Owen Badger
Enw llawn | Owen Badger | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 3 Tachwedd 1871 | ||
Man geni | Llanelli | ||
Dyddiad marw | 17 Mawrth 1939 | (67 oed)||
Lle marw | Llanelli | ||
Gyrfa rygbi'r gyngrair | |||
Safle | Olwr | ||
Clybiau proff. | |||
Blynydd | Clwb / tîm | Capiau | (pwynt) |
1897-? | Swinton | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Canolwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
?-1897 |
Seaside Stars Llanelli | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1895-1896 | Cymru | 4 | 0 |
Roedd Owen Badger (3 Tachwedd 1871 - 17 Mawrth 1939) [1] yn ganolwr rygbi ryngwladol o Gymru a chwaraeodd rygbi'r undeb i Lanelli, ac a gafodd ei gapio pedair gwaith i Gymru.[2] Yn ddiweddarach fe newidiodd gòd, gan chwarae rygbi'r gynghrair proffesiynol i Swinton.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Badger yn Llanelli, yn blentyn i Henry Badger, gweithiwr copr, a Mary Ann (née Charles) ei wraig, fe'i haddysgwyd mewn ysgol elfennol yn unig. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth yn gweithio'r rholer yn y gwaith tunplat.[3] Ym 1893 priododd Martha Thomas. Bu iddynt tri o blant.
Bu farw yn Llanelli yn 67 oed.
Gyrfa rygbi
[golygu | golygu cod]Daeth Badger i amlygrwydd yn chwarae i Lanelli. Roedd yn rhan o'r tîm a enillodd Gwpan Her De Cymru yn ystod tymor 1893/94 dan gapteiniaeth Ben James. Wrth chwarae i Lanelli, dewiswyd Badger gyntaf i gynrychioli Cymru mewn gêm yn erbyn Lloegr fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1895. O dan gapteiniaeth Arthur Gould, collodd Cymru'r gêm 6-14, yn bennaf oherwydd chwarae llawer gwell gan blaenwyr Lloegr. Er ei fod yn ymddangos ar yr ochr golli, ail-ddewiswyd Badger ar gyfer y gêm nesaf. Roedd gêm yr Alban yn un llawer agosach, ond collodd Cymru’r ornest hon hefyd, er i gêm olaf y twrnamaint gartref i Iwerddon weld Cymru’n fuddugol diolch i drosiad Billy Bancroft o gais Tom Pearson. Yr ornest hon oedd unig ymddangosiad Badger ar dîm rhyngwladol buddugol mewn rygbi'r undeb. Roedd ei gêm amatur olaf i Gymru yng ngêm agoriadol y Bencampwriaeth y tymor olynol. Roedd hi'n gêm ddiflas i Gymru a Badger, oherwydd yn ystod 15 munud cyntaf yr ornest, fe dorrodd asgwrn ei goler mewn tacl a gorfodwyd ef i adael y cae.[4] Gan nad oedd hawl defnyddio eilwyr yn y cyfnod yma o hanes rygbi, bu'n rhaid i Gymru chwarae gyda dim ond 14 dyn a gwelwyd saith cais yn cael eu sgorio yn eu herbyn heb ateb. Collodd Badger ei le ar gyfer y gêm nesaf. Rhoddwyd ei le i Gwyn Nicholls, un o'r trichwarterwyr gorau i chware rygbi i Gymru yn ei ddydd.
Ni wyddys a fyddai Badger wedi adennill ei safle yn nhîm Cymru, gan iddo newid cod i rygbi'r gynghrair broffesiynol ym 1897. Ei ffi am ymuno â Swinton oedd £75, gyda ffi gêm o £ 2/10 swllt yr wythnos. Arhosodd teulu Badger yng Nghymru tra roedd yn chwarae ym Manceinion. Achosodd hyn sgil effaith i Swinton. Cafodd y tîm fforffed o ddau bwynt pan gollodd Badger gêm i ymweld â'i blant sâl yng Nghymru. Ar ôl dychwelyd, anghofiodd Swinton ofyn caniatâd gan Undeb y Gogledd (y Gynghrair Bêl-droed Rygbi (RFL bellach) i ailgyflwyno Badger i'r tîm, a chosbwyd y clwb y ddau bwynt.[5]
Wedi ymddeol o chwarae rygbi bu Badger yn gwasanaethu fel dyfarnwr gwirfoddol ar gyfer gemau clybiau haen isaf leol yn ardal, Llanelli. Rhywbeth a chododd gwrychyn rai, gan fod y ffaith ei fod wedi derbyn tâl am chwarae yn golygu nad oedd ganddo'r hawl i chware unrhyw ran bellach yng ngêm yr undeb.[6]
Gemau rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
- Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Owen Badger player profile Scrum.com
- ↑ Welsh Rugby Union player profiles[dolen farw]
- ↑ "FOOTBALLI - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1895-08-27. Cyrchwyd 2021-03-04.
- ↑ Godwin (1984), tud 46.
- ↑ Collins, Tony; Rugby's Great Split: Class, Culture and the origins of Rugby League Football, Frank Cass Publishers, (1998) pg 172. ISBN 0-7146-4424-2
- ↑ "OWEN BADGER AS REFEREE - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1907-01-14. Cyrchwyd 2021-03-04.