Wales at Westminster James, Arnold J a Thomas John E Gwas Gomer 1981