Caerau Rhufeinig Cymru
Codwyd nifer o gaerau yng Nghymru gan y Rhufeiniaid rhwng canol y ganrif gyntaf O.C. a chanol y 4g. Fe'i cysylltid gan rwydwaith o ffyrdd Rhufeinig.
Rhestr yn ôl maint
[golygu | golygu cod]Caerau mawr
[golygu | golygu cod]Roedd y rhwydwaith milwrol Rhufeinig yng Nghymru o siâp hirsgawr gyda phedair caer ym mhob congl ohono.
Yn y de-ddwyrain ceir caer Isca Silurum (Caerllion ar Wysg), ger Casnewydd heddiw. Hon oedd pencadlys y Rhufeiniaid yn y de. Yn gyfateb iddi yn y gogledd-ddwyrain dewiswyd safle ger aber Afon Dyfrdwy ar gyfer Deva (dinas Caer heddiw). Yn y ddwy gaer hyn sefydlwyd pencadlysoedd y llengoedd yng Nghymru, sef y Legio II Adiutrix yn Deva hyd 66 ac yna'r Legio XX Valeria Victrix, a'r Legio II Augusta yn Isca Silurum.
Yn ail i'r ddwy gaer roedd caer Segontium yn y gogledd-orllewin (ger Caernarfon) a chaer Maridunum (neu Moridunum) yn y de-orllewin (Caerfyrddin).
Yn ogystal roedd yna gaer yn Viroconium (ger Caerwrygion) i gadw golwg ar ganolbarth y wlad.
Yn ychwanegol i'r caerau hyn roedd yna gyfres o gaerau llai:
Yn y gogledd ceir Caer Gybi ac Aberffraw ar Ynys Môn, Caerhun (Dyffryn Conwy), Bryn-y-Gefeiliau (neu Caer Llugwy, ger Capel Curig), Pen Llystyn (ger Bryncir), Tomen-y-mur, Caer Gai, Y Bala a Pennal ym Meirionnydd. Mae lleoliad Varis yn ansicr, ond credir iddi gael ei chodi ger Llanelwy.
Yn y canolbarth a'r gorllewin ceir Caersŵs, Caer Ffordun a Cae Gaer ym Maldwyn, Trawscoed a Llanio yng Ngheredigion, Caerau, Pen-y-gaer ac Y Gaer ym Mrycheiniog, a chaerau Castell Collen a Clyro ym Maesyfed.
Yn olaf, yn y de-ddwyrain ceir Coelbren Gaer, Castell Nedd, Pen-y-darren, Gelli-gaer a chaer Caerdydd ym Morgannwg, a chaer Y Fenni a Choed y Caerau ym Mynwy.
Caerau llai
[golygu | golygu cod]Rhwng y caerau mawr ceir caerau llai yn Holt, Brithdir (Meirionnydd), Pen-y-crogbren (Sir Drefaldwyn), Pant Teg Uchaf (Ceredigion), Mynydd Myddfai a Castell Madog ym Mrycheiniog a Hirfynydd ym Morgannwg a Caer Rufeinig Blestiwm yn Sir Fynwy.
Mathau gwahanol
[golygu | golygu cod]Gwylfeydd
[golygu | golygu cod]Darganfuwyd olion gwylfeydd Rhufeinig ar Fynydd Twr ger Caergybi, ym Mryn Glas ger Segontium (Arfon) a ger caer Hirfynydd ym Morgannwg. Pwrpas y rhain oedd rhoi rhybudd i'r gaer pe ddeuai ymosodiad.
Gwersylloedd dros dro
[golygu | golygu cod]Ceir olion caerau dros dro yn: Pen-y-gwryd ger yr Wyddfa, Rhyd Sarn (Meirionnydd), ger Caersws a Chaer Fforden (Trefaldwyn), Cwm-y-cadno ac Arosfa Garreg (Sir Gaerfyrddin), Y Pigwn, Heol-y-gaer ac Ystradfellte (Brycheiniog) a Blaen-cwm-bach, Twyn-y-briddallt a Pen-y-coed Cae ym Morgannwg.
Caerau ymarfer
[golygu | golygu cod]Gerllaw Tomen-y-mur a Doldinas (Meirionnydd), Caerau (Brycheiniog), ar Gomins Llandrindod ac ar Gomins Stafford, Mynydd Carn Coch a Chomins Gelli-gaer ym Morgannwg.
Rhestrau Cadw
[golygu | golygu cod]Nodir y caerau a'r gwersylloedd canlynol ar restr Cadw.[1]
Caer
[golygu | golygu cod]- Caergybi: Caer Gybi (caer): OS SH247826
- Aberhonddu: Y Gaer: OS SO003296
- Treflys: Safle Rufeinig Caerau: OS SN923502
- Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin: Caer Rufeinig Pen y Gaer: OS SO168219
- Trawsgoed: Caer Rufeinig Trawsgoed: OS SN670727
- Lladdewi Brefi: Caer Rufeinig i'r Gorllewin o Gaer Llanio: OS SN642563
- Lladdewi Brefi: Caer Llanio: OS SN643564
- Melindwr: Caer Rufeinig Pen-llwyn: OS SN650806
- Llanymddyfri: Safle Rufeinig Llanymddyfri: OS SN769352
- Myddfai: Caer Rufeinig Mynydd Myddfai: OS SN820310
- Cynwyl Gaeo: Caer Rufeinig Pumsaint: OS SN655405
- Caerfyrddin: Maridunum: OS SN415200
- Llandeilo: Caer Rufeinig Dinefwr: OS SN622224
- Llanfair-ar-y-bryn: Caer Rufeinig Abererbwll: OS SN849415
- Caerhun: Caerhun: OS SH777704
- Caernarfon: Segontium: OS SH485624
- Capel Curig: Bryn-y-Gefeiliau: OS SH746572
- Caernarfon: Hen Waliau: OS SH482623
- Gelligaer: Caer Rufeinig Gelligaer ST133972
- Onllwyn: Caer Rufeinig Coelbren: OS SN859107
- Caerdydd: Caer Rufeinig Caerdydd: OS ST180765
- Castell-nedd: Nidum: OS SS747977
- Pont-y-clun: Caer Rufeinig Meisgyn: OS ST 043 807
- Pennal: Caer Rufeinig Pennal: OS SH705000
- Llanuwchllyn: Caer Gai: OS SH877314
- Maentwrog: Tomen y Mur: OS SH709384
- Brithdir a Llanfachreth: Caer Rufeinig Brithdir: OS SH772188
- Llandderfel: Caer Rufeinig Llanfor: OS SH937361
- Caersws: Safle Rufeinig Caersws: OS SO029921
- Llanfair Caereinion: Caer Rufeinig Llanfair Caereinion: OS SJ105044
- Trelystan: Caer Ffordun: OS SO209990
- Caerswsgw uchodSO029918
Caerswsgw uchodSO028918
- Caerllion: Gwersyll Rhufeinig Penrhos: OS ST342917
- Langstone: Caer Rufeinig Pen-Toppen-Ash: OS ST378915
- Pontllanfraith: Caer Rufeinig Pen-Llwyn-Fawr: OS ST174953
- Brynbuga: Caer Rufeinig Brynbuga: OS SO379006
- Y Fenni: Caer Rufeinig y Fenni: OS SO298140
- Caerllion: Caer Rufeinig Caerllion: OS ST338906
Cadarnle lleng
[golygu | golygu cod](Saesneg: Legionary fortress)
Mae'r unig gadarnle lleng y gwyddys amdano yng Nghaerllion.
Gwersylloedd dros dro
[golygu | golygu cod](Saesneg: marching camp)
- Tonna, Castell-nedd: Gwersyll Rhufeinig Blaen-Cwmbach: OS SS798988
- Onllwyn: Gwersyll Rhufeinig Onllwyn: OS SN862102
- Y Clun: Gwersyll Rhufeinig y Clun: OS SN836000
- Llywel: Gwersyll Rhufeinig y Pigwn, Mynydd Myddfai: OS SN828312
- Ystradfellte: Gwersyll Rhufeinig Maen Madog: OS SN923163
- Llangurig: Cae Gaer: OS SN823818
- Rhaeadr Gwy: Gwersyll Rhufeinig Esgairperfedd: OS SN924698
- Sant Harmon: Gwersyll Rhufeinig Sant Harmon: OS SN985716
- Pencraig: Tri gwersyll Rhufeinig Pencraig: OS SO253599
- Aberaman: Gwersyll Rhufeinig Twyn y Bridallt: OS ST001982
- Pontypridd: Gwersyll Rhufeinig Pen y Coedcae: OS ST069880
- Llanddeusant: Gwersyll Rhufeinig Arhosfa Garreg Lwyd: OS SN802262
- Ceiriog Ucha: Gwersyll Rhufeinig Pen Plaenau: OS SJ110363
Gwersylloedd ymarfer
[golygu | golygu cod]- Abertawe: Gwersyll Rhufeinig Mynydd Garn-goch: OS SS608971
- Abertawe: Gwersyll Rhufeinig Stafford: OS SS591973
- Caerffili: Gwersyll Rhufeinig Bargoed: OS ST138991
- Caerffili: Gwersyll Rhufeinig Fforest Gwladys: OS ST131990
- Gwynedd: Gwersyll Rhufeinig Dôl-ddinas: OS SH734379
- Powys: Gwersyll Rhufeinig Llandrindod: OS SO542600
- Sir Gaerfyrddin: Gwersyll Rhufeinig Hafod Fawr: OS SN 812 315
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- I. Ll. Foster a Glyn Daniel (gol.), Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965)
- Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978)
Caerau Rhufeinig Cymru | |
---|---|
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis |