Iolo Morganwg
Iolo Morganwg | |
---|---|
Ffugenw | Iolo Morganwg |
Ganwyd | 10 Mawrth 1747 Llancarfan |
Bu farw | 18 Rhagfyr 1826 Trefflemin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, gwerthwr hen greiriau, llenor, hynafiaethydd, ffermwr, counterfeiter |
Plant | Taliesin Williams, Margaret Williams |
Bardd a hynafiaethydd o Gymru oedd Edward Williams (10 Mawrth 1747 – 18 Rhagfyr 1826), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Iolo Morganwg. Fel sylfaenydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ef sy'n gyfrifol am wreiddiau prif seremonïau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Dim ond yn yr ugeinfed ganrif, drwy waith ysgolheigaidd Thomas Parry[1] ac eraill y sylweddolwyd ei fod yn un o'r ffugwyr llenyddol mwyaf cynhyrchiol a llwyddiannus erioed, a bod nifer fawr o'i "ddarganfyddiadau" newn gwirionedd yn ddyfeisiadau ei ddychymyg ei hun, gan gynnwys Coelbren y Beirdd, yr honnai Iolo ei fod yn wyddor hynafol beirdd Ynys Prydain.[2][3][4][5]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Edward Williams ym 1747 ym mhentref Pennon ym mhlwyf Llancarfan ym Morgannwg, ond symudodd ei rieni i bentref Trefflemin, rhai milltiroedd yn unig i ffwrdd, ar lan Afon Ddawan, ac yno y'i magwyd ac y bu'n byw am y rhan helaeth o'i oes. Gweithiodd trwy gydol ei oes fel saer maen, ym Morgannwg ac yn Lloegr, ond daeth yn enwog fel hynafiaethwr, bardd a radical. Yn Llundain roedd yn aelod ymroddgar o'r Gwyneddigion, cylch o lenorion gwladgarol a oedd yn cynnwys William Owen Pughe ac Owain Myvyr. Daeth i adnabod Robert Southey a dechreuodd alw ei hun yn "The Bard of Liberty". Fel rhai o lenorion mawr eraill yr oes roedd Iolo'n hoff iawn o opiwm ar ffurf lodnwm.
Tra yng ngharchar Caerdydd dros fethdaliad, ganed ei fab a fedyddiodd yn Daliesin. Roedd Taliesin yn ddisgybl i'w dad a golygodd ran o'i waith ar ôl ei farwolaeth.
Pan fu farw Iolo yn 78 oed ar 18 Rhagfyr 1826, bu galar ar ei ôl gan lawer o feirdd Cymru ac eraill a'i edmygai. Cyfansoddodd Walter Davies (Gwallter Mechain) 'gywydd-gofiant' iddo sy'n clodfori ei ddysg a'i ddawn ac sy'n cloi gyda'r llinellau hyn:
- Tra bo ton yn afon Nedd
- A Dawon i'r un duedd,
- Taf a Chynon afonydd
- Yn gyr[r]u'u dwfr i Gaer Dydd,
- Bydd ym mhob glyn, bryn a bro
- Miloedd yn sôn am Iolo.[6]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Iolo oedd un o olygyddion tair cyfrol y Myvyrian Archaiology (1801-1807).
Cyfansoddodd Iolo nifer o gerddi. Yn eu plith mae'r cywyddau a dadogodd ar feirdd o'r Oesoedd Canol, rhai ohonynt yn feirdd hanesyddol, fel Dafydd ap Gwilym, ac eraill yn greaduriaid o ben a phastwn Iolo ei hun. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o'r cywyddau dan y teitl Poems Lyric and Pastoral ym 1794. Er i ddilysrwydd y cerddi hyn gael ei amau ac yna ei gwrthbrofi gan ysgolheigion yr 20g, maent yn cael eu cydnabod fel cerddi gwych ynddynt eu hunain erbyn heddiw. Cyfansoddodd nifer fawr o emynau ar gyfer yr Undodiaid Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1812. Ysgrifennodd nifer o gerddi rhydd swynol yn ogystal.
Wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain ym 1829 ac ym 1848 gwelodd ei gasgliad mawr o farddoniaeth a rhyddiaith hanesyddol, ffug a dilys, olau dydd yn y gyfrol yr Iolo Manuscripts (The Welsh Manuscripts Society, 1848). Yn ddiweddarach yn y 19g cyhoeddwyd rhai o'i ffugweithiau eraill, yn cynnwys Coelbren y Beirdd (1840), Dosparth Edeyrn Dafod Aur (The Welsh Manuscripts Society, 1856) a Barddas (The Welsh Manuscripts Society: 1862, 1874).
Mae'r rhan fwyaf o lawysgrifau a llyfrau Iolo yn cael eu diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ers 1916.
Dylanwad
[golygu | golygu cod]Yn ystod y can mlynedd ar ôl ei farwolaeth ym 1826, daeth enw Iolo Morganwg yn destun llosg yng Nghymru, wrth i ysgolheigion cyfoes ddatguddio faint o "ddarganfyddiadau" Iolo oedd, mewn gwirionedd, yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun. Ond erbyn heddiw, er bod pawb yn derbyn mai ffugio a wnaeth, mae defodau a seremonïau Iolo wedi ennill eu plwyf ym mywyd diwylliannol Cymru, ac mae Iolo ei hun wedi dod yn arwr i'r Cymry.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gweithiau Iolo (detholiad)
- Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829)
- Iolo Manuscripts (The Welsh Manuscripts Society, 1848; ail argraffiad ffacsimili, Isaac Foulkes, Lerpwl, 1888).
- Coelbren y Beirdd (1840)
- Dosparth Edeyrn Dafod Aur (The Welsh Manuscripts Society, 1856)
- Barddas (The Welsh Manuscripts Society: 1862, 1874)
- Cerddi Rhydd Iolo Morganwg, gol. P. J. Donovan (Caerdydd, 1980). Detholiad sy'n cynnwys nifer o'r cerddi "canoloesol" ffug.
- Astudiaethau
- Cathryn A. Charnell-White, Bardic Circles[:] National, Regional and Personal Identity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2067-9
- Mary-Ann Constantine, The Truth against the World[:] Iolo Morganwg and Romantic Forgery (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2062-4
- Geraint H. Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius[:] The Many Faces of Iolo Morganwg (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2005). ISBN 978-0-7083-1971-0
- Geraint H. Jenkins et al. (gol.), The Correspondence of Iolo Morganwg, mewn 3 cyfrol (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2131-7
- Marion Löffler, The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg 1826-1926 (Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2113-3
- Prys Morgan, Iolo Morganwg (cyfres Writers of Wales, 1975)
- Brinley Richards, Golwg Newydd ar Iolo Morgannwg (1979)
- T.D. Thomas, Cofiant (1857)
- Elijah Waring, Recollections and Anecdotes of Edward Williams (1850)
- G.J. Williams, Iolo Morgannwg (Caerdydd, 1956)
- Nofelau
- Gareth Thomas, Myfi, Iolo[7]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Parry, Thomas (1944), Hanes Llenyddiaeth Gymraeg Hyd 1900
- ↑ Cambrian Archaeological Association (1846). Archaeologia cambrensis. W. Pickering. tt. 472–. ISBN 978-0-9500251-9-3. Cyrchwyd 8 November 2012.
- ↑ Lewis (Glyn Cothi) (1837). Gwaith Lewis Glyn Cothi: The Poetical Works of Lewis Glyn Cothi, a Celebrated Bard, who Flourished in the Reigns of Henry VI, Edward IV, Richard III, and Henry VII. Hughes. tt. 260–. Cyrchwyd 8 November 2012.
- ↑ Iolo Morganwg; Owen Jones; Society for the Publication of Ancient Welsh Manuscripts, Abergavenny (1848). Iolo manuscripts: A selection of ancient Welsh manuscripts, in prose and verse, from the collection made by the late Edward Williams, Iolo Morganwg, for the purpose of forming a continuation of the Myfyrian archaiology; and subsequently proposed as materials for a new history of Wales. W. Rees; sold by Longman and co., London. tt. 10–. Cyrchwyd 24 October 2012.
- ↑ Marion Löffler (2007). The literary and historical legacy of Iolo Morganwg, 1826–1926. University of Wales Press. ISBN 978-0-7083-2113-3. Cyrchwyd 24 October 2012.
- ↑ Gwallter Davies, 'Cywydd-gofiant Iolo Morganwg', D Silvan Evans (gol.), Gwaith Gwallter Mechain, cyfrol 1 (Caerfyrddin, 1868). Tud. 61.
- ↑ "Gareth Thomas: Cyfieithu Myfi, Iolo i'r Gymraeg / Author Gareth Thomas: Translating I, Iolo into Welsh". Parallelcymru. Cyrchwyd 18 Medi 2019.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru Prosiect yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaid, Prifysgol Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru Archifwyd 2016-03-11 yn y Peiriant Wayback - Hanes Iolo Morganwg a'r llawysgrif History of the British Bards
- Un o arwyr Cymru Archifwyd 2010-04-12 yn y Peiriant Wayback
- Prifysgol Tromso - llyfryddiaeth
- Gareth Thomas: Iolo Morganwg a’r Eisteddfod Genedlaethol Erthygl ddwyieithog gan awdur 'Myfi, Iolo'
- Iolo Morganwg
- Genedigaethau 1747
- Marwolaethau 1826
- Beirdd y 18fed ganrif o Gymru
- Beirdd y 19eg ganrif o Gymru
- Beirdd Cymraeg o Gymru
- Beirdd Saesneg o Gymru
- Emynwyr Cymraeg
- Gweriniaethwyr o Gymru
- Heddychwyr o Gymru
- Hynafiaethwyr o Gymru
- Pobl o Fro Morgannwg
- Undodiaid
- Y Bont-faen
- Ysgolheigion y 18fed ganrif o Gymru
- Ysgolheigion y 19eg ganrif o Gymru
- Ysgolheigion Cymraeg o Gymru
- Ysgolheigion Saesneg o Gymru