Degannwy
Math | tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.3°N 3.8°W |
Cod OS | SH779791 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Tref fechan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Deganwy[1][2] neu Degannwy (llurguniad: Deganway). Gorwedd i'r de o dref Llandudno, ac i'r dwyrain o dref Conwy, sydd gyferbyn iddi ar ochr arall Afon Conwy. Mae yno orsaf ar y rheilffordd sy'n rhedeg rhwng Llandudno a Chyffordd Llandudno, tua milltir i'r de. O ran llywodraeth leol, mae'n rhan o gymuned Conwy.
Yr enw
[golygu | golygu cod]Ceir mwy nag un cais i esbonio'r enw. Un posibilrwydd yw ei fod yn deillio o enw'r Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru. Mae Ifor Williams yn dadlau fod yr -wy terfynol yn cynrychioli gwy sy'n golygu 'ystum, tro,' ac sy'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd (e.e. afon Elwy). Degannwy yw'r ffurf safonol a chynharaf, ond gwelir Deganwy yn aml hefyd. Clywir y ffurf Deganwa ar lafar weithiau, ac efallai taw hynny sy'n gyfrifol am y ffurf Seisnigaidd gyffredin Deganway.[3]
Yr hen enw ar "Deganwy Quay", yr hen harbwr ble saif gwesty newydd o'r un enw ydy Cored Maelgwn;[4] pysgodfa neb llai na’r brenin Maelgwn Gwynedd yn y 6g.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'n fwyaf nodedig am Gastell Degannwy, a oedd yn y 6g yn gadarnle Maelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd. Ymddengys mai Deganwy oedd safle prif lys Gwynedd yr adeg yma, ond yn ddiweddarach symudodd i Aberffraw ar Ynys Môn. Dyma un o brif ganolfannau Cantref Rhos. Adeiladwyd nifer o gaerau ar y bryn lle saif y castell dros y canrifoedd, gan gynnwys castell Normanaidd yn 1082, oedd yn perthyn i Robert o Ruddlan. Yn ddiweddarach adeiladwyd castell yno gan Llywelyn Fawr. Chwalwyd y castell yma, a defnyddiwyd llawer o'r meini i adeiladu Castell Conwy.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 3 Medi 2023
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
- ↑ Ifor Williams, Enwau Lleoedd.
- ↑ Gwefan Llên Natur Archifwyd 2016-03-14 yn y Peiriant Wayback; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan