Ysgol y Moelwyn
Ysgol y Moelwyn | |
---|---|
Arwyddair | Amser Dyn yw ei Gynysgaeth |
Sefydlwyd | 1895 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mrs Eleri Moss |
Lleoliad | Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, Cymru, LL41 3DW |
AALl | Cyngor Gwynedd |
Staff | 41 |
Disgyblion | 880 (1996)
360 (2021) |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–16 |
Lliwiau | Glas a Melyn |
Ysgol uwchradd Gymraeg ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd, ydy Ysgol y Moelwyn.
Mae'r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion o oedran 11 i 16, yng nghyfnod allweddol 3 a 4, hyd nes iddynt gwblhau cymhwysterau TGAU, fel rheol.
Mae'r ysgol yn gwasanaethu Ffestiniog ac ardaloedd cyfagos, fel Trawsfynydd. Er ystyrir yr ardal yn un ddifreintiedig, arferai'r ysgol fod a record o ddarparu addysg safonol o'i chymharu ag ysgolion eraill yng Ngwynedd a thu hwnt.[1]
Caiff disgyblion eu penodi un o bedwar 'tŷ' : Bowydd, Prysor, Cynfal a Dwyryd. Rhain yw dosbarthiadau cofrestru y disgyblion o fewn eu blwyddyn yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol.
Arweinyddiaeth yr ysgol
Mrs Eleri Moss yw pennaeth yr ysgol ers tua 2021, wedi bod yn 'bennaeth mewn gofal' am gyfnod byr cyn hynny. Cyn hynny, bu'n bennaeth dyniaethau ag athrawes ysgrythur.
Ers blynyddoedd, arweinir yr ysgol gan 'uwch dim rheoli' lle penodir grwp cyfyngedig o staff i gyd-arwain gyda'r pennaeth, gan gydweithio gyda chorff llywodraethol yr ysgol. Credir i'r uwch dim rheoli cyfredol gynnwys Mrs Mari Roberts fel pennaeth cynorthwyol, ynghyd a Mr Daniel Bell, Mrs Elin Williams a Miss Sharon Davies.[2]
Yn flaenorol, arweinwyd yr ysgol yn llwyddiannus am ddegawdau gan y cyn brifathro Mr Dewi Lake[3], a'r dirprwy bennaeth Mr Iolo Owen.
Opsiynau yn dilyn gadael yr ysgol
Nid oes chweched dosbarth wedi bodoli yn yr ysgol ers ei chau dros gwpl o ddegawdau yn ol.
Bydd y mwyafrif o ddisgyblion yn mynd ymlaen i gwblhau addysg ol-16 oed yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Arfera leiafrif o ddisgyblion barhau eu haddysg yn chweched dosbarth Ysgol Y Berwyn, Bala (hefyd yng Ngwynedd) neu chweched Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst (tu allan i'r sir) er fod cyfyngiadau ar wasanaethau trafnidiaeth yn aml yn cyfyngu gallu nifer o ddisgyblion i fynychu'r sefydliadau yma.
Bydd lleiafrif o ddisgyblion sy'n gadael hefyd yn mynychu Coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli neu Glynllifon neu Goleg Menai.
Nifer o ddisgyblion
Yn ol Estyn, roedd 313 o ddisgyblion yn mynychu'r ysgol yn 2017.[4]
Ysgol y Moelwyn oedd ysgol uwchradd fwyaf Meirionnydd yn 2003, pan oedd 420 o ddisgyblion yn yr ysgol.[5]
Perfformiad addysgol y gorffennol
Yn ôl ffigyrau arolygiad Llywodraeth Cymru o berfformaiad addysgol holl ysgolion uwchradd Cymru yn ystod 2010/11, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2012, Ysgol y Moelwyn oedd 4ydd ysgol uwchradd orau yng Ngwynedd,[6] a'r 53fed ysgol uwchradd orau yng Nghymru (o gyfanswm o 219 ysgol).[6]
Mae'r corff Estyn yn arolygu ysgolion yng Nghymru. Yn eu harolygiad diweddaraf o Ysgol y Moelwyn yn ol yn 2017, beirniadwyd yr ysgol yn "dda" (yr ail gategori gorau allan o bedwar) mewn pedwar allan o bump maes, ac eithrio "safonau", a feirniadwyd yn "ddigonol ac angen gwella" (y trydydd categori gorau allan o bedwar).[4] Yn benodol, dywedwyd fod angen gwella safonau yn enwedig yn Nghyfnod Allweddol 4 ag yn Saesneg.[4]
Cyfres deledu "Ysgol Ni"
Yn 2022, roedd yr ysgol yn destun i gyfres deledu ddogfen ar S4C o'r enw "Ysgol Ni". [7] Rhoddodd y raglen gipolwg ar fywyd yr ysgol o safbwynt disgyblion ac athrawon, gan gynnwys y pennaeth Mrs Eleri Moss, Mr Daniel Bell a Mrs Mari Roberts. Dangosodd y rhaglen fod yr ysgol bellach yn defnyddio dulliau mwy amgen o reoli ymddygiad heriol gan rai disgyblion, gan ddefnyddio uned arbennig o'r enw "Stwlan".
Rhestr staff
Roedd un o'r rhestrau diweddaraf yn nodi'r canlynol fel aelodau staff dysgu'r ysgol[2]:
- Pennaeth: Mrs Eleri Moss
- Pennaeth Cynorthwyol: Mrs Mari Roberts
- Pennaeth Saesneg: Miss Sharon Davies
- Pennaeth Cerddoriaeth: Mrs Elin Williams (Pennaeth Hanes gynt)
- Pennaeth Gwyddoniaeth: Mr Owain Huws
- Pennaeth Mathemateg: Mrs Ffion Williams
- Pennaeth Addysg Grefyddol: Miss Suzanne Roberts
- Pennaeth Technoleg Gwybodaeth: Mrs Cheryl Lloyd-Owen
- Pennaeth Ffrangeg: Miss Stephanie Haines
- Pennaeth Celf: Mrs Annette Morris
- Pennaeth Technoleg: Mrs Carys Thomas
- Pennaeth Addysg Gorfforol: Miss Alwen Williams
- Mathemateg: Miss Gail Chart-Parry
- Cymraeg: Mrs Rhian Williams
- Mathemateg: Mrs Elin Sion
- Saesneg: Mrs Georgia Churm
- Bioleg: Mrs Ceri Lane
- Ffiseg: Miss Gwenno Foster-Evans
- Daearyddiaeth: Mr Edward Thomas
- Addysg Gorfforol: Ceri Roberts
Rhai cyn-athrawon nodedig
- Pennaeth Cymraeg: Miss Gwen Edwards
- Cymraeg: Mrs Haf Thomas
- Drama: Mrs Meinir Humphreys
- Ffrangeg: Mr Bruno Guillemin
- Arlunio: Mr Ken Pierce
Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol
- Ysgol Bro Cynfal
- Ysgol Edmwnd Prys
- Ysgol Manod
- Ysgol Tanygrisiau
- Ysgol Bro Hedd Wyn
- Ysgol Maenofferen
Rhai cyn-ddisgyblion Nodedig
- Llewelyn Wyn Griffith awdur, bardd a darlledwr
- Ted Breeze Jones - naturieithwr, adarydd a ffotograffydd.
- Ceri Cunnington - canwr.
- Bruce Griffiths - ysgolhaig a geiriadurwr (golygydd Geiriadur yr Academi).
- Arwel Gruffydd - actor a chyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru.
- Geraint Vaughan Jones - nofelydd.
- Twm Miall - awdur a dramodydd.
- Dewi Prysor - awdur a bardd.
- Eigra Lewis Roberts - nofelwraig a dramodydd.
- Iwan Roberts - actor, telynegwr a chanwr.
- Yr Athro John Rowlands - llenor ac academydd.
- Yr Athro Gwyn Thomas - bardd, darlithydd a chyn-Fardd Cenedlaethol Cymru.
- Gai Toms - cerddor, canwr a chyfansoddwr.
- Ynyr Williams - cynhyrchydd teledu.
- Glyn Wise - cyflwynwr radio.
Cyfeiriadau
- ↑ Bodden, Tom (2013-12-12). "School bandings 2013: North Wales headteachers' reaction". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-12.
- ↑ 2.0 2.1 "Llawlyfr Ysgol". Ysgol y Moelwyn. Cyrchwyd 2023-09-12.
- ↑ Bodden, Tom (2013-12-12). "School bandings 2013: North Wales headteachers' reaction". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-12.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "Ysgol Y Moelwyn | Estyn". www.estyn.gov.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-12.
- ↑ "Cyngor Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-07-08. Cyrchwyd 2007-10-24.
- ↑ 6.0 6.1 Gwefan BBC: Cyhoeddi sgôr ysgolion uwchradd Cymru
- ↑ "S4C - Ysgol Ni, Y Moelwyn - Canllaw penodau". BBC. Cyrchwyd 2023-09-12.