Lesley Griffiths
Lesley Griffiths AS | |
---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |
Aelod o Senedd Cymru dros Wrecsam | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 3 Mai 2007 | |
Rhagflaenwyd gan | John Marek |
Mwyafrif | 1,325 (6.5%) |
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 19 Mai 2016 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Carl Sargeant |
Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi | |
Yn ei swydd 11 Medi 2014 [1] – 19 Mai 2016 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Jeffrey Cuthbert |
Dilynwyd gan | Carl Sargeant |
Llywodraeth Lleol a Busnes Llywodreth | |
Yn ei swydd 14 Mawrth 2013 [2] – 11 Medi 2014 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Carl Sargeant |
Dilynwyd gan | Leighton Andrews fel Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, Jane Hutt fel Gweinidog dros Fusnes Llywodraeth |
Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | |
Yn ei swydd 13 Mai 2011 – 14 Mai 2013 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Edwina Hart |
Dilynwyd gan | Mark Drakeford |
Manylion personol | |
Ganwyd | 1960 (63–64 oed) |
Plaid wleidyddol | Llafur Cymru |
Swydd | Ymgynghorwr gwleidyddol |
Gwefan | Gwefan Llafur Cymru |
Gwleidydd Llafur Cymru yw Susan Lesley Griffiths AC, a adwaenir fel Lesley Griffiths (ganwyd 1960) sydd yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Wrecsam ers 2007.[3]
Bu'n gweithio fel ysgrifennydd i John Marek a chynorthwy-ydd etholaeth i Ian Lucas, dau gyn Aelod Seneddol dros Wrecsam. Yn 2011, fe'i penodwyd yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.[4] swydd y bu ynddi hyd fis Mawrth 2012. Mae hi ar hyn o bryd yn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.[5]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ymgyrch 2003
[golygu | golygu cod]Cafodd John Marek ei dynnu o restr ymgeiswyr y Blaid Lafur yn 2003 wedi iddo gael sawl anghytundeb gyda'i blaid; fe aeth ati i apelio yn erbyn y penderfyniad. Yn dilyn ymchwiliad gan y Blaid Lafur, lle cysylltwyd â Marek yn gyntaf dros y ffôn hanner awr cyn cyhoeddi'r canlyniad, cafodd y penderfyniad ei gadarnhau, a phenderfynodd Marek ymladd i gadw'i sedd fel aelod Annibynnol.[6] Dewiswyd Griffiths i'w olynu fel ymgeisydd swyddogol y Blaid Lafur a gwynebodd frwydr yn ystod yr ymgyrch; dangosodd arolwg cynnar bod Marek yn ei churo o 40% i 29%.[7] Ar ddiwrnod yr etholiad, roedd Griffiths wedi cau'r bwlch, ond fe gollodd o 973 pleidlais.
Etholiad 2007
[golygu | golygu cod]Yn Rhagfyr 2005 cafodd ei dewis unwaith eto fel ymgeisydd Llafur etholaeth Wrecsam yn etholiad y Cynulliad, 2007. Fe elwodd o gymorth proffil uchel wrth i'r blaid weld cyfle i adennill y sedd; apeliodd John Marek at y boblogaeth o fewnfudwyr Pwylaidd drwy gyfieithu ei ddeunydd etholiadol i Bwyleg.[8] Fodd bynnag, cynyddodd Griffiths nifer ei phleidlais tra disgynnodd pleidlais Marek, ac enillodd hi'r sedd gyda mwyafrif o 1,250.
Yn 2011, cystadlodd Griffiths yn erbyn Marek am y trydydd tro, er bod Marek erbyn hyn wedi ymuno â'r Ceidwadwyr. Fe wnaeth y ddau gynyddu eu pleidleisiau o'i gymharu â 2007, ond cadwodd Griffiths sedd gyda chynnydd yn ei mwyafrif o 3,337.[9] Ail-ddewiswyd Griffiths i amddiffyn ei sedd yn etholiad 2016.[10]
Cyfrifoldeb gweinidogol
[golygu | golygu cod]Penodwyd Griffiths yn Ddirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau yn Rhagfyr 2009.[11] Ar ôl etholiad 2011, cafodd ei dyrchafu'n Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a bu yn y swydd tan fis Mawrth 2013, pan y penodwyd hi'n Weinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Wedi bod yn un o gefnogwyr Clwb pêl-Droed Wrecsam, cafodd Griffiths ei ethol i fwrdd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-29156951
- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-21789790
- ↑ http://www.senedd.assemblywales.org/mgUserInfo.aspx?
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-22. Cyrchwyd 2016-05-10.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-22. Cyrchwyd 2016-05-10.
- ↑ Martin Shipton, "Marek likely to stand as independent", Western Mail, 12 Mawrth 2003.
- ↑ Kirsty Buchanan, "Marek beating Labour", Western Mail, 11 Ebrill 2003.
- ↑ Allegra Stratton, "'Glosuj na mnie!'"
- ↑ "BBC News - Election 2011". BBC News. Cyrchwyd 16 Chwefror 2016.
- ↑ "Starting Gun Fired For Wrexham's National Assembly For Wales Election 2016". wrexham.com. Cyrchwyd 16 Chwefror 2016.
- ↑ "Welsh Assembly Government:Lesley Griffiths AM". Gwefan Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-14. Cyrchwyd 16 May 2010.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan bersonol Archifwyd 2016-07-19 yn y Peiriant Wayback